Cwmni 101 oed o Wynedd ar werth gyda phryder am 90 o swyddi

Mae pencadlys cwmni Roberts of Port Dinorwic rhwng Caernarfon a'r Felinheli
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni 101 oed o Wynedd - sy'n paratoi prydau parod ar gyfer archfarchnadoedd a thai bwyta - wedi cael ei roi ar werth.
Yn ôl adroddiadau, mae dros 90 o weithwyr Roberts of Port Dinorwic ger Caernarfon wedi cael gwybod y gallai'r cwmni orfod cau os nad oedd modd dod o hyd i brynwr.
Gwasanaeth cyfrifwyr ac ymgynghorwyr busnes BDO sy'n delio gyda'r gwerthiant, ond nid oedden nhw na chwmni cyfreithwyr Methdalu a Masnachu Knox am wneud sylw ar y mater.
Cafodd cwmni Roberts ei sefydlu yn 1924 pan aeth Thomas Roberts ati i wneud pasteiod porc i siop bwtsiwr.
Maen nhw bellach yn cyflenwi i dai bwyta, tafarndai a manwerthwyr.
Dywedodd Cyngor Gwynedd bod tîm cefnogi busnes yr awdurdod wedi "cysylltu gyda Roberts of Port Dinorwic i ganfod a oes unrhyw gefnogaeth y gallwn ni ei ddarparu i'r cwmni a'u gweithlu".
Dywedodd Aelod Senedd Arfon, Siân Gwenllian o Blaid Cymru: "Mae unrhyw newyddion am beryglu swyddi yn ergyd drom i ardal fel Arfon.
"Rydw i wedi cysylltu â'r cwmni i gynnig fy nghefnogaeth mewn unrhyw ffordd y medraf, ac rwy'n meddwl am y staff yn y cyfnod ansicr yma."