Llun o'r Ynys Werdd o Ynys Lawd... gyda ffôn symudol!
![Mynyddoedd Wicklow](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/2048/cpsprodpb/4d3d/live/1ff6c4f0-7b54-11ef-9f51-2df4bcb50c71.jpg)
Welwch chi Fynyddoedd Wicklow ar y gorwel?
- Cyhoeddwyd
Pan aeth y ffotograffydd brwd, Alwynne Jones, i Ynys Lawd oddi ar arfordir Ynys Môn i drio cael llun o'r goleudy gyda'r machlud, ychydig a wyddai y byddai'n cael llun o olygfa hyd yn oed mwy trawiadol.
Llwyddodd i dynnu llun llachar o'r haul yn disgleirio dros Fynyddoedd Wicklow draw dros Fôr Iwerddon, a hynny gyda'i ffôn symudol.
"Mae arfordir Ynys Môn yn arbennig i ffotograffwyr dynnu lluniau trawiadol," eglura Alwynne, sy'n aelod o Glwb Camera Caernarfon ac yn tynnu lluniau ers blynyddoedd, "yn enwedig adeg stormydd!"
Dim ond "falle unwaith neu ddwywaith y flwyddyn" mae modd gweld Iwerddon o Ynys Môn, meddai. Tybed a gafodd 'the luck of the Irish' i gael y llun yma?
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd3 Medi 2024
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2024