Arestio dyn ar ôl i ddynes farw ar fferi o Gymru i Iwerddon

Mae heddlu Iwerddon yn ymchwilio i farwolaeth dynes ar fferi a deithiodd o Abergwaun i Rosslare
- Cyhoeddwyd
Mae dyn yn dal i gael ei holi gan yr heddlu ar ôl i ddynes farw ar fferi oedd yn teithio o Abergwaun i Weriniaeth Iwerddon.
Cafodd y Gardaí (heddlu Iwerddon) a'r gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar fferi Stena Line toc wedi 17:00 dydd Mawrth.
Mae Stena Line wedi cadarnhau bod digwyddiad ar eu fferi 14:00 o Abergwaun, sydd wedi'i docio yn Harbwr Rosslare.
Bydd archwiliad post-mortem yn cael ei gynnal a dywedodd y Gardaí mai canlyniad hynny fydd yn pennu cwrs eu hymchwiliad.
Yn ôl cwmni darlledu RTÉ, roedd capten y fferi wedi gwneud galwad argyfwng tua hanner awr cyn cyrraedd terfyn y daith.
Roedd swyddogion arfog y Gardaí a gwasanaethau brys eraill yn rhan o'r ymateb.
Cafodd gwasanaeth fferi 19:00 o Rosslare ei ganslo nos Fawrth, gyda theithwyr wedi hwylio ar fferi Irish Ferries o Rosslare i Benfro, yn ôl y cwmni.

Roedd y fferi yn teithio o Abergwaun i Harbwr Rosslare
Mewn datganiad, dywedodd cwmni Stena Line: "Gallwn gadarnhau fod y Gardaí yn ymchwilio i ddigwyddiad ar y fferi 14:00 o Abergwaun i Rosslare ar ddydd Mawrth Chwefror 24.
"Gan fod ymchwiliad yr heddlu yn parhau, ni allwn rannu rhagor o fanylion ar hyn o bryd.
"Er mwyn hwyluso ymchwiliad y Gardaí, cafodd gwasanaethau 19:30 a 01:30 y Stena Nordica eu canslo nos Fawrth. Cafodd y daith 08:30 o Rosslare fore Mercher a'r daith yn ôl o Abergwaun am 14:00 eu canslo hefyd."
Dywedodd llefarydd ar ran y crwner lleol yn Wexford: "Mae'r crwner wedi cael gwybod am y farwolaeth, a gan fod ymchwiliad yr heddlu yn parhau ni fydd unrhyw fanylion pellach yn cael eu rhannu ar hyn o bryd.
"Fe fydd cwest yn cael ei gynnal, ond dim tan fod pob ymchwiliad wedi ei gwblhau, a bod canlyniad yr archwiliad post mortem wedi ei dderbyn."