Golygfeydd 'ofnadwy' yng Nghwmtyleri wedi tirlithriad

Disgrifiad,

  • Cyhoeddwyd

Mae effaith Storm Bert yng Nghwmtyleri wedi bod yn "ofnadwy", ac fe fydd y llywodraeth yn cynnig cymorth, yn ôl AS yr ardal.

Dywedodd Alun Davies, yr aelod dros Flaenau Gwent: “Mae pobl sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi dros nos yn aros mewn gwestai ar hyn o bryd, mae’r cyngor wedi delio gyda hynny.

"Ond wrth gwrs mae pobl ishe dod 'nôl i'w cartrefi nhw ac maen nhw eisiau teimlo yn saff yn eu cartrefi nhw.

"Mae'n rhaid i bobl deimlo yn saff ble maen nhw yn byw, a dyna fyddwn ni yn edrych beth sydd wedi digwydd fan hyn, pam mae e wedi digwydd."

Pynciau cysylltiedig