Datblygwyr gwesty'r Seiont Manor yn colli apêl cynllunio
- Cyhoeddwyd
Mae apêl yn erbyn gwrthodiad cais i ailddatblygu gwesty moethus yng Ngwynedd wedi ei ddiddymu gan arolygwyr cynllunio.
Ym mis Chwefror fe wrthodwyd caniatâd i ehangu safle gwesty'r Seiont Manor yn Llanrug, ger Caernarfon, sydd wedi bod ar gau ers pedair blynedd.
Ond gyda phryder ynglŷn â maint y cynllun a'r effaith tebygol ar draffig, fe wrthodwyd y cais gan gynghorwyr Gwynedd o 12 pleidlais i un, yn bennaf oherwydd yr effaith byddai'n ei gael ar edrychiad yr ardal.
Yn dilyn apêl gan y datblygwyr, mae arolygwyr cynllunio bellach wedi dod i'r casgliad fod penderfyniad y cyngor yn un teg oherwydd "y niwed a fyddai’n cael ei achosi i gymeriad gwledig a golwg y safle".
Roedd y cynlluniau i ailddatblygu'r safle yn cynnwys adeiladu 28 ystafell wely ychwanegol, gan gynyddu'r nifer i 61.
Roedd bwriad hefyd i godi 39 o gabannau gwyliau a gwella'r cyfleusterau i westeion, gan gynnwys cyrtiau tenis, bloc llety staff, llefydd parcio ychwanegol ac ystafell biomas.
Yn ôl Caernarfon Properties Ltd, byddai ail ddatblygu'r gwesty - sydd wedi bod ar gau ers 2020 - wedi creu "o leiaf" 20 a hyd at 30 o swyddi llawn amser.
Ychwanegon nhw ei fod yn "bwysig i'r economi leol i'w gefnogi".
'Niwed i gymeriad a golwg y safle'
Ond roedd aelodau o'r cyngor wedi datgan gwrthwynebiad i'r cynllun.
Roedd y cynghorydd Beca Brown o'r farn bod "nifer o feysydd carafanau yno eisoes, yn eiddo i bobl leol sydd wedi gweithio'n galed".
Mynegodd bryderon hefyd y byddai'r datblygiad - yn enwedig y 39 caban gwyliau - yn "tanseilio swyddi pobl leol sy'n byw yma drwy'r flwyddyn".
Yn ei hadroddiad roedd cydnabyddiaeth gan yr arolygydd, Claire MacFarlane, "y byddai manteision economaidd o ganlyniad i’r cynnig, trwy greu swyddi a llety gwyliau o ansawdd uchel trwy gydol y flwyddyn a fyddai’n cefnogi’r sector twristiaeth".
Roedd y datblygwr wedi darparu tystiolaeth yn dadlau na fyddai ailagor busnes y gwesty yn ei ffurf bresennol yn ariannol hyfyw.
Ond ychwanegodd Ms MacFarlane: "Ni ddangoswyd na ellid cyflawni’r un amcanion, yn gyffredinol, trwy fathau eraill o ddatblygiad ac nid wyf o’r farn y byddai’r manteision hyn yn gorbwyso’r niwed parhaol.
"Ar sail y niwed a fyddai’n cael ei achosi i gymeriad gwledig a golwg y safle a’r ardaloedd uniongyrchol gyfagos, deuaf i’r casgliad na fyddai’r cynnig yn briodol o ran ei raddfa ac y byddai’n niweidiol i ansawdd gweledol y dirwedd leol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Chwefror
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2021