Dyn a menyw wedi marw mewn tanau ar wahân yn y de
- Cyhoeddwyd
Mae dau o bobl wedi marw mewn digwyddiadau ar wahân yn ymwneud â thân yn ne Cymru dros nos.
Bu farw dyn 37 oed mewn tân ym Merthyr Tudful nos Fercher, a bu farw menyw 53 oed mewn tân yn Abertawe yn gynnar fore Iau.
Yn Abertawe fore Iau, cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ddigwyddiad tua 05:45, ble'r oedd eiddo ar Heol Pensalem, Penlan yn llosgi'n ddifrifol.
Llwyddodd y gwasanaeth tân i ddiffodd y fflamau yn fuan wedyn ond bu farw menyw, a oedd yn byw yn yr eiddo, yn y digwyddiad.
Cafodd menyw 29 oed ei chludo i'r ysbyty gyda mân anaf ar ôl llwyddo i ddianc y fflamau trwy ffenestr ar y llawr cyntaf.
Mae ymchwiliad heddlu wedi'i lansio i achos y tân, er nad ydyn nhw'n ei ystyried yn fwriadol.
'Heriol ofnadwy'
Ym Merthyr, cafodd y gwasanaethau brys eu galw i adroddiadau o dân mewn tŷ yn ardal Penydarren am 21:40, ble bu farw dyn 37 oed.
Nid yw achos y tân, a oedd wedi'i gyfyngu i un eiddo, yn hysbys ar hyn o bryd.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru fod y digwyddiad yn un "heriol ofnadwy" i'w swyddogion, a'u bod "wedi gweithio yn galed i ddod â'r sefyllfa dan reolaeth ac atal y fflamau rhag lledaenu i adeiladau cyfagos".
Ychwanegodd y gwasanaeth eu bod yn cydymdeimlo yn arw gyda theulu a ffrindiau'r dyn fu farw, a'r gymuned leol yn ehangach.
Mae teulu'r dyn a'r crwner wedi cael gwybod am ei farwolaeth.
Mae ymchwiliad bellach ar waith i geisio darganfod achos y tân.