Ysmygu: Cenhedlaeth na welodd dafarndai'n llawn mwg

Jasmine a Jenny
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jasmine, 20, a Jenny, 20, yn falch o'r gwaharddiad ond yn dweud bod fepio dan do yn broblem

  • Cyhoeddwyd

Mae cenhedlaeth o oedolion erbyn hyn sy'n methu â chofio gweld tafarndai yn llawn mwg, ac heb brofi arogl sigaréts ar ddillad ar ôl noson mewn clwb nos.

Mae'n 18 mlynedd ers i'r gwaharddiad ysmygu dan do mewn mannau cyhoeddus gael ei gyflwyno yng Nghymru.

Roedd y ddeddf yn garreg filltir, yn ôl un arbenigwr iechyd cyhoeddus, wrth newid agweddau pobl.

Ond gydag ysmygu'n dal i fod yn arfer cyffredin i rai, awgrymodd yr Athro Graham Moore fod angen gwneud mwy i gyrraedd targedau.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod yr effaith ar blant yn llai, a bod gostyngiad yn nifer y bobl sy'n mynd i'r ysbyty oherwydd trawiad ar y galon ac asthma.

Mae cyfraddau ysmygu wedi gostwng yn sylweddol, ond mae 'na gwestiynau wedi codi'n ddiweddar am boblogrwydd sigaréts fel rhywbeth ffasiynol.

"Mae'n synnu fi, wir, faint o fy ffrindiau sy'n ysmygu," dywedodd Henry Gillard, 21, sy'n fyfyriwr ym mhrifysgol Abertawe.

"Am wn i, mae'n un o'r pethau 'na ti'n meddwl sy'n cŵl pan ti'n iau.

"Hyd yn oed gyda gwaharddiad mewn tafarndai, mae pobl yn dal i ysmygu."

Cameron Mattu
Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl ifanc yn dal i ysmygu, ond yn cuddio hynny, yn ôl Cameron Mattu

Dywedodd Cameron Mattu, 20, nad yw'n ysmygu ond bod llawer o bobl ifanc ag ofn cyfaddef hynny oherwydd risgiau iechyd.

"Mae'n llawer mwy cudd," dywedodd, "mae pobl yn ei wneud yn gyfrinachol nawr."

Dywedodd Jenny Phuwichit, 20, ei bod yn fepio bob dydd, ac nad yw'n teimlo bod rhybuddion iechyd ynghylch ysmygu wedi effeithio ar bobl ifanc.

"Rwy'n gweld pobl ar y strydoedd, yn ysmygu ac yn fepio, ar bwys plant iau hefyd," meddai.

"Mae [y risg] yn cael ei anwybyddu," meddai.

'Fe wnaethon ni oroesi, ond eraill heb'

Mae perchennog tafarn o Abertawe, Vicky Morgans, yn cofio'r "dillad drewllyd" a'r staeniau du ar y nenfwd cyn iddi gyflwyno'r gwaharddiad fis ynghynt nag oedd rhaid yn West Cross Inn yn 2007.

"Roedd e'n mynd i ddod beth bynnag," dywedodd.

"Fe gafodd e effaith enfawr ar ein diwylliant yfed ni. Fe wnaeth e blymio dros nos".

Dywedodd Vicky ei bod wedi canolbwyntio ar y bwyty yn hytrach na'r bar yn ystod y cyfnod.

"Yn ffodus, fe wnaethon ni oroesi," ychwanegodd, "lle efallai na wnaeth [tafarndai] eraill."

Vicky Morgans
Disgrifiad o’r llun,

Roedd barn cwsmeriaid yn gymysg ar y pryd, meddai Vicky Morgans, perchennog tafarn yn Abertawe

Dywedodd Athro Graham Moore, o Brifysgol Caerdydd, bod angen "cymorth a gwaith wedi'i dargedu" i'r rhai sydd am roi'r gorau i ysmygu, mewn ardaloedd lle mae cyfraddau'n parhau'n uchel.

"Pan fyddwch chi'n tyfu i fyny ag e, lle mae ysmygu'n arferol, r'ych chi'n llawer mwy tebygol o ysmygu eich hun," meddai.

"Mae yna ardaloedd o hyd lle mae ysmygu'n eithaf arferol."

Fodd bynnag, dangosodd ymchwil flaenorol fod deddfwriaeth 2007 wedi helpu i lunio agwedd wahanol.

"Does gan lawer o bobl ifanc ddim profiad go iawn o fod yn agored i dybaco, ond o'r rhai sydd wedi, roedd yna ymdeimlad o ffieidd-dra lle'r oedden nhw'n ei weld ar y stryd."

Er mai'r nod oedd amddiffyn y genhedlaeth nesaf rhag niwed ysmygu, mae'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru'n dal i brofi'r gost yn sgil cenedlaethau o oedolion sydd wedi ysmygu, gyda chymunedau difreintiedig yn cael eu heffeithio fwy.

Mae cynllunau yn dal ar waith ar y mesur - a gafodd ei gyflwyno gan lywodraeth flaenorol y DU - i wahardd gwerthu tybaco i bawb a gafodd eu geni ar ôl 1 Ionawr 2009.

'Camau pellach ers 2007'

Mae gan Lywodraeth Cymru nod i Gymru fod yn ddi-fwg erbyn 2030.

Dywedodd llefarydd: "Cyflwyno mannau di-fwg 18 mlynedd yn ôl oedd y cam mawr cyntaf tuag at wneud 'di-fwg' yn norm, gan helpu i annog pobl i roi'r gorau i ysmygu a newid ein barn.

"Ers hynny, mae Cymru wedi cymryd camau pellach, gan gynnwys dod y rhan gyntaf o'r DU i wahardd ysmygu ar dir ysbytai, meysydd chwarae cyhoeddus a thir ysgolion.

"Roedd hwn yn gam gwirioneddol ymlaen i wella iechyd cyhoeddus Cymru."

Pynciau cysylltiedig