Pum munud gyda... Alys Williams
- Cyhoeddwyd
Er mai fel cantores y mae Alys Williams yn adnabyddus, ers sawl mis mae'n prysur dod yn adnabyddus yn ei milltir sgwâr fel hyfforddwraig bersonol.
Mae'r ymarfer corff wedi trawsnewid ei bywyd meddai hi. Fe gafodd Cymru Fyw sgwrs sydyn efo hi i holi sut mae pethau'n mynd.
![Alys Williams](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/3840/cpsprodpb/f4fb/live/ba83f180-e794-11ef-87aa-f115baaf16d4.jpg)
Beth wnaeth dy sbarduno i ddechrau Cryf?
Mae cryfder a chodi pwysau wedi newid fy mywyd i mewn cymaint o ffyrdd, ac felly ro'n i'n awyddus i rannu hynny gyda phobl eraill - yn enwedig merched - ar ôl dysgu am yr holl fuddion sy' 'na o weithio'r cyhyrau a chryfhau.
Rydan ni'n colli canran o'n màs cyhyrol bob blwyddyn ar ôl troi'n 30 oed, a dyna beth sy'n gallu ein gwneud yn wanach ac yn fwy musgrell wrth i ni heneiddio.
Mae esgyrn brau hefyd yn medru bod yn broblem inni yn ein henaint ac mae llwytho pwysau ar yr esgyrn yn eu gorfodi i gryfhau. Gall hyn atal pobl hŷn rhag cael codwm, a rhag datblygu osteoporosis.
Mae magu cryfder cyhyrol yn golygu ein bod yn fwy tebygol o gadw'n hannibyniaeth wrth fynd i oed.
Mae buddion arbennig i ferched wrth fynd yn hŷn ac wrth wynebu heriau'r menopôs, ac mae 'na bob math o fanteision iechyd meddwl hefyd.
![Alys yn y gampfa](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/2560/cpsprodpb/7395/live/32169240-e798-11ef-a819-277e390a7a08.jpg)
Sôn 'chydig am dy daith di efo codi pwysau a ffitrwydd.
Mi nes i ddechrau codi pwysau tua wyth mlynedd yn ôl, heb sylweddoli faint o newid byd fyddai hynny.
O'n i'n teimlo fy hun yn mynd yn gryfach, a phethau corfforol - fel codi bagiau neges trwm o'r car - yn mynd yn haws. Mae teimlo'n gryf yn beth braf, ac mae codi pwysau wedi fy ngwneud i'n berson mwy positif a llawen o ddydd i ddydd.
Mae cryfhau wrth gwrs yn tônio'r corff, ac mae'n atgoffa rhywun o'r hyn mae'r corff yn gallu ei gyflawni, yn hytrach na bod yn or-ymwybodol o sut mae'r corff yn edrych o hyd.
Mae cryfhau yn eich grymuso chi, ac mae hynny'n beth pwysig i ferched gan ein bod yn draddodiadol wedi trio bod y fersiwn lleia' posib ohono ni'n hunain.
Oes na brinder gwasanaethau fel hyn yn y gogledd orllewin, ti'n meddwl?
Mae yna ddiddordeb mawr yn y math yma o ymarfer corff, a phobl yn sylweddoli fwyfwy beth yw'r holl fuddion o godi pwysau yn rheolaidd.
Mae mwy a mwy o ferched fel fi yn cynnig y gwasanaeth yma ac mae'n braf gweld hynny gan y bydd yn arwain at fedru helpu niferoedd cynyddol o bobl i gryfhau a chadw'n iach.
Mae 'na bobl wedi dod ata'i sydd erioed wedi bod mewn gym a chodi pwysau, ac mae'u gwylio nhw yn ymbŵeru eu hunain drwy gryfhau eu cyrff yn brofiad arbennig.
![Alys Williams](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/2560/cpsprodpb/ff1a/live/54198aa0-e798-11ef-87aa-f115baaf16d4.jpg)
Ydy merched yn codi pwysau yn rhwybeth newydd?
Dydi merched yn codi pwysau ddim yn beth newydd. Roedd merched Oes Fictoria yn gwneud, ac roedd Marilyn Monroe yn gwneud hefyd.
Syniad hen ffasiwn ydi meddwl mai rhywbeth i ddynion ydi codi pwysau, a dwi'n meddwl bod y syniad hwnnw yn cilio gan fod cymaint o ferched yn codi pwysau erbyn hyn, ac maen nhw i'w gweld ar hyd y cyfryngau cymdeithasol.
Pam mai dynion yn unig ddylai gael manteisio ar holl fuddion codi pwysau a heneiddio'n iach? Does yna ddim rheswm o gwbwl pam na ddylai merched wneud hefyd - a maen nhw yn gwneud.
Mae llawer o bobl yn meddwl amdanat fel cerddor a chantores, sut mae'r ddau beth yn mynd law yn llaw?
Mae'r ddau faes yn cynnig hyblygrwydd mawr gan nad ydi'r un ohonynt yn swyddi 9-5. Mae'r gerddoriaeth yn caniatau i mi fynegi fy hun yn greadigol ac mae'r gwaith hyfforddi pwysau yn fynegiant o fy angerdd i dros iechyd a hapusrwydd pobl.
Dwi wrth fy modd yn cyfuno'r ddau faes ac yn symud o un i'r llall yn rhwydd.
Dwi'n teimlo'n ffodus iawn o gael gwneud dau beth y mae gen i ddiddordeb mawr ynddyn nhw ac yn eu mwynhau yn arw, a hynny ar amserlen sydd yn gweddu i fy mywyd bob dydd.
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd31 Awst 2024
- Cyhoeddwyd26 Mehefin 2017