Dynion achubodd 20 o bobl o dân 'mor hapus' bod pawb yn ddiogel

Y tânFfynhonnell y llun, Joe Clayfield
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Gwesty'r Worm's Head yn Rhosili ddifrod mawr yn y tân fore Llun

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn a redodd allan o westy yn ei ddillad isaf i godi'r larwm am dân mawr wedi disgrifio'r profiad fel un "swrreal".

Cafodd Morgan Matthews, sy'n gogydd, ei ddeffro gan yr igian (hiccups) yn y nos, pan sylwodd ar y tân.

Helpodd i achub 20 o westeion gyda'i gydweithiwr, Joe Clayfield.

Cafodd Gwesty'r Worm's Head yn Rhosili ddifrod mawr yn gynnar fore dydd Llun.

Dywedodd y ddau ddyn eu bod nhw "mor hapus" fod pawb wedi dianc yn ddiogel a'u bod yn falch o gefnogaeth y gymuned.

Morgan Matthews (chwith) a Joe ClayfieldFfynhonnell y llun, Megan Eames
Disgrifiad o’r llun,

Helpodd Morgan Matthews (chwith) a Joe Clayfield i achub 20 o bobl rhag y tân

Dywedodd Mr Matthews ei fod wedi bod yn dioddef o'r igian ers tri diwrnod a'i fod yn cael ei "yrru'n wallgof", gan ei gadw'n effro.

Er na welodd unrhyw fwg na chlywed sŵn, mi welodd y tân gan ddweud fod ganddo deimlad drwg "o'r eiliad gyntaf".

Ar ôl deffro Mr Clayfield, oedd "wedi'i ddychryn", dywedodd Mr Matthews fod y ddau ohonyn nhw wedi rhedeg allan ar unwaith, i geisio ffonio'r gwasanaeth tân.

"Roedden ni'n rhedeg o gwmpas y maes parcio yn trio ffeindio signal," meddai, gan lwyddo yn y diwedd.

Yr adeilad wedi'i ddinistrioFfynhonnell y llun, Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Rhoddodd Mr Clayfield ganmoliaeth i ymateb "cyflym iawn" y gwasanaeth tân

Disgrifiodd Mr Clayfield y profiad fel un "sy'n dal i deimlo'n eithaf swrreal" a phwysleisiodd mor ddifrifol oedd y sefyllfa, gan fod "posib ail-godi adeiladau, ond fod bywydau yn amhrisiadwy".

Dywedodd y ddau, sy'n gweithio yng Nghaffi'r View yn Rhosili, mai'r bobl yn yr adeilad oedd y pryder trwy gydol y digwyddiad.

"Dwi'n siŵr y bydd difrifoldeb y sefyllfa yn suddo i mewn yn ddigon buan," meddai Mr Matthews.

Gwesty Worms HeadFfynhonnell y llun, Athena Pictures

Dywedodd Joe Clayfield nad oedd o'n ystyried ei hun fel arwr, ond yn hytrach fel rhywun oedd yn "y lle iawn, ar yr amser iawn".

Morgan Matthews "ydy'r arwr go iawn", meddai, gan ychwanegu "oni bai ei fod wedi bod yn effro - dwi ddim eisiau gwybod beth allai fod wedi digwydd".

Gwnaeth Mr Clayfield ganmol ymateb y gwasanaeth tân hefyd, oedd yn "gyflym iawn" ac wedi atal difrod i adeiladau cyfagos.

Ychwanegodd fod y ddau wedi cofleidio ei gilydd ar ôl gweld fod pawb wedi dianc yn saff a'i fod yn "rhyddhad llwyr".

"Alla'i ddim dychmygu beth mae teulu'r Worms Head yn mynd trwyddo ar hyn o bryd," meddai, gan obeithio'r gorau iddyn nhw wrth ail-adeiladu.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig