Merch yn helpu ei mam i gerdded eto wedi anaf i'w hymennydd

Freya a Rachel
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Freya ei bod hi'n falch iawn o'r ffordd mae ei mam Rachel yn parhau i weithio'n galed a gwella

  • Cyhoeddwyd

Pan mae Freya Harry a'i mam Rachel yn cwtsio ar y soffa, yr hyn sy'n amlwg ar unwaith yw faint maen nhw'n chwerthin ac yn cael hwyl gyda'i gilydd.

Mae'n amlwg bod y cysylltiad rhwng y fam a'r ferch 13 oed o Wrecsam yn gryf, er gwaethaf y dechreuad hynod o anodd mae'r ddwy wedi wynebu.

Yn ôl mam Rachel, Karan Harry, ei hwyres Freya sydd wedi gyrru Rachel, 43, ymlaen ar ôl iddi gael trawiad ar y galon ac anaf hypocsig i'r ymennydd wrth roi genedigaeth iddi ar 23 Gorffennaf, 2012, gan ei gadael mewn coma.

Ar ôl deffro, doedd hi ddim yn gallu cerdded, siarad, nac eistedd i fyny.

Roedd Rachel, oedd yn 30 oed ar y pryd, yn yr ysbyty am 11 mis cyntaf bywyd Freya.

Ond er i rai o'r staff meddygol dweud wrth Karan na fyddai ei merch yn gwella, dywedodd ei bod hi o hyd wedi meddwl bod "rhywbeth yno" - ac roedd hi'n credu mai Freya oedd y ffactor hollbwysig.

Rachel yn yr ysbyty, gyda Freya wrth ei hochrFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Rachel yn yr ysbyty am 11 mis cyntaf bywyd Freya

Pan gafodd Rachel ei throsglwyddo o Ysbyty Maelor Wrecsam i uned adfer yn Ysbyty Clatterbridge yng Nghilgwri, dywedodd Karan mai dyna pryd y dechreuon nhw weld ychydig o wellhad.

"Aethon ni â Freya i'w gweld hi bob dydd," meddai.

Ond ar ôl sawl mis, penderfynodd Rachel i beidio â pharhau gyda'i thriniaeth, ac yn hytrach be aeth i fyw gyda'i theulu eto, gan gynnwys ei merch fach Freya.

"Pan ddaeth hi adref, byddai'n copïo pethau roedd Freya yn eu gwneud," eglurodd Karan, sydd hefyd yn brif ofalwr Rachel.

"Pan ddechreuodd Freya gerdded, byddai Rachel yn ceisio gwneud hefyd... byddai'n gweld Freya yn ei wneud a byddai hi eisiau ei wneud."

Dywedodd Karan fod y sefyllfa, gyda Rachel yn dysgu o'i phlentyn bach wrth iddi ddatblygu, wedi gwneud y berthynas rhwng y fam a'i merch yn un "arbennig iawn".

Llun o Rachel a Ffreya yn yr ysbyty. Mae'r ddwy ohonyn nhw'n edrych ar y camera. Mae Rachel mewn cadair olwyn, mae'n gwisgo siwmper lwyd gyda streipiau llwyd ac mae ganddi wallt melyn. Mae Freya ar ei chol. Mae'n gwisgo bib pinc.Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Rachel drawiad ar y galon ac aeth ei ymennydd heb ocsigen wrth iddi roi genedigaeth i'w merch Freya

Nid yw Freya erioed wedi bod yn rhan o broses gwella Rachel mewn ystyr ffurfiol, ond mae gwneud pethau cyffredin gartref, fel ei helpu i ddal beiro, gwneud lluniau, a'i hannog i wthio troli tra'n siopa - mae'r cyfan yn helpu.

Ei hoff beth i'w wneud gyda'i mam yw mynd siopa, yn bennaf am ddillad a cholur - rhywbeth y mae hi'n dweud y byddai'n hoffi iddyn nhw ei wneud "llawer mwy", felly mae hi'n annog ei mam i ymarfer ei cherdded trwy wthio'r troli.

Ond maen nhw hefyd wrth eu bodd yn treulio amser gyda'i gilydd yn gwylio ffilmiau doniol - mae Bridget Jones yn ffefryn penodol.

"'Da ni'n chwerthin lot. Pan fydda i'n dod adra' o'r ysgol... dwi bob amser yn chwerthin efo hi," meddai Freya.

Llun o Karan, Freya a Rachel yn eistedd ar soffa. Mae Karan ar y dde yn gwisgo crys-t glas a jeans. Mae'n gwenu wrth edrych ar Freya a Rachel ac mae ganddi wallt melyn. Mae Freya nesa iddi ac yn gwisgo siwmper wen a jeans llwyd. Mae'n dal ei ffôn symudol o flaen ei mam Rachel. Mae'r ddwy ohonyn nhw'n chwerthin. Mae Rachel nesa i Freya ac yn gwisgo ffrog du gyda smotiau gwyn.
Disgrifiad o’r llun,

Tair cenhedlaeth gyda'i gilydd ar y soffa - Karan, Freya a Rachel

Ychwanegodd Freya bod gallu ei mam i gerdded mwy wedi galluogi iddyn nhw fynd ar wyliau dramor gyda'r holl deulu, gan greu atgofion gwerthfawr.

"Aethon ni i'r pwll lot, a gwneud lot o chwarae o gwmpas... Nes i ei chario hi yn y pwll weithiau ac roedd hi'n fy nghario i lot," meddai.

Dywedodd Karan fod gweld y ddwy ohonyn nhw'n gwneud y math o weithgareddau mae mam a merch fel arfer yn eu gwneud wedi bod yn "wirioneddol wych".

"Dydy'r holl deuluoedd eraill o gwmpas ddim yn sylweddoli pa mor arbennig oedd hi i Rachel a Freya fod yn y pwll yna gyda'i gilydd - roedd hi wir yn arbennig," meddai.

Llun o Rachel yn eistedd ar gadair gyda Freya yn sefyll tu ôl iddi yn gwneud ei gwallt. Mae'r ddwy yn edrych ar y camera ac yn gwenu. Mae Rachel yn gwisgo crys-t du ac mae ganddi ffedog drosti. Mae Freya yn gwisgo crys-t llwyd gyda ffedog wen.Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Freya yn hoff o helpu ei mam gyda tasgau. Dyma hi'n gwneud ei gwallt yn ystod y cyfnod clo

Trwy'r teulu a ffrindiau yn codi arian maen nhw hefyd wedi gallu talu i Rachel dderbyn math arbennig o ffisiotherapi sydd ond ar gael yn breifat.

Mae'r driniaeth yn canolbwyntio ar wella pobl gydag anafiadau i'r ymennydd.

"Pan ddaeth Rachel adref y mis Mehefin hwnnw, doedd hi ddim yn gallu eistedd i fyny, roedd yn rhaid iddi fwyta bwyd meddal, doedd hi ddim yn gallu siarad, doedd hi ddim yn ymateb chwaith," meddai Karan.

Mae'r gwellhad dros y blynyddoedd wedi bod yn raddol - ond yn drawiadol, meddai.

"Mae hi'n anhygoel. Mae hi'n ymateb, mae hi'n siarad, mae angen arwain hi tipyn ond bydd hi'n parhau i wella a chryfhau. Mae hi'n cerdded o gwmpas y tŷ gyda chymorth."

Mae chwaer Rachel a'i theulu yn byw rownd y gornel o'i thŷ ac maen nhw wedi bod i'w gweld hi'n ddyddiol ers iddi adael yr ysbyty.

Mae'r cyfan yn helpu, yn ôl Karan.

Llun o'r teulu o flaen pwll nofio tra ar wyliau dramor. Ffynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r holl deulu wedi gallu mwynhau gwyliau gyda'i gilydd ers i Rachel wella gyda'i cherdded

"Dywedodd therapydd galwedigaethol wrthon ni na fyddai Rachel yn ffynnu yn yr amgylchedd yma...

"[Ar y pryd] roedd gennym ni ddau blentyn bach, un pump oed, oedd yma trwy'r amser.

"Dywedon nhw ei fod yn rhy swnllyd, yn rhy brysur... gan gynghori ni i'w rhoi mewn cartref nyrsio. Doedd hynny ddim yn mynd i ddigwydd.

"Fyddai hi ddim wedi gwella i'r lefel mae hi nawr os bydden ni wedi dilyn eu cyngor nhw a mynd lawr y llwybr o'i rhoi hi mewn cartref gofal."

'Gwell ei byd yn ei hamgylchedd ei hun'

Mae Dr Colin Pinder, ymgynghorydd niwroadsefydlu yn Ysbyty Clatterbridge, yn cytuno bod symud Rachel adref wedi bod yn hanfodol i'w datblygiad.

"Mae pwynt wastad yn dod pan fydd rhywun sydd â nam sylweddol yn well ei fyd yn ei amgylchedd ei hun, yn achos Rachel bod gyda'i phlentyn ei hun."

Ychwanegodd fod yr hyn a ddigwyddodd iddi wedi bod yn "drychineb" ond ei bod wedi "dod yn bell ers hynny", gan gynnwys hyd yn oed cerdded i mewn i'w glinig am y tro cyntaf ar gyfer apwyntiad diweddar, gan ei gadael hi'n teimlo'n "falch iawn."

Fel Karan, dywedodd fod Freya wedi chwarae rhan "hanfodol" yn cefnogi ei mam wrth iddi geisio gwella.

Llun o Rachel a Freya yn chwarae gem gyda'i gilydd. Mae Rachel yn eistedd gyda Freya ar ei chôl. Mae Rachel yn gwisgo crys-t gwyn a du. Dim ond wyneb Freya sydd i'w weld dros y gêm, sydd ar y bwrdd o flaen nhw.Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rachel wedi ailddysgu sawl peth trwy wylio Freya yn datblygu a cheisio ei chopïo

Dywedodd Freya ei bod hi'n falch iawn o'r ffordd mae ei mam yn parhau i weithio'n galed a gwella.

"Mae ei cherdded yn lot gwell. Mae hi'n gallu cerdded i fyny'r grisiau a cherdded pellteroedd hir iawn rŵan," meddai.

Mae Freya a Karan yn dweud eu bod nhw'n gobeithio y bydd Rachel yn parhau i gryfhau - ond yn bwysicaf oll, maen nhw eisiau iddi aros yn iach.

"P'un ai fydd hi'n cyrraedd ein lefel ni, dydyn ni ddim yn gwybod," meddai Karan.

"Mae hi wedi rhagori'r disgwyliadau. Mae hi wedi ein synnu ni i gyd."

O ran ei hwyres, dywedodd fod Freya hefyd yn "anhygoel... yn union fel ei mam".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig