Cymro yn Qatar: 'Sefyllfa sensitif ac anodd ar hyn o bryd'

Rhodri Ogwen Williams ar gwrs golff ym mhrifddinas Qatar, DohaFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Fe welodd Rhodri Ogwen Williams daflegrau Iran yn anelu at ganolfan filwrol Americanaidd ger Doha ac yn cael eu saethu i lawr gan system amddiffyn Qatar

  • Cyhoeddwyd

Mae darlledwr o Gymru sy'n byw yn Qatar wedi disgrifio'r profiad o fod yn dyst i ymosodiad gan Iran ar safleoedd milwrol yr Unol Daleithiau yn y wlad.

Roedd Rhodri Ogwen Williams, sy'n byw yn y brifddinas Doha, yn chwarae golff "gyda rhywun sy'n delio gyda'r pethau 'ma ar y lefel uchaf" pan welodd daflegrau'n anelu at ganolfan Al Udeid.

"O'dd e wedi cael bach o sioc," dywedodd wrth raglen Post Prynhawn BBC Radio Cymru.

"Fel o'dden ni ar y pedwerydd twll dyma ni'n gweld sawl taflegryn yn dod lawr tuag at Qatar - a ni'n gweld wedyn amddiffyn Qatar yn mynd i fyny."

Roedd yna ddisgwyl i Iran daro'n ôl yn hwyr neu'n hwyrach wedi i'r Unol Daleithiau fomio safleoedd niwclear yn y wlad dros y penwythnos.

Mae llygaid y byd yn troi bellach at Arlywydd America, Donald Trump, i weld a fydd yntau'n penderfynu i gynnal ymosodiadau pellach ar Iran mewn ymateb.

'Fi'n poeni tam' bach'

Dywedodd Rhodri Ogwen Williams bod cyngor wedi cyrraedd tua dechrau eu gêm golff gan lysgenhadaeth Prydain i Brydeinwyr "fynd am gysgod ac i beidio mynd allan".

Daeth difrifoldeb y sefyllfa i'r amlwg fwy fyth pan glywson nhw fod "maes awyr Qatar International wedi cau".

Dywedodd fod Qatar "yn lwcus iawn i gael system gorchudd haearn, fel sy' gyda nhw yn Israel" - system a gafodd ei gosod gan yr Americanwyr gan fod "maes awyr mwyaf America y tu allan i'r Unol Daleithau fan hyn yn Qatar".

"Dyna ydy'r targed ond dros yr wythnos i 10 diwrnod diwetha' mae'r awyrennau i gyd wedi gadael y maes awyr.

"Fi'n poeni tam' bach, dwi' nawr yn mynd nôl gartre i gysgodi i gael gweld beth sy'n gweithio."

Ychwanegodd mewn cyfweliad ar gyfer rhaglen Newyddion S4C, fod "petha' bach yn anodd a bach yn sensitif 'ma ar hyn o bryd", nid yn unig yn Qatar ei hun ond mewn gwledydd cyfagos eraill fel Bahrain a Kuwait.

Pynciau cysylltiedig