Rhybudd am wyntoedd cryfion i Gymru gyfan dros y penwythnos
- Cyhoeddwyd
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am wyntoedd cryfion ar draws Cymru dros y penwythnos.
Mae'r rhybudd mewn grym rhwng 07:00 dydd Sadwrn a 21:00 dydd Sul.
Fe allai gwyntoedd hyrddio hyd at 60mya, gan gyrraedd 70mya mewn mannau arfordirol, meddai'r Swyddfa Dywydd.
Mae'r rhybudd yn berthnasol i ardaloedd ar hyd arfordir y gogledd ddydd Sadwrn ac i Gymru gyfan ddydd Sul.
Fe allai'r amodau greu trafferthion i yrwyr, yn ogystal ag amharu ar gyflenwadau trydan a thrafnidiaeth gyhoeddus.