Y bardd Nesta Wyn Jones wedi marw

Y bardd a'r llenor Nesta Wyn Jones
- Cyhoeddwyd
Mae'r bardd a'r llenor Nesta Wyn Jones wedi marw.
Yr hynaf o bedwar o blant, cafodd ei magu yng Nghwm Abergeirw, Gwynedd.
Mynychodd ysgol gynradd Rhydygorlan, Abergeirw, ac wedyn Ysgol Dr Williams, Dolgellau, cyn mynd ymlaen i wneud gradd yn y Gymraeg ym Mangor.
Bu'n gweithio ym Mhrifysgol Bangor ac yn gweithio ar gyfres Gorwelion ac yna gyda Chyngor Llyfrau Cymru yn Aberystwyth.
Cyhoeddodd sawl cyfrol, gan gynnwys Cannwyll yn Olau, Ffenest Ddu, a Dawns y Sêr ac ym 1987, enillodd wobr Cyngor y Celfyddydau am ei chyfrol o farddoniaeth, Rhwng Chwerthin a Chrio.
Yn weithgar yn ei chymuned yn Abergeirw, sefydlodd Gylch Ti a Fi yn Neuadd Rhydygorlan - ei hen ysgol gynradd - yng nghanol yr wythdegau, a bu'n ei arwain am flynyddoedd lawer wedi hynny.
Bu hefyd yn cynnal dosbarth nos i ddysgu Cymraeg i oedolion, ac yn gwahodd mewnfudwyr yr ardal i ymuno, i ddysgu'r iaith ac i ddod yn rhan o'r gymdeithas Gymraeg.
Byddai'n eu hannog nhw a phobl ifanc yr ardal i gymryd rhan mewn gweithgareddau'r gymdeithas yn gyson, yn enwedig cystadlaethau Cyfarfod Bach Abergeirw.
Priododd ei diweddar ŵr, Gwilym, ym 1982 a ganwyd ei merch Annest Gwilym ym 1983 a'i wyres yn 2015.
Wrth roi teyrnged iddi, dywedodd y bardd Annes Glyn: "Am newyddion trist! Fe fu gwaith Nesta'n ysbrydoliaeth cynnar i mi ac roeddwn i wrth fy modd efo'i chynildeb crefftus hi fel bardd ar draws y blynyddoedd.
"Yn parchu ei barn hi fel beirniad hefyd. Colled enfawr."