Cymraes yn gyfrifol am Balasau Brenhinol Hanesyddol Prydain

Bydd Eleri Lynn yn arwain tîm curadurol ac yn gyfrifol am oruchwylio cyflwyniad y palasau
- Cyhoeddwyd
Mae menyw o dde Cymru wedi cael ei phenodi yn Brif Guradur Palasau Brenhinol Hanesyddol Prydain (HRP).
Yn wreiddiol o Bont-y-pŵl, mae Eleri Lynn yn arbenigwr enwog mewn hanes ffasiwn a thecstilau.
Bydd yn arwain tîm curadurol elusen HRP ac yn gyfrifol am ymchwilio a goruchwylio cyflwyniad y palasau a chasgliadau hanesyddol.
Mae Palasau Brenhinol Hanesyddol Prydain yn elusen annibynnol sy'n gofalu am chwech o'r palasau mwyaf eiconig ledled y DU, gan gynnwys Tŵr Llundain, Palas Hampton Court a Phalas Kensington.
'Ma' 'na lwyth o gysylltiadau Cymraeg yn y plastai 'ma'
Eleri Lynn, Prif Guradur Palasau Brenhinol Hanesyddol Prydain, yn trafod ei rôl newydd
Yn siarad o'i swyddfa yn Hampton Court yn Llundain, dywedodd ar raglen Dros Frecwast bod ei magwraeth yng Nghymru wedi bod yn ddylanwad mawr yn ei gyrfa.
"Dwi yma oherwydd ges i fy magu yn ne Cymru gyda holl amgueddfeydd anhygoel o gwmpas – dyna beth wnaeth fy ysbrydoli i i gal diddordeb yn hanes yn y lle cyntaf," meddai.
'Llwyth o gysylltiadau Cymraeg'
Bu Ms Lynn yn guradur casgliadau gyda HRP rhwng 2013 a 2021 - cyfnod ble bu'n curadu arddangosfeydd gan gynnwys Diana: Her Fashion Story a The Lost Dress of Elizabeth I.
Esboniodd sut y daeth hi i ymchwilio i ddarn o frodwaith o'r enw'r Bacton Altar Cloth.
"Un o'r pethe nes i pan o'n i yma yn gynta' yn gweithio ar gasgliadau fel curadur o'dd ymchwilio mewn i ddarn o frodwaith o'r enw Bacton Altar Cloth nes i ddarganfod mewn eglwys ar y ffin [rhwng Cymru a Lloegr] mewn pentref o'r enw Bacton.
"Mae'n debyg o'dd hwnna 'di 'neud efo Elizabeth I ond trwy gysylltiad 'da un o'i menywod hi - Blanche ap Parry. ac wrth gwrs mae'n enw Cymraeg ac yn dod o deulu Cymraeg.
"Ma' 'na lwyth o gysylltiadau Cymraeg yn y plastai 'ma."

Dywedodd Eleri Lynn bod ei phortffolio yn cynnwys Tŵr Llundain, lle mae casgliad y Crown Jewels yn cael ei gadw
Yn fwyaf diweddar roedd yn gweithio i Amgueddfa Cymru, gan oruchwylio rhaglenni ar draws y saith o amgueddfeydd cenedlaethol.
Dywedodd Ms Lynn ei bod am sicrhau bod hanes yn cael ei rhannu gyda chymaint o bobl â phosib.
"Beth rwy' mo'yn sicrhau yw bod ni'n gallu rhannau straeon a hanes y plastai arbennig hyn gyda chymaint o bobl ag sy'n bosib," meddai.
"Ma'r adeiladau fan hyn yn cynrychioli pŵer ond wrth gwrs ma' nhw'n cynrychioli straeon o chwyldro, o brotest, o fasnacha, o bobl ar draws y byd i gyd.
"Rwy' am 'neud yn siŵr bod ni'n dod â'r straeon yna mas."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Medi 2019
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2019