Dyn wedi'i ganfod yn farw ar draeth poblogaidd

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i draeth Rhosili nos Fercher
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 63 oed wedi cael ei ganfod yn farw ar draeth poblogaidd yn y de.
Cafodd yr heddlu eu galw i draeth Rhosili ar Benrhyn Gŵyr yn Abertawe am 19:15 nos Fercher, yn dilyn adroddiad bod corff wedi'i ddarganfod.
Fe wnaeth Gwylwyr y Glannau gadarnhau eu bod hwythau wedi ymateb i'r digwyddiad ar ôl cael eu gwneud yn ymwybodol tua 19:30.
Mae perthnasau agosaf y dyn fu farw - oedd o ardal Bryste - wedi cael gwybod, meddai Heddlu'r De.
Ychwanegodd y llu nad oedd unrhyw amgylchiadau amheus.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.