'Haeddu bod yma': Yr heriau sy'n wynebu menywod darlledu chwaraeon

Catrin Heledd yn cyflwyno gem Sheffield United v Caerdydd yng Nghwpan FA Lloegr fis Ionawr 2025Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Catrin Heledd yn cyflwyno gêm Sheffield United v Caerdydd yng Nghwpan FA Lloegr fis diwethaf

  • Cyhoeddwyd

Mae menywod wedi hen hawlio eu lle ym myd darlledu chwaraeon Cymru - ond mae rhai yn parhau i deimlo pwysau i brofi eu hunain.

Mae Catrin Heledd bellach yn cyflwyno rhai o raglenni chwaraeon mwyaf y BBC - yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Ond ym maes darlledu newyddion cychwynnodd y cyfan iddi nôl ym 2004, gan fod y byd chwaraeon yn arfer "cael ei weld ar y cyfan fel lle i ddynion".

"Oedd gen ti ambell ferch yn torri tir newydd yn y maes ond ar y cyfan, doedd gen ti ddim llawer o fenywod yn gwneud gwaith gohebu a chyflwyno yn adran chwaraeon y BBC," meddai.

Mae gwelliant wedi bod erbyn heddiw, meddai, ond "yn bendant, ti'n cael dy gymharu 'da dynion a ma' 'na bwyse gan gymdeithas i ti brofi dy allu".

''Imposter syndrome' yn llorio merched'

Yn ôl Catrin Heledd, mae menywod yn wynebu mwy o graffu arnyn nhw na'r dynion.

"Gwe'd bod menyw yn gwneud camgymeriad, byddet ti'n cael neges yn gweud 'dyw hi ddim yn gwybod beth ma' hi'n 'neud na'n dweud'," meddai.

"Lle gyda dyn, bydde fe'n cael ei dderbyn fel camgymeriad.

"Mae'r pwysau yn sicr wedi newid yn y 10 mlynedd ddiwetha'.

"O'n i'n teimlo'r pwyse fwyfwy i brofi fy hunan wrth bo' fi'n dechrau yn y byd darlledu.

"Ond nawr, ma'r pwysau yn dod gen i fy hunan yn fwy na neb arall."

Catrin Heledd yn gohebu ar y snwcer
Disgrifiad o’r llun,

Mentrodd Catrin Heledd - yma y tu allan i'r Crucible yn Sheffield - i'r byd darlledu chwaraeon rhyw 10 mlynedd yn ôl

Dywedodd Catrin fod "imposter syndrome" yn rhywbeth sydd wedi'i dilyn trwy'i gyrfa.

"Ni ferched yn cael ein llorio ganddo fe a ni'n cwestiynu ein hunain os ni'n cael rhywbeth o'i le.

"Fi'n meddwl os wyt ti'n gallu darbwyllo dy hunan, perswadio dy hunan a bod yn ddigon gwybodus yn dy bwnc, mae'r imposter syndrome yn mynd i ffwrdd."

Ymateb tebyg oedd gan sylwebydd rhaglen Sgorio S4C, a'r cyn-chwaraewr rhyngwladol, Gwennan Harries.

"Fi'n gorfod sicrhau bo' fi ddim yn rhoi gormod o gyfleoedd i bobl feirniadu fi o ran gwybodaeth," meddai.

"Fi'n credu ma' lot o ferched yn gweithio'n galetach i gael y cyfle ac i gadw lle nhw hefyd."

Gwennan harries Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Gwennan Harries: 'Mae lot o ferched yn gweithio'n galetach i gael y cyfle'

Dywedodd Gwennan Harries ei bod yn teimlo iddi gael ei chyfle cyntaf ar raglen oherwydd diwrnod rhyngwladol y merched.

"Ges i'r cyfle cyntaf fel pundit ar ddiwrnod rhyngwladol merched a chwarae teg i Sgorio achos Sgorio yw'r cyntaf i wastad gwthio pêl-droed merched.

"Ond o'n i'n teimlo o'n i ond yn cael y cyfle achos o'dd e'n ddiwrnod rhyngwladol y merched.

"Fi'n credu fi oedd y fenyw gyntaf yn y wlad i fod yn pundit ar gêm y dynion.

"Ar y pryd, o'n i ddim yn sylweddoli'r pwysigrwydd ond yn edrych nôl, fi'n falch iawn ges i'r cyfle a bod hwnna wedi agor drysau."

Roedd hefyd o'r farn fod y cyfryngau cymdeithasol yn gallu dangos casineb pobl tuag at fenywod yn darlledu.

"Beth sy'n gwylltio fi fwyaf yw pan ma'n bersonol neu sylwadau jyst achos bod fi'n ferch.

"Mae'r mwyafrif o sylwadau yn wych ond mae canran bach o bobl wastad yn sbwylio fe."

'Oedran yn fwy o ffactor'

Dywedodd cyflwynydd Sgorio, Sioned Dafydd, ei bod hi'n teimlo bod 'na bwysau ychwanegol ar fenywod sydd ar gychwyn eu gyrfa.

"Fel rhywun sydd dal yn fenyw ifanc, fi'n credu weithie ma' oedran yn gallu teimlo fel mwy o ffactor na bod yn fenyw," meddai.

"Pan fi'n edrych rownd ar y bobl arall sy'n 'neud y math o bethe fi'n 'neud yng Nghymru, ma' rhai o'r newyddiadurwyr a'r gohebwyr arall 'di 'neud y swyddi ers i fi fod yn fach.

"Fi 'mond rili 'di bod yn 'neud hwn am bum mlynedd yn llawn amser gyda S4C."

Sioned DafyddFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae 'imposter syndrome' yn rhywbeth sydd wedi chwarae ar feddwl Sioned Dafydd hefyd

Yn ôl Sioned Dafydd, mae'n gallu bod yn dipyn o beth i gael yr hunan hyder mewn sefyllfaoedd pan mai hi yw'r unig fenyw neu berson ifanc yn yr ystafell.

"Fi 'di bod mewn cyment o sefyllfaoedd lle mae'r imposter syndrome 'di teimlo'n rili, rili gryf," meddai.

"Fi'n cofio yng Nghwpan y Byd yn Qatar [yn 2022] mynd i ardaloedd y wasg a gweld pobl fel Gary Lineker, Ian Wright, Gabby Logan a meddwl 'be' ddiawl fi'n 'neud 'ma'.

"Weithie fi'n gallu bod lot rhy galed ar fy hunan, so weithie fi jyst yn gorfod bacio'n hunan a gweud 'na, ti yn haeddu bod 'ma'."

Pynciau cysylltiedig