Sian a Gwennan Harries: ‘Cefnogwyr mwyaf ein gilydd’

Sian a Gwennan HarriesFfynhonnell y llun, Gwennan Harries
Disgrifiad o’r llun,

Sian a Gwennan Harries

  • Cyhoeddwyd

Mae’r ddwy chwaer, Sian a Gwennan Harries, wedi llwyddo yn y byd chwaraeon, ond mewn campau gwahanol.

Rhedeg yw dawn Sian a gystadlodd ym Mhencampwriaeth Ironman y Byd yn Hawai’i ddiwedd 2023, tra bod Gwennan yn gyn bêl-droediwr rhyngwladol a enillodd 56 cap dros ei gwlad, a bellach yn sylwebu.

Mae’r ddwy yn dysgu addysg gorfforol gyda’i gilydd yn Ysgol Glantaf yng Nghaerdydd, ac yn parhau i ddwyn balchder aruthrol yn llwyddiannau ei gilydd.

Cafodd Cymru Fyw sgwrs gyda’r ddwy er mwyn dod i’w hadnabod yn well.

Y chwaer fawr a'r chwaer fach

Ffynhonnell y llun, Gwennan Harries
Disgrifiad o’r llun,

Gwennan a Sian yn blant

Gwennan: Mae pawb yn meddwl bo’ ni’n twins.

Sian: Er mai fi yw’r hynaf o bum mlynedd a hanner...

Gwennan: Pan oedd hi ym mlwyddyn 13 yn Ysgol Glantaf, o’n i ym mlwyddyn 7 yn Mhlasmawr, ac o’dd hi’n pigo fi lan yn ei Mini bach hi y rhan fwyaf o’r amser, 'chos o’n i wastad mewn clwb chwaraeon.

Sian: Fy antique 1961 Mini oedd hwnna; banger!

Gwennan: Mae hi wastad yn trio embarassio fi! O’n i’n chwarae gêm gyntaf Blwyddyn 7, pêl-rwyd, a chwaraeon yw popeth so o’n i’n rili cyffrous. Ac o’n i’n gallu clywed y car yn dod... a daeth hi rownd y gornel ar ddwy olwyn, bîp bîp bîp!

O’dd e yn cŵl, chware teg, ond doedd gwaelod y car ddim cweit yn iawn, so o’dd rhaid i fi roi traed fi mewn lle penodol so pan oedd hi’n mynd dros bwll, doedd y dŵr ddim yn sprayio lan dros gwyneb fi!

Ffynhonnell y llun, Gwennan Harries
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwennan a Sian wedi bod yn agos erioed

Sian: Ni bendant wedi bod yn agos ers yn ifanc. O’dd hynny’n bwysig iawn i’n rhieni ni, a ni dal yn nawr, jest falle mewn rôls gwahanol. Pan o’n ni’n ifanc o’n i eisiau edrych ar ôl hi. Falle mae e ffordd arall o gwmpas nawr.

Wrth i chi fynd yn hynach, mae’n berthynas yn newid, ac yn dod yn fwy o ffrindiau wedyn, ffrindiau gorau.

Gwennan: O’dd Sian fel ail fam, mewn ffordd, heb i fi rili sylwi pan o’n i’n ifanc. O’dd hi’n helpu i wthio fi, a fel mae’r blynyddoedd wedi mynd ymlaen, ni wedi dod yn agosach ac yn agosach.

O’n i wastad yn edrych lan iddi. Mae hi probably’n un o’r bobl mwya cryf yn feddyliol ‘nei di erioed ddod ar draws, a mor gystadleuol.

Sian: Wir, gei di neb yn y byd mwy cystadleuol na madam fan’yn! A fi’n biased, ond fi erioed wedi cwrdd â rhywun mor dalentog. Ni’n sôn am chwarae pêl-droed, i bigo unrhyw fath o raced lan neu ddarn o offer fel gwaywffon, hyd yn oed i rywbeth fel darts neu snwcer; byse hi’n ennill. Felly mae hi’n gallu bod bach yn annoying!

Gwennan: Ni byth rili wedi dod lan yn erbyn ein gilydd. O’n i yng gweithio yn Cardiff High School am flwyddyn a hanner cyn dod i Lantaf, a daeth timoedd ni lan yn erbyn ei gilydd, ac yn amlwg o'dd y ddwy ohonon ni moyn ennill. Ond base ni hefyd moyn y gorau i’n gilydd. (Ond basen i probably’n ennill beth bynnag...!)

Cefnogaeth teulu

Ffynhonnell y llun, Gwennan Harries
Disgrifiad o’r llun,

Owen, Gwennan a Sian yn blant

Sian: Gawson ni ein magu jest ar y ffin rhwng Y Fro a Phenybont. Mae Owen yn y canol, tair blynedd ifancach na fi, ac mae e yn ffarmwr yn y Fro.

Oedden ni’n ffodus iawn gyda’n magwraeth gaethon ni; allen ni wedi bod allan drwy’r dydd yn chwarae ar y fferm neu yn y sied neu rywle pan oedden ni’n ifancach.

Gwennan: Mae pawb yn y teulu jest yn joio chwaraeon, a fel yr un ifancaf yn y teulu, ti’n dilyn brawd neu chwaer hŷn, a gweld eu bod nhw mor actif ac yn cymryd rhan. Ac o’n i’n debyg, jyst yn ysu i ymuno, ac oedd hi yn chasio fi o gwmpas gyda pry copyn wedi marw – dyna pam dwi mor gyflym, dwi’n credu!

Sian: O’dd Mam gyda bach o anabledd, so o’dd hi ddim yn gorfforol iawn; dyna pam dwi’n meddwl o’dd hi mor falch bod ni’n gallu chwarae chwaraeon, achos base hi wedi bod wrth ei bodd yn gallu g'neud hynny. O'dd e’n bwysig iddi hi ein bod ni’n cael y cyfleoedd i fynd i glybiau.

Ffynhonnell y llun, Gwennan Harries
Disgrifiad o’r llun,

Rhedeg ym mhencampwriaeth trawsgwlad Cymru - Sian wedi ennill cystadleuaeth Bl.10 i Ysgol Glantaf, a Gwennan wedi ennill cystadleuaeth Bl.4 i Ysgol Iolo Morgannwg (yn hen siorts ac esgidiau 'spikes' anferth ei chwaer!)

Gwennan: Doedden ni ddim yn byw yn agos i Glantaf na Phlasmawr, ond chwarae teg i Dad, roedd ‘na rai wythnosau lle oedd e'n gyrru o’r Bontfaen i Benybont i Gaerdydd i bigo ni lan pob nos ar ôl ysgol rhwng cystadleuaeth pêl-rwyd, neu traws gwlad, neu hoci.

Sian: Oedden nhw byth yn rhieni oedd yn pwsho ni, a fi’n credu bod hwnna wedi bod yn help mawr. Roedden ni angen joio’r chwaraeon a gwneud y gorau o'dden ni’n gallu, yn gweithio’n galed, yn barchus i bobl, yr hyfforddwyr, y bobl ni’n chwarae yn erbyn – dyna oedd effaith rhieni ni.

Gwennan: Mae Mam a Dad wastad wedi bod mor awyddus bod ni’n trio’n gorau glas ni, boed yn ennill neu golli, neu’n pasio arholiad neu ddim – beth bynnag oedd e, os oeddech chi’n ymdrechu eich gorau, chi methu gwneud mwy.

Uchelgeisiol

Ffynhonnell y llun, Gwennan Harries
Disgrifiad o’r llun,

Sian yn rhedeg yn ei harddegau

Sian: 1992, Gemau Olympaidd Barcelona; fi’n cofio rhedeg lan y cae yn neidio dros bêls bach fel clwydi, yn meddwl bo’ fi’n Sally Gunnell yn gwneud yr 400m hurdles. Campau dygnedd yw cryfder fi, o’i gymharu â Gwennan sy’n gwneud campau cyflymder, pŵer, gwibio ayyb.

Gwennan: Chi’n gallu gweld o siâp ni, dwi’n cario bach mwy o gig na Sian!

Sian: O’n i’n joio pob fath o chwaraeon yn yr ysgol, ond yn bennaf, rhedeg o’n i’n ei wneud tu allan i’r ysgol. Fel unrhyw un, fi’n credu, pan ti’n ifanc ti eisiau bod yn athletwraig yn y Gemau Olympaidd neu yn llawn amser. Ac hefyd, o’n i eisiau bod yn ffarmwr ac athrawes addysg gorfforol.

Gwennan: 'Nath hi gynrychioli Cymru yn y traws gwlad ac ar y trac hefyd, so o tua 10 i pan oedd hi’n y brifysgol, oedd hi wastad yn rhedeg. A fi yn cael fy fforsio wedyn i fynd lawr i wylio hi’n ymarfer, a meddwl, ‘fi moyn cael go ar hynna’, ond unwaith ges i go, nes i feddwl ‘mae hwn bach yn anodd, well gen i team event'!

Dwi wastad llawn edmygedd o bobl sy’n cymryd rhan ac yn serennu mewn campau unigol, achos mae e’n gallu bod yn unig.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gwennan yn chwarae dros Everton yn 2011. Enillodd 56 cap dros Gymru hefyd cyn gorfod ymddeol yn 2015 oherwydd anaf i'w phen-glin

Fi wir ddim yn siŵr pam 'nes i ddewis pêl-droed. O’n i’n chwarae bach o bopeth. O’n i’n caru chwaraeon; chwaraeon oedd yr unig beth yn yr ysgol o’n i’n teimlo mod i’n gryf ynddo.

Yr uchelgais i fi oedd bod yn chwaraewr proffesiynol, ond yn amlwg oedd e byth yn bosibilrwydd yn anffodus... ar y pryd beth bynnag.

O’n i bendant jyst ishe chwarae pêl-droed, ond fel roedd amser yn mynd yn ei flaen, daeth hi’n amlwg iawn bod hynny ddim yn bosibilrwydd. Ar ôl gadael y brifysgol, o’n i jyst eisiau gwneud unrhywbeth oedd yn ymwneud â chwaraeon, a nes i symud lan i fyw gyda Sian yn y canolbarth a mwynhau gweithio mewn ysgol fel swyddog datblygu chwaraeon, a dechrau datblygu bach mwy o ddiddordeb mewn dysgu.

Balchder chwaer

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Gwennan yn sylwebu yn ngemau rhagbrofol Euro 2020

Sian: Dwi mor falch ohoni, bendant yn ddiweddar, gyda’r sylwebu. Mae’n galed iawn i Gwennan, dros y blynyddoedd, i wylio pêl-droed, yn gwybod ddylia hi fod yna.

Fi’n teimlo’r un peth yn gwylio merched Cymru; mor chuffed i weld sut mae chwaraeon merched wedi datblygu, ond yn gutted i Gwennan bod hi ddim dal yn chwarae. Gwastraff talent llwyr, jyst drwy anlwc.

Ond i weld y ffordd mae hi 'di datblygu o fewn y byd sylwebu, a dal mor barchus, hyd yn oed tu fewn, mae’n lladd hi bod hi methu bod mas ar y cae 'na. Er ei fod wedi bod blynyddoedd, mae dal yn galed.

O’n i bendant yn falch pan oedd hi’n chwarae, ond dwi’n credu yn ddiweddar, dwi mor falch o’r person mae hi wedi troi mewn iddo.

Ffynhonnell y llun, Sian Harries
Disgrifiad o’r llun,

Sian yn croesi'r llinell derfyn ym Mhencampwriaeth Ironman y Byd yn Hawai'i ym mis Hydref 2023, bron i 20 mlynedd ar ôl iddi dorri ei chefn mewn damwain

Gwennan: Dwi yn gallu credu ond dwi hefyd methu credu’r safon mae Sian wedi ei gyrraedd yn ddiweddar.

Fi ‘di bod yn y mwyafrif o rasys mae Sian wedi eu gwneud, ond es i’n rili choked up yn ei gweld hi yn dod dros y llinell yn Ironman Cymru. Mae’n her anferthol i unrhyw un, ond pan ti 'di torri cefn ti a 'di gorfod delio gyda llwyth o anafiadau gwahanol ar hyd y ffordd sy’ jyst yn chipio i ffwrdd ar yr hyder a’r dyfalbarhad...

Roedd ei gweld hi’n brwydro mlaen a ffeindio ffordd i gael dros y llinell derfyn yn anghredadwy. Ac o’dd hi ddim jest yn hapus i’w orffen e... na, dyw Sian ddim fel yna. Gwthio wedyn i geisio bod ar y podiwm.

Ddaeth hi off y beic, a 'nes i weiddi ‘ti bron yna nawr!’... a wedyn meddwl ‘o na, mae hi’n gorfod rhedeg marathon!’ Mae pedwar lap, ac mae rhiw anferth, a fi’n credu mai hi oedd yr unig un oedd ddim wedi cerdded lan. O’dd hi wedi pasio Shane Williams ar un adeg! Jyst mor benderfynol.

Ffynhonnell y llun, Gwennan Harries
Disgrifiad o’r llun,

Gwennan a Sian: 'Ffrindiau gorau'

Sian: Mae gen i fideo oedd ffrind wedi ei greu o’r diwrnod llawn. Dwi’n ei wylio fe’n aml, achos mae e’n rhoi bach o hwb i fi. Ym mhob clip lle mae Gwennan ynddo fe, mae hi’n rhedeg wrth ymyl fi yn ceisio annog fi ymlaen.

Mae hwnna, fi’n credu, yn dangos popeth am ein perthynas ni. Does neb arall fi eisiau wrth ymyl fi mewn cystadleuaeth.

Gwennan: Fi’n credu mai’r ddwy ohonon ni yw cefnogwyr mwyaf ein gilydd.

Ffynhonnell y llun, BBC

Pynciau cysylltiedig