Devils Caerdydd yn ennill y Gwpan Gyfandirol am y tro cyntaf

Joey Martin, Cole Sandford a Tyler Busch yn dathluFfynhonnell y llun, James Assinder
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r tro cyntaf i'r Devils ennill cystadleuaeth Ewropeaidd

  • Cyhoeddwyd

Mae tîm hoci iâ Devils Caerdydd wedi ennill y Gwpan Gyfandirol am y tro cyntaf ar ôl trechu Bruleurs de Loups o Ffrainc o 6-1 yn y rownd derfynol.

Mae'r Devils wedi colli yn y rownd derfynol yn y ddau dymor diwethaf, ac felly roeddynt yn benderfynol o gipio'r tlws o flaen torf gartref yn y Vindico Arena yng Nghaerdydd nos Sul.

Tyler Busch roddodd y tîm cartref ar y blaen cyn i Aurelien Dair unioni'r sgôr.

Ond wedi dechrau digon, fe aeth y Devils ymlaen i reoli'r gêm gyda Brett Perlini (x2), Josh MacDonald a Cole Sandford i gyd yn rhwydo.

Fe wnaeth Perlini gwblhau ei hat-trick yn yr eiliadau olaf i goroni'r cyfan.

Y Devils yw'r ail dîm o Brydain i ennill cystadleuaeth Ewropeaidd, ar ôl i'r Nottingham Panthers ennill y gwpan yn 2017.

Pynciau cysylltiedig