Galw am edrych eto ar farwolaethau brawd a chwaer yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd
Mae bargyfreithiwr troseddol blaenllaw wedi cefnogi ymgyrch sy'n galw ar Heddlu Dyfed Powys i ail-ddechrau ymchwilio i farwolaethau brawd a chwaer oedrannus yn eu ffermdy anghysbell yn Sir Benfro, bron i 50 mlynedd yn ôl.
Cafodd cyrff Griff a Patti Thomas eu darganfod gan bostmon yn Ffynnon Samson, ger Llangolman ym mis Rhagfyr 1976.
Mae'r bargyfreithiwr, Andrew Taylor yn credu bod rhai eitemau o dystiolaeth a gwybodaeth a gafodd eu casglu gan yr heddlu ar y pryd yn codi amheuon am y gred bod Griff Thomas wedi lladd ei chwaer cyn lladd ei hun.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod eu hadolygiad o'r achos yn parhau.
- Cyhoeddwyd5 Medi
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2022
Nid yw teulu a ffrindiau'r brawd a chwaer oedrannus, a oedd wedi byw gyda’i gilydd ar hyd eu hoes, erioed wedi credu casgliadau’r heddlu am yr achos ac maen nhw wedi ymgyrchu ers tro i glirio enw Mr Thomas.
Ym mis Hydref 2022, fe gyhoeddodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod nhw am gynnal adolygiad fforensig o'r dystiolaeth gafodd ei chasglu yn 1974, er mwyn darganfod a allai technoleg forensig modern ateb y cwestiynau sydd, yn ôl llawer, heb eu hateb.
Enw'r ymchwiliad oedd Operation Hallam.
Mae Andrew Taylor wedi cynrychioli sawl teulu mewn achosion lle cafodd euogfarnau o lofruddiaeth eu gwyrdroi ar ôl marwolaeth y rhai gafodd eu dyfarnu yn euog.
Bu'n dadlau achos Mahmood Mattan, y dyn olaf i gael ei grogi yng ngharchar Caerdydd a Timothy Evans, gafodd ei grogi am ladd ei wraig a’i ferch ond a gafodd bardwn yn ddiweddarach, ar ôl i’r llofrudd John Christie gyfaddef mai fo oedd yn gyfrifol.
Ar ôl darllen adroddiadau’r heddlu a phatholegwyr o'r ymchwiliad gwreiddiol i farwolaethau Griff a Patty Thomas, mae Andrew Taylor yn credu fod achos yr heddlu o'r cyfnod hwnnw yn fregus, a hynny am sawl rheswm.
Dwy baned ar eu hanner ar y silff ben tân
Un o'r rhesymau mwyaf trawiadol, yn ôl Andrew Taylor yw nad oes "unrhyw esboniad boddhaol" wedi ei gynnig gan naill ai'r heddlu na'r patholegydd i egluro bodolaeth hoelen gafodd ei darganfod yn y croen uwchben llygad Griff Thomas.
Roedd Griff wedi gwaedu’n arw, a'r gred yw iddo gael anaf i'w ben. Ond mi ddywedodd adroddiad yr heddlu y gallai hynny “fynd yn groes” i’r ddamcaniaeth nad oedd unrhyw un heblaw Griff a Patti Thomas yn Ffynnon Samson y noson honno.
Mae Mr Taylor hefyd yn credu fod diffyg tanwydd, neu unrhyw hylif i gynnal y tân yn arwyddocaol, yn enwedig os mai hunanladdiad oedd achos marwolaeth Griff Thomas.
Ac mae dwy baned ar eu hanner ar y silff ben tân yn ogystal â phlât o fara menyn a chreision ar fraich cadair gyfagos yn awgrymu, yn ôl Andrew Taylor, bod rhywun cyfarwydd i'r brawd a chwaer wedi cael croeso yn y ffermdy ar y noson dan sylw.
Daeth cwest yn Hwlffordd ym mis Chwefror 1977 i ben gyda rheithfarn o ddynladdiad i Patti Thomas a rheithfarn agored i farwolaeth Griff Thomas.
“Yn fy marn i, mae’n rhaid bod y crwner wedi dod i’r casgliad bod yna gwestiynau heb eu hateb... fel arall fe fyddai wedi dod i reithfarn o hunanladdiad,” meddai Andrew Taylor.
“Er lles y teulu, gobeithio y bydd yr heddlu yn ail-agor yr achos. Nid yw’n braf cael un o’ch perthnasau wedi’i alw'n llofrudd.”
A allai John Cooper fod wedi llofruddio Griff a Patti?
Mae sawl un wedi cwestiynu dros y blynyddoedd a allai John Cooper, a gafodd ei ddyfarnu yn euog yn 2011 o ddwy lofruddiaeth ddwbl yn Sir Benfro, fod yn gyfrifol am farwolaethau Ffynnon Samson.
Wrth siarad â’r podlediad 'Death on the Farm', dywedodd yr arbenigwr fforensig Tracy Alexander, a fu’n gweithio ar achos Cooper, ei bod yn cofio bod ei enw’n cael ei grybwyll mewn cysylltiad â marwolaethau Ffynnon Samson.
"Dywedodd rhywun ar y tîm hwnnw 'rwy'n teimlo bod yna debygrwydd'," meddai.
“Rwy’n meddwl bod [yr heddlu] yn agored i’r awgrym ond roedd angen rhywbeth pendant arnyn nhw i allu ei symud ymlaen.”
Dywedodd Steve Wilkins, cyn uwch swyddog yn ymchwiliad John Cooper, wrth BBC Cymru y byddai'n "syndod" petai Cooper wedi bod yn gyfrifol am farwolaethau Griff a Patti Thomas, o ystyried bod miloedd o bunnoedd mewn arian parod wedi ei adael yn y ffermdy.
"Dwyn arian oedd cymhelliad penna' John Cooper... roedd yn droseddwr proffesiynol," meddai Mr Wilkins, sydd wedi ymddeol o'r heddlu ers hynny.
“Hefyd, roedd gan Cooper gysylltiadau cryf â’r lleoliadau lle roedd yn troseddu, ond doedd dim byd i’w gysylltu â’r ardal yn Llangolman, ac roedd gwahaniaethau rhwng llofruddiaethau Griff a Patti Thomas a’i droseddau eraill."
Croesawodd Mr Wilkins adolygiad yr heddlu o achos Ffynnon Samson, gan ychwanegu: "Mae'n ymgais i ddarganfod y gwir, ac i ateb y cwestiwn os oedd yna drydydd person yn gysylltiedig, ac os oes yna ffordd o sefydlu hynny, yna fe ddylai hynny ddigwydd."
Dywedodd Heddlu Dyfed Powys eu bod yn parhau i rannu'r wybodaeth ddiweddaraf gyda theulu Griff a Patti Thomas, gan ychwanegu: “Nid yw’r amserlen ar gyfer cwblhau’r adolygiad yn gyhoeddus ar hyn o bryd, ond mae’r gwaith hwnnw yn parhau."