Galw am godi cyrff brawd a chwaer o'r bedd

Martha Mary Thomas a Griff Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Martha Mary Thomas a'i brawd Griff Thomas yn Sir Benfro yn Rhagfyr 1976

  • Cyhoeddwyd

Bron i 50 mlynedd ers marwolaethau amheus brawd a chwaer o Sir Benfro, mae perthynas i’r ddau yn dweud y dylai’r heddlu ystyried codi eu cyrff o’r bedd er mwyn cynnal archwiliad fforensig llawn.

Bu farw Griff a Patti Thomas yn eu ffermdy, Ffynnon Samson, ym mis Rhagfyr 1976.

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi bod yn cynnal adolygiad fforensig o’r achos ers Hydref 2022.

Yn ôl y llu, mae’r adolygiad hwnnw yn parhau a’r bwriad yw defnyddio technegau fforensig modern i weld a fydd yna dystiolaeth newydd, ond mae Huw Absalom - oedd yn adnabod y ddau - yn dweud bod angen ystyried archwilio olion y cyrff am gliwiau posib.

Daw wrth i bodlediad newydd am yr hanes gael ei lansio ar BBC Sounds.

Mae’r newyddiadurwr Aled Scourfield wedi bod yn dilyn hanes yr achos ers blynyddoedd, ac wedi gohebu ar yr hanes i Taro 9 yn 2011 - rhaglen a gafodd ei henwebu am wobr BAFTA Cymru.

Mae'r lle yn dal i roi ias i mi, bron i hanner can mlynedd ar ôl y digwyddiad.

Rwy' ambell waith yn gyrru heibio ffermdy Ffynnon Samson ar y ffordd lawr i gwm Capel Rhydwilym, ble roedd pobl yn arfer cael eu bedyddio yn nŵr y Cleddau Ddu.

Dyma un o'r llefydd hyfrytaf yn Sir Benfro, ac yn aml iawn dim ond sŵn yr afon sydd i'w glywed ynghyd â chân yr adar neu fref ambell i ddafad.

Dyma'r daith yr oedd Griff a Patti yn gwneud ar fore dydd Sul, ar eu ffordd i'r gwasanaeth yn Rhydwilym. Mae'r Bedyddwyr wedi bod yn addoli yma ers yr 17eg ganrif.

Roedd y brawd a'r chwaer yn aelodau ffyddlon, ac yn y cwrdd yn Rhydwilym y gwelwyd y ddau gyda'i gilydd am y tro olaf, yn gyhoeddus, cyn eu marwolaethau dychrynllyd.

Mae ffermdy Ffynnon Samson wedi newid dwylo sawl gwaith ar hyd y blynyddoedd, ond mae'r hen arwydd metal oedd tu allan i'r cartref ym 1976 dal i'w weld ar y llawr o flaen y tŷ.

Mae fy nhad-yng-nghyfraith, sydd yn dal i ffermio ym Mynachlog-ddu gerllaw, yn cofio'r llofruddiaethau yn glir, ac roedd yn adnabod Griff a Patti.

Rwy'n byw llai na phedair milltir o'r tŷ, ac rwy'n sylweddoli sut mae'r hanes wedi creithio ardal sy'n draddodiadol wedi bod yn heddychlon.

"Bro Brawdoliaeth" yw hon, yn ôl Waldo, ond fe deimlwyd oerwynt creulon yma bron i hanner can mlynedd yn ôl.

Griff a Patti
Disgrifiad o’r llun,

Griff a Patti Thomas yn eu dyddiau iau

Ar fore gaeafol a rhewllyd ar 11 Rhagfyr 1976, roedd y postmon ifanc Nigel Rossiter dal yn dod i delerau gyda'i rownd newydd, dros dro, tra bod cydweithiwr ar ei wyliau.

Fe gyrhaeddodd ffermdy Ffynnon Samson, sydd ar heol ddiarffordd, tua hanner milltir o bentref Llangolman yn Sir Benfro.

Roedd wedi cwrdd â'r perchnogion tawel, Griff a Patti Thomas, rai dyddiau ynghynt a gwyddai mai brawd a chwaer oedden nhw.

Wrth archwilio'r drws wrth ochr y tŷ, sylwodd Nigel fod yna lythyrau yna.

Meddyliodd mai llythyrau i'w postio oedden nhw, ond wrth edrych ar yr amlenni, sylweddolodd mai rhai oedd heb gael eu casglu oedden nhw.

Roedd wedi gadael yr union lythyrau yno rai dyddiau ynghynt.

'Gallu arogli llosgi'

"Fe waeddais i, a oes unrhyw un yna?" meddai Nigel.

"Wrth i fi agor y drws, roeddwn i yn gallu arogli llosgi.

"Fe es i heibio sgiw, a rownd y gornel fe welais i gorff yn gorwedd ar ddeunydd wedi llosgi - roedd y deunydd fel clustog - ac roedd y corff yn gorwedd ar un ochr."

Roedd Nigel wedi darganfod corff Griff Thomas, 73, yng nghegin ei gartref.

Oddi tano, roedd yna bentwr o ddeunydd wedi llosgi.

Ymhellach yn y tŷ roedd corff ei chwaer, Martha Mary, 70, oedd yn cael ei hadnabod fel Patti - yn gorwedd ar gelficyn i ddal cylchgronau yn yr ystafell fyw.

Roedd hi wedi cael ei churo yn wael ac wedi dioddef anafiadau i'r pen.

Roedd teledu wrth ei thraed wedi ei droi wyneb i waered, a dal ymlaen.

Nigel Rossiter
Disgrifiad o’r llun,

Y postmon Nigel Rossiter wnaeth ganfod y cwpl yn farw 'nôl yn Rhagfyr 1976

Dangosodd archwiliadau post mortem bod Patti wedi marw o anafiadau i'r pen a Griff wedi marw yn sgil llosgiadau.

Roedd parddu yn ei ysgyfaint oedd yn awgrymu ei fod dal yn fyw pan fu'r tân yn cynnau.

Roedd yna olion hefyd bod rhywun wedi ceisio rhoi blanced ar dân yn yr ystafell fyw, ble ddarganfuwyd corff Patti, ond doedd y fflamau ddim wedi cydio.

Roedd hi'n ymddangos hefyd bod rhywun wedi ceisio torri i mewn i'r biwro yn y tŷ, er doedd hi ddim yn bosib dweud pryd

'Tebygol' mai Griff oedd yn gyfrifol

Lledodd y newyddion yn gyflym o gwmpas y gymuned, ac fe benderfynodd Heddlu Dyfed-Powys lansio ymchwiliad i ddwy lofruddiaeth, gan sefydlu canolfan arbennig yn neuadd Llangolman.

Fe holwyd 1,200 o bobl, ac fe wnaed ymholiadau o ddrws i ddrws dros bellter o dair i bedair milltir.

Ond wrth i'r Nadolig fynd heibio ac wrth i'r flwyddyn newydd gyrraedd, roedd ymchwiliad yr heddlu yn dirwyn i ben.

Erbyn diwedd Ionawr 1977 roedd y dyn yng ngofal yr ymchwiliad, y Ditectif Brif Uwch Arolygydd Pat Molloy, wedi penderfynu yn barod ar ei gasgliadau.

Roedd hi'n "debygol" bod Griff wedi lladd ei chwaer ar ôl colli ei dymer am fater ariannol - ac o bosib wedi ei lladd drwy ei tharo gyda chadair o'r gegin - cyn cychwyn tân yn y gegin ble wnaeth e orwedd yn y fflamau a marw.

Ni ddaeth yr heddlu fyth o hyd i unrhyw arf, er iddynt chwilio yn ddyfal amdano.

Ffynnon Samson
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cyrff Griff a Patti Thomas eu canfod yn ffermdy diarffordd Ffynnon Samson ger pentref Llangolman

I'r rheiny oedd wedi 'nabod Griff a Patti, roedd y ddamcaniaeth yn hurt ac yn hollol annerbyniol.

Roedd y ddau yn addoli yn rheolaidd yng nghapel hynafol y Bedyddwyr, Rhydwilym, gerllaw.

Roedd y ddau yn uchel eu parch ym meddwl eu Gweinidog, Y Parchedig Peter Thomas, a fyddai flynyddoedd yn ddiweddarach yn cael ei wneud yn Ysgrifennydd Bedyddwyr Cymru.

Doedd yr un o'r ddau wedi priodi, ond wedi gofalu am eu tad oedrannus, Tomi, tan ei farwolaeth ym 1967.

Bu'r ddau yn rhedeg y ffarm cyn ymddeol a rhentu'r tir.

Roedd Griff a Patti wedi bod yn y cwrdd ar y dydd Sul cyn eu marwolaethau dychrynllyd.

Dywedodd eu meddyg teulu, Dr David Geraint Rees, wrth yr heddlu bod y ddau yn "agos iawn ac yn pryderu am les ei gilydd".

'Byth yn credu'

Bron i hanner can mlynedd ers darganfyddiad Nigel Rossiter, mae teulu a chymdogion Griff a Patti yn dal yn cael hi'n anodd ymdopi gyda'r dirgelwch o beth yn union ddigwyddodd.

Roedd tad Ann Gibby, Emlyn, yn gefnder cyntaf i Griff a Patti, ac fe aeth i weld y cyrff yn Ffynnon Samson y bore hwnnw.

Mae hi'n cofio'r sioc pan ddaeth y newyddion i'r aelwyd yn Llandysilio am eu marwolaethau.

"Roedd pawb wedi cael ofn dychrynllyd," meddai.

"Doedd fy nhad byth yn credu bydde Griff wedi lladd ei chwaer.

"O'dd e'n dweud nes ei ddyddiau diwethaf 'bydde Griff byth wedi dod ben â neud e achos ei stad gorfforol' a dwi ddim yn credu bydde Griff wedi 'neud shwd beth."

Ann Gibby
Disgrifiad o’r llun,

Roedd tad Ann Gibby - cefnder Griff a Patti - yn gwrthod credu mai Griff oedd yn gyfrifol

Roedd Brian Llewelyn yn ei 30au pan fuodd y ddau farw, ac yn arfer dal cwningod ar dir Ffynnon Samson gyda'i dad.

Roedd yn adnabod Griff a Patti yn dda.

"Roedd y ddau yn bobl garedig, pobl tawel, pobl capel," meddai.

"O'dd e wedi bwrw pob un drwy'r sir. Pan mae rhywbeth yn agos at gartre', mae'n eich bwrw chi.

"O' chi ffaelu credu bod shwd beth wedi digwydd."

'Mae'n jôc!'

Roedd yn flin iawn i glywed barn yr heddlu am beth oedd wedi digwydd.

"O'dd neb yn credu shwd beth. Bydde unrhyw berson â sens yn ei ben ddim yn credu," meddai.

"Beth ddaeth dros Molloy i ddweud shwd beth?

"I feddwl bydde rhywun fel Griff yn lladd ei chwaer ac yna yn gorwedd ar y llawr a rhoi ei hunan ar dân. Mae'n jôc!"

Brian Llewelyn
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Brian Llewelyn bod "neb yn credu" barn yr heddlu am yr hyn ddigwyddodd

Cafodd Griff ei weld am y tro olaf yn y siop leol Charing Cross, ar brynhawn 7 Rhagfyr 1976.

Y gred yw bod ef a Patti wedi marw y noson honno.

Roedd y papur newydd a'r caws wnaeth e brynu yn y siop dal ym mhoced ei got pan fu farw - ffaith sy'n bwrw amheuaeth ar ddamcaniaeth Pat Molloy.

Roedd dwy baned o de wedi eu hanner yfed yn yr ystafell fyw, ynghyd â phlât oedd yn cynnwys bara menyn a chreision.

Awgrym, yn ôl rhai, bod yna ymwelydd wedi bod yn Ffynnon Samson ar noson 7 Rhagfyr.

Rhagor o amheuon

Roedd Griff wedi gwaedu yn drwm o anaf, ond oherwydd y llosgiadau, doedd y patholegydd ddim yn medru dweud o ble.

Doedd olion ei waed ddim yn yr ystafell fyw, sef ble darganfuwyd corff ei chwaer.

Cafodd llawer iawn o'i waed ei ddarganfod yn y peiriant gwnïo, ond roedd y clawr wedi cael ei ailosod.

Roedd yna ôl bys bawd mewn gwaed ar y gorchudd metal, sydd erioed wedi cael ei adnabod.

"Os mai nid ôl bys bawd Mr Thomas sydd ar y peiriant, yna ôl bys bawd y llofrudd yw e," oedd barn y Ditectif Brif Uwch Arolygydd Molloy yn ei adroddiad.

Capel Rhydwilym
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Griff a Patti yn addoli yn rheolaidd yng nghapel hynafol y Bedyddwyr, Rhydwilym

Roedd ci Griff a Patti yn tueddu i gyfarth ar ymwelwyr, ond fe ddiflannodd cyn eu marwolaethau.

Yn ôl un adroddiad, fe ddarganfuwyd y ci wedi boddi yn y ffynnon, er does yna ddim sôn am hyn yn adroddiad yr heddlu.

Mae'r amheuon mwyaf trawiadol yn codi wrth ystyried cyflwr corfforol Griff Thomas.

Roedd Huw Absalom yn 15 oed pan gafodd y ddau eu darganfod yn farw.

Roedd ei dad yn gefnder iddyn nhw ac roedd Huw a'i dad yn ymwelwyr cyson gyda Ffynnon Samson.

Mae'n cofio gweld effaith henaint ar Griff yn y capel.

"Roedd e methu troi tudalennau llyfrau emynau a dwi'n cofio un adeg fe wnaeth e ollwng ei sbectol ar y llawr a wedd e methu pigo nhw lan - roedd ei fysedd mor arthritic."

Huw Absalom
Disgrifiad o’r llun,

Mae Huw Absalom yn gwrthod credu damcaniaeth Heddlu Dyfed-Powys 'nôl yn y 70au

Doedd Huw ddim yn gallu credu esboniad yr heddlu mai Griff oedd yn gyfrifol am y fath erchylltra.

"Sai'n meddwl galle Griff fod wedi 'neud beth e mae wedi cael ei gyhuddo o wneud," meddai.

"Alle fe byth fod briwo y celfi yn y tŷ. Ni ddim yn siarad am rywbeth tsiep o MFI. Ni'n siarad am stoliau mas o dderw a pitch pine.

"Wedd Patti wedi cael ei bwrw nid gydag un gnoc fach ar ei phen. Roedd hi'n bludgeoned.

"We'n nhw wedi cael eu geni gyda'i gilydd, a gyda'i gilydd ers roedden nhw yn blant. We'n nhw yn godfearing people.

"Pan dda'th yr heddlu mas a dweud bod Griff wedi 'neud e, fe drodd lot o'r pentrefwyr yn erbyn yr heddlu.

"Dwi'n meddwl oedd e'n warthus fy hunan."

Ffynnon Samson
Disgrifiad o’r llun,

Llai na deufis ar ôl y digwyddiad roedd yr heddlu wedi penderfynu yn barod ar ei gasgliadau

Yn ôl Huw, doedd erioed wedi gweld anniddigrwydd rhwng y brawd a'r chwaer.

"We'n nhw o hyd yn siarad amwbyti'r capel. Wedd Griff yn licio dweud ei storis bach. Wedd Patti ambell waith yn chwerthin gydag e.

"Weles i ddim ffraeo erioed. We'n nhw yn concerned iawn am ei gilydd."

Llawer o arian parod yn y tŷ

Yn ei adroddiad i'r heddlu, mae'r Uwcharolygydd Pat Malloy yn gwrthod y syniad bod yna drydydd person allanol yn gyfrifol.

Ond mae'n cyfaddef nad oedd unrhyw beth yng nghefndir y ddau oedd yn awgrymu bod trais o'r fath rhwng y brawd a'r chwaer yn bosib.

Mae nifer o bobl yn credu bod Griff wedi tarfu ar ymosodiad ei chwaer pan ddaeth adref o'r siop, ac un ddamcaniaeth yw bod rhywun wedi mynd yno i fenthyg arian.

Roedd y brawd a'r chwaer yn cadw symiau mawr o arian parod yn y cartref.

Cafwyd hyd i £2,637 yn y tŷ ar ôl y llofruddiaethau, ac roedd ganddyn nhw gynilon o fuddsoddiadau gwerth rhyw £35,000, oedd yn swm sylweddol ym 1976.

Ffynnon Samson heddiw
Disgrifiad o’r llun,

Ffermdy Ffynnon Samson - cartref Griff a Patti Thomas - heddiw

Yn ôl Huw Absalom, roedd yna dystiolaeth glir bod rhywun wedi galw yn y ffermdy diarffordd.

"Roedd ail ddishgled o de yn y room front. Buasai Patti ddim wedi gadael jyst unrhyw un mewn i'r room front - alla i ddweud hynny wrthoch chi nawr.

"'Se rhan fwyaf o bobl ddim wedi mynd ymhellach na drws y back. Dim ond dwrned fyddai'n cael mynd i'r room front.

"Dwi'n meddwl bod rhywun wedi ymosod ar Patti tra bod e [Griff] lan yn y siop.

"Dwi'n meddwl oedd either Patti wedi cael ei lladd neu ar farw pan ddaeth Griff gartre'.

"A mor gynted â daeth Griff mewn drwy ddrws y tŷ, buodd rhywun yn ymosod arno."

Rheithfarn o ladd anghyfreithlon

Ar 17 Chwefror 1977 penderfynodd rheithgor yn Hwlffordd ar reithfarn o ladd anghyfreithlon yn achos Patti Thomas ac fe gofnodwyd rheithfarn agored i Griff.

Cwta 10 wythnos ers eu marwolaethau, roedd y mater ar ben i'r heddlu.

Dros y blynyddoedd, mae yna ymgyrch wedi tyfu i glirio enw Griff Thomas, gyda phapur bro Clebran yn pwyso am ymchwiliad newydd gan Heddlu Dyfed-Powys.

Bedd Patti a Griff
Disgrifiad o’r llun,

Mae Griff a Patti Thomas yn rhannu'r un bedd ym mynwent y capel ble roedd y ddau yn cyd-addoli

Dywedodd y golygydd, Hefin Wyn ei fod yn "teimlo bod yna anghyfiawnder wedi bod".

"Doedd y bobl leol ar y pryd ddim yn barod i herio'r heddlu a doedd yna ddim perthnasau agos i siarad ar eu rhan nhw yn y cwest," meddai.

"Roedd nifer yn teimlo bod yna rywun allanol yn gyfrifol am y marwolaethau.

"Doedd gan bobl ar y pryd ddim dylanwad nac awdurdod i herio esboniad yr heddlu.

"Roedd y Thomasiaid yn uchel eu parch yn y gymuned.

"Roedd Pat Molloy wedi ceisio awgrymu bod nhw yn byw yn feudwyaidd ac yn gecrus, ond dyw'r ffeithiau ddim yn cefnogi hynny."

Adolygiad fforensig

Ym mis Hydref 2022 fe ildiodd Heddlu Dyfed-Powys i'r pwysau cynyddol pan lansiwyd adolygiad fforensig o'r eitemau a gasglwyd o'r ffermdy i ddarganfod a fyddai "technegau modern yn medru rhoi golau newydd ar y digwyddiadau yn Ffynnon Samson ym 1976".

Mewn datganiad i BBC Cymru, dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod Operation Hallam yn parhau.

Yn ôl y llu, y bwriad yw darganfod a oes yna gyfleon i gasglu tystiolaeth newydd trwy ddefnyddio technegau fforensig cyfoes.

Does yna ddim amserlen benodol i’r adolygiad, meddai'r llu.

Maen nhw'n "parhau mewn cysylltiad agos gyda’r teulu" ac yn eu diweddaru ar unrhyw ddatblygiadau.

BBC
Disgrifiad o’r llun,

"Dwi'n gobeithio daw rhywbeth i law i gael clirio enw Griff," meddai Huw Absalom

Mae Griff a Patti Thomas yn rhannu'r un bedd ym mynwent y capel ble roedd y ddau yn cyd-addoli, ar lannau'r Cleddau Ddu.

I Huw Absalom, mae'r ymgyrch i glirio enw Griff yn parhau.

Mae e wedi annog yr heddlu i ystyried codi'r cyrff o'r bedd er mwyn cynnal archwiliad fforensig llawn.

"Pan bues i'n siarad gyda swyddogion Operation Hallam ar y dechrau we' nhw yn dweud we' nhw ddim yn meddwl ystyried edrych ar bethau heblaw bod rhywbeth newydd yn dod i'r golwg a wedes i 'mae dwy eitem gyda chi sydd ddim wedi cael eu cyffwrdd bwyti fod ers 47 mlynedd'.

"Wedes i 'mae'r ddau corff yn gorwedd yn Rhydwilym ac mae sheeten haearn wedi cael ei roi rhwng y ddau coffin, felly se ni'n meddwl bod yna ddim cross contamination i gael yna a hefyd mae'r forensics wedi symud 'mlaen gymaint'.

"Mae gymaint o arbenigwyr nawr yn y gwahaniaeth fields fel maen nhw'n gweud.

"Ond mae mwy o obaith i bigo rhywbeth lan nawr na beth wnaethon nhw yn '77."

'Clirio enw Griff'

Ychwanegodd: "S'dim amser ar ein hochr ni. Mae'n dod lan i 50 mlynedd.

"Wrth bod amser yn mynd 'mlaen mae'r bobl sydd yn 'nabod Griff a Patti yn mynd yn llai.

"Ydy'r person wnaeth hyn dal yn fyw? S'neb yn gwybod.

"Dwi'n mynd i weld bedd Mam a Dad, a dwi'n pasio bedd Griff a Patti a dwi o hyd yn stopio i siarad â nhw.

"Dwi fan uchaf yn rhoi fy llaw ar y garreg fedd a dweud bo' fi yn ymladd drostyn nhw o hyd.

"Mae'n rhywbeth fi'n teimlo yn gryf iawn amwbyti, achos fi wedi 'neud e am gymaint o flynyddoedd.

"Dwi'n gobeithio daw rhywbeth i law i gael clirio enw Griff. Dyna i gyd dwi moyn."

'Rhywun, rhywle, yn gwybod'

Mae'n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am eu marwolaethau i gysylltu â'r heddlu.

"Mae rhywun, rhywle, yn gwybod rhywbeth," meddai.

Mae Brian Llewelyn yn meddwl bod yna ateb lleol i'r hyn ddigwyddodd.

"Ydy, yn bendant yn lleol, ond mae'n rhy ddiweddar. Mae e bendant wedi cael bai ar gam," meddai.

"Llofruddiaeth oedd 'na, a dau berson wedi marw, a dim Griff - wedd e ddim yn llofrudd."