Rhybudd fod y frech goch yn lledaenu yn y gymuned
- Cyhoeddwyd
Mae achosion o'r frech goch yn lledaenu yn y gymuned, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) wedi rhybuddio.
Mae naw achos wedi'i gadarnhau yn ne-ddwyrain Cymru ac mae pryder y gallai'r haint fod yn lledu.
Mae ICC yn annog rhieni a gofalwyr i sicrhau bod eu plant yn cael eu brechu'n llawn â dau ddos o'r brechlyn MMR er mwyn osgoi dal y frech goch.
Mae'r symptomau cynnar yn cynnwys tymheredd uchel, peswch, trwyn yn rhedeg a llygaid poenus, coch.
Gall smotiau gwyn bach y tu mewn i'r geg hefyd fod yn arwydd.
- Cyhoeddwyd5 Ebrill
- Cyhoeddwyd5 Chwefror
Dywedodd ICC fod yr achosion yn ardal Gwent, sy'n cynnwys Torfaen, Casnewydd, Sir Fynwy, Caerffili a Blaenau Gwent.
Mae ICC wedi bod yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan i nodi cysylltiadau'r holl achosion, ac wedi rhoi cyngor iddynt ar ba gamau i'w cymryd a gwybodaeth am arwyddion a symptomau'r frech goch.
Mae'r holl gleifion yn derbyn gofal priodol, meddai ICC.
'Clefyd heintus iawn'
Dywedodd Beverley Griggs o ICC: “Mae'r frech goch yn glefyd heintus iawn a gall fod â chymhlethdodau difrifol, yn enwedig i fabanod, y rhai sydd â systemau imiwnedd gwannach, a menywod beichiog.
“Gellir atal y frech goch drwy'r brechlyn MMR hynod effeithiol a diogel.
"Dylai rhieni a gofalwyr nodi efallai y bydd angen i blant nad ydynt wedi derbyn cwrs llawn o MMR gael eu tynnu o'r ysgol am hyd at 21 diwrnod, os ydynt yn cael eu nodi fel cyswllt achos o'r frech goch.
"Rydym yn deall y gall hyn effeithio ar blant sydd i fod i sefyll arholiadau yn fuan a byddem yn gofyn am gymorth parhaus rhieni i atal achosion pellach o'r frech goch yn y gymuned.
“Yn ogystal, anogir oedolion nad ydynt erioed wedi cael y frech goch na'r brechlyn MMR ac sydd mewn cysylltiad agos â phlant i sicrhau eu bod yn siarad â'u meddyg teulu am frechu.”
Dywedodd yr Athro Tracy Daszkiewicz o Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan mai tua 12 mis yw'r oedran cywir ar gyfer y dos cyntaf o MMR, gyda'r ail ddos atgyfnerthu tua thair blynedd a phedwar mis.
"Fodd bynnag, os nad yw eich plentyn wedi cael y brechlyn MMR eto, gall barhau i ddod ymlaen i gael ei frechlyn.
"Nid yw byth yn rhy hwyr i gael eich brechu."