Gwylanod yn nythu yn atal trên rhag gadael Môn

GwylanFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Bu'n rhaid canslo trên o Gaergybi ddydd Llun gan fod gwylanod yn nythu ar drac reilffordd.

Roedd yn fwriad i symud trên gwag o Ynys Môn i safle cynnal a chadw yn Abertawe.

Ond pan gyrhaeddodd y criw, doedd dim modd symud y trên heb amharu ar nyth yr adar, sy'n rhywogaeth sy'n cael ei warchod.

Roedd pob trac posib arall wedi eu blocio, ac felly bu'n rhaid canslo'r daith.

Gwylan ar y trac
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwylanod wedi nythu rhwng y traciau yng Nghaergybi

Cerbyd dosbarth 175 yw'r trên dan sylw - math oedd yn cael ei ddefnyddio gan Drafnidiaeth Cymru tan 2023.

Roedd nifer ohonyn nhw'n cael eu cadw yng Nghaergybi cyn cael eu symud i weithfeydd Glandŵr yn Abertawe.

Dyma oedd y trên olaf i gael ei symud, ond roedd yn amhosib i hynny ddigwydd ddydd Llun gan fod yr adar yn nythu mor agos i'r trac.

Dywed Network Rail bod hi'n fwriad i aildrefnu'r daith gan ddefnyddio trac arall, fel bod y gwylanod yn cael llonydd i orffen nythu.

Gorsaf Caergybi
Disgrifiad o’r llun,

Dydy'r sefyllfa heb amharu ar deithiau arferol i ac o Gaergybi - dim ond taith y locomotif ar y dde gyda'r cerbyd dosbarth 175

Dywedodd llefarydd: “Nid oedd modd symud trên gwag o'r seidins yng ngorsaf Caergybi gan fod gwylanod yn nythu ar lein liniaru.

“Roedd yr uned i fod i deithio i Landŵr yn Abertawe ond mae'r gwylanod – rhywogaeth dan warchodaeth – yn nythu ar y trac.

“Roedd llwybr arall o Gaergybi wedi ei flocio gan drên arall, oedd heb griw, oherwydd doedd dim teithiau eraill wedi eu trefnu tan yn ddiweddarach yn y dydd.”