Rhybudd melyn am law i dde a gorllewin Cymru

Pobl yn y glawFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rhybudd mewn grym o 18:00 nos Lun tan 03:00 fore Mawrth

  • Cyhoeddwyd

Mae rhybudd melyn am law wedi ei gyhoeddi ar gyfer rhannau helaeth o dde a gorllewin Cymru nos Lun.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai'r glaw "trwm ar brydiau" achosi rhywfaint o drafferthion i deithwyr.

Fe all teithiau bws a thrên gymryd mwy o amser, tra bod llifogydd ar y ffyrdd hefyd yn bosib.

Mae rhwng 20-40mm o law yn debygol ar hyd mwyafrif yr ardal dan sylw.

Bydd y rhybudd mewn grym o 18:00 nos Lun tan 03:00 fore Mawrth yn yr ardaloedd canlynol:

  • Abertawe

  • Blaenau Gwent

  • Bro Morgannwg

  • Caerdydd

  • Caerffili

  • Casnewydd

  • Castell-nedd Port Talbot

  • Ceredigion

  • Merthyr Tudful

  • Pen-y-bont

  • Powys

  • Rhondda Cynon Taf

  • Sir Befnro

  • Sir Fynwy

  • Sir Gaerfyrddin

  • Torfaen

Ffynhonnell y llun, Y Swyddfa Dywydd

Pynciau cysylltiedig