Y caffis sy'n cynnig hoe o edrych ar sgriniau

Lily yn Alpine Cafe, Betws-y-Coed
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lili yn gweithio mewn caffi ym Metws-y-coed sydd ddim yn cynnig wi-fi o gwbl

  • Cyhoeddwyd

Mae caffi yng ngogledd Cymru sydd ddim yn darparu cyswllt wi-fi i gwsmeriaid yn dweud bod llawer yn croesawu'r cyfle i gymryd hoe o fod ar-lein.

Daw wrth i arolwg ddangos bod dros draean o bobl yn poeni eu bod yn treulio gormod o amser o flaen sgrîn, a bod person cyffredin yn treulio pedair awr ac 20 munud ar-lein bob dydd.

Roedd pobl ifanc, yn enwedig, yn pryderu bod eu gweithgaredd ar-lein yn cael effaith negyddol ar eu lles.

Dywedodd y cyflwynydd a'r dylanwadwr, Jess Davies ei bod wedi mwynhau detox digidol, ond ei bod bellach yn defnyddio'r apiau yr un faint â'r cyfnod cynt am ei bod yn dibynnu arnynt am waith.

'Hapus i sgwrsio'

Mae Siop Goffi Alpine ym Metws-y-coed, Sir Conwy, yn fan poblogaidd gyda thwristiaid a phobl leol.

Gyda phwyslais ar warchod yr amgylchedd a bywyd gwyllt, mae'r caffi'n gwneud pwynt o sicrhau nad oes unrhyw gynnyrch yn cynnwys olew palmwydd.

Cwsmeriaid yn y caffi
Disgrifiad o’r llun,

Mae Siop Goffi Alpine ym Metws-y-coed wedi penderfynu peidio darparu unrhyw gysylltiad â'r rhyngrwyd

Ond erbyn hyn maen nhw hefyd wedi penderfynu peidio darparu unrhyw gysylltiad â'r rhyngrwyd, ac mae natur y pentref hefyd yn golygu nad yw pawb yn derbyn signal ffôn symudol yna chwaith.

Dywedodd Lili Minton-Roberts, sy'n gweithio yn y caffi, bod llawer o gwsmeriaid yn croesawu cael hoe o fod o flaen sgrîn.

"Mae 'na lot o bobl yn teimlo pressure bod ar eu ffôn nhw ac ateb bob dim ond mae'n neis cael coffi a munud i just mwynhau'r sefyllfa a mwynhau Betws-y-coed," meddai Lily.

"Dydan ni ddim really yn cael llawer o bobl yn holi am wi-fi, ac mae hynna'n beth da dwi'n meddwl.

"Mae pobl yn hapus i sgwrsio a just cael amser da hefo ffrindiau a disconnectio."

Helen Wilson
Disgrifiad o’r llun,

Mae Helen Wilson yn dweud fod sgriniau yn ynysu pobl o'r hyn sy'n digwydd o'u cwmpas

Mae un caffi yn Abertawe hefyd wedi mynd gam ymhellach drwy wahardd ffonau a gliniaduron am un noson bob mis.

Dywedodd Helen Wilson, perchennog Ground Plant Based Coffee, nad oedd hi'n hoffi'r pwysau o gael ei dyfeisiau ei hun ymlaen drwy'r amser, a'i bod am gynnig "lle i bobl ymgysylltu".

Yn dilyn llwyddiant y noson agoriadol, mae'n dweud y bydd yr arferiad yn parhau wrth fynd ymlaen.

Y gwahaniaeth mwyaf, sylwodd Helen, oedd bod "pobl yn siarad gyda'i gilydd".

"Cawsom gymysgedd go iawn o oedrannau o bobl ifanc yn eu harddegau, i gyplau a phobl oedrannus."

'Lot yn cael ei golli drwy siarad ar-lein'

Dangosodd arolwg diweddar bod 38% o bobl yn poeni am dreulio gormod o amser o flaen sgrîn ac yn awyddus i gael "detox digidol".

Mae bron i hanner y rhai rhwng 18 a 34 oed yn ystyried bod eu gweithgaredd ar-lein yn cael effaith negyddol ar eu lles.

Dywedodd yr Athro Phil Reed, Cadeirydd Seicoleg Prifysgol Abertawe, y dylai unrhyw beth sy'n cynnig hoe o fod yn ddibynnol ar dechnoleg gael ei "groesawu".

Ychwanegodd Dr Kyle Jones, darlithydd Seicoleg yn y brifysgol, nad yw bod ar-lein wastad yn beth cymdeithasol.

"Mae pobl yn siarad â phobl eraill ac yn cyfathrebu ar-lein, ond mae hynny'n wahanol i wneud ymdrech a siarad â phobl.

"Mae lot yn cael ei golli drwy siarad ar-lein, 'da chi ddim yn teimlo mor ynghlwm â'r gymuned os dydych chi ddim yn mynd mas a mynd i'w gweld nhw."

Jess Davies
Disgrifiad o’r llun,

Er iddi fwynhau cyfnod i ffwrdd o'r cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Jess Davies ei bod yn dal i'w defnyddio yn gyson erbyn hyn

Fel un sy'n dibynnu ar y cyfryngau cymdeithasol fel rhan o'i gwaith, dywedodd y cyflwynydd Jess Davies ei bod yn anodd bod i ffwrdd o'r platfformau am gyfnodau hir.

Fe wnaeth detox digidol am wythnos, a dywedodd ei bod wedi "mwynhau'r profiad", ond efallai ei bod "yr un mor wael ag erioed" am dreulio amser ar y platfformau erbyn hyn.

Allgofnodi o'r cyfrifon oedd un darn o gyngor oedd wedi ei helpu, meddai, gan roi rhwystr pan oedd hi'n teimlo ei bod yn cael ei thynnu'n ôl at y sgrîn.

"O'dd e'n neis i gael y barrier 'na i feddwl, 'oes rhaid i fi fynd ar y cyfryngau cymdeithasol a scrolio?'

"O'dd hwnna'n teimlo'n really neis, ond o'dd e'n really galed, pan chi'n gweithio pan chi'n gweithio yn y byd cyfryngau cymdeithasol fel fi, mae'n rhaid i fi fod arnyn nhw am waith.

"So fi wedi ffeindio fe'n galed i gadw lan gyda'r boundaries gyda'r cyfryngau cymdeithasol."

Isla Davies
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Isla Davies ei bod yn deall y rhesymeg dros beidio bod ar sgrîn

Yn ôl ym Metws-y-coed, teimladau cymysg am y syniad o beidio cynnig wi-fi oedd gan rai o gwsmeriaid y caffi.

Roedd Isla Davies, a oedd yn ymweld o Warrington, yn y caffi gyda gliniadur gyda'r bwriad o wneud gwaith.

"Mi fyddai wedi bod yn 'chydig o drafferth os fyswn i heb signal ffôn ond dwi'n defnyddio fy hotspot ar hyn o bryd.

"Dwi'n mynd i siopau coffi drwy'r adeg, yn aml iawn heb gyfrifiadur, ac yn meddwl fod o'n le da i bobl gael detox.

"Dwi'n deall pam maen nhw'n ei wneud o."

Bryn Richards
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bryn Richards yn hoff o'r syniad o beidio darparu wi-fi

Dywedodd Bryn Richards o Solihull, ger Birmingham, nad oedd cyswllt wi-fi yn bwysig iddo.

"Mae'n eitha da cael rhywle i ymlacio... yn ddiweddar dwi wedi bod yn ceisio lleihau fy nefnydd o wefannau cymdeithasol ac wedi dileu llawer o'r apiau.

"Mae rhywun yn colli gymaint o amser yn scrolio."

Pynciau cysylltiedig