Clwb rygbi yn ymddiheuro ar ôl neges 'ddim ar gyfer merched'

Dywedodd Castell-nedd yn wreiddiol eu bod am "herio a newid camsyniadau am rygbi menywod"
- Cyhoeddwyd
Mae Clwb Rygbi Castell-nedd wedi ymddiheuro ar ôl cael eu beirniadu am hyrwyddo gêm gan ddefnyddio'r slogan "yn sicr dyw'r un yma ddim ar gyfer merched".
Mewn neges fore Mawrth, dywedodd Matty Young a ysgrifennodd y neges ar un o gyfrifon y clwb nos Lun, ei fod "wir yn ymddiheuro am unrhyw niwed sydd wedi ei achosi".
Dywedodd mai'r "syniad o'r cychwyn oedd bwrw golwg ar y misogyny sydd dal yn bresennol o fewn rygbi," gan roi llais i'r merched sy'n cynrychioli'r clwb.
"Dwi nawr yn cydnabod nad oedd y neges wreiddiol yn adlewyrchu'r neges honno, ac am hynny dwi'n sori."
Roedd y neges wreiddiol ar X yn cynnwys yr hashnod '#NotForGirls' gan orffen gyda'r neges: "Stay tuned… Not everything is as it seems."
Roedd y neges ar X yn hyrwyddo eu gêm yn erbyn eu gelynion lleol Llangennech, a fydd yn digwydd ar ddydd Gwener, 28 Mawrth.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Cafodd y neges wreiddiol gryn sylw ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda chyn-gapten Cymru a hyfforddwr presennol Cymru dan-18, Siwan Lillicrap yn ymateb ar X.
Dywedodd: "Dwi methu credu'r hyn dwi wedi ei weld - gwarth arnoch @neathrfc! Anwybodus, annerbyniol, ac amhriodol."
Dywedodd AS Gŵyr a'r cyn-chwaraewr rhyngwladol, Tonia Antoniazzi: "Mae hyn yn siomedig i glwb sydd â hanes cryf ac etifedd sydd wedi ysbrydoli cymaint o fenywod a merched i eisiau chwarae ac wedi chwarae!"
Un arall fu'n ymateb i'r neges oedd cyn-chwaraewr Cymru, Lowri Norkett Morgan gan ddweud fod y neges yn "hollol afiach".
Dywedodd llefarydd ar ran Undeb Rygbi Cymru: "Fe wnaethom ni ofyn i Gastell-nedd i ddileu'r neges cyn gynted â phosib, ac wrth gwrs rydym ddim yn derbyn y teimlad o fewn y neges."
Cafodd y neges wreiddiol ei chyhoeddi am 18:04 nos Lun, a'i dileu yn fuan wedi 21:00.
'Annog trafodaeth'
Yn hwyrach nos Lun, fe wnaeth Mr Young ymddiheuro am "unrhyw ddryswch a achoswyd" a bod y clwb wedi "ymrwymo i symud ymlaen gyda'n gilydd" mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol.
Roedd yn nodi bod eu "hymgyrch ddiweddar wedi ei gynllunio i annog trafodaeth, ac rydym yn deall efallai ei fod wedi achosi dryswch, ac wedi brifo rhai".
"Nid yw ein hymrwymiad i dyfu a chryfhau'r clwb - ar bob lefel - erioed wedi bod yn gryfach," meddai.
"Rydym yn deall bod camsyniadau am rygbi menywod yn parhau i fodoli - ond yn hytrach na'u trafod, rydym yma i'w herio a'u newid."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2019