Galw am 'gyllid cenedlaethol' i helpu pobl ddychwelyd i'r gwaith

Wyth mlynedd ar ôl damwain fferm, mae Kristian a Beckie yn dathlu dechrau busnes
- Cyhoeddwyd
Pan dorrodd Kristian Howell ei gefn mewn damwain ffermio, dywedodd ef a'i wraig Beckie y gallen nhw fod wedi byw "yn eithaf hawdd ac yn gyfforddus" ar fudd-daliadau anabledd.
Ond "doedd hynny ddim i ni," meddai Kristian, wrth i'r cwpl agor canolfan planhigion newydd yn Sir Benfro.
Er i'r broses o wella gymryd blynyddoedd, roedd y teulu yn benderfynol o ddychwelyd i'r gwaith gyda chymorth mentor busnes.
Mae gan Gymru gyfradd uchel o anweithgarwch economaidd - term sy'n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio pobl o oedran gwaith nad ydynt mewn gwaith.
Mae 'na alwadau am gynyddu'r cymorth sydd ar gael i helpu pobl i ddychwelyd i'r gwaith.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod eu rhaglenni amrywiol wedi helpu mwy na 20,000 o bobl ddiwaith y llynedd.
Osgoi dibynnu ar fudd-daliadau
Roedd Kristian yn gweithio ar fferm yn Rhos-goch, Sir Gaerfyrddin, yn 2017 pan syrthiodd a thorri ei gefn.
Fe wnaeth y ddamwain ei barlysu o'r canol i lawr - fe dorrodd fertebra a niweidio madruddyn y cefn (spinal cord) yn ddifrifol.
"Gallwch drwsio asgwrn y cefn, ond allwch chi ddim trwsio'r madruddyn," eglurodd Kristian.
Gan nad oedd modd iddo ddychwelyd i'w waith blaenorol, treuliodd Kristian a Beckie flynyddoedd yn canolbwyntio ar wella.
Roedd y ddau yn awyddus i osgoi dibynnu ar fudd-daliadau.

Ar ôl i Kristian Howell dorri ei gefn, roedd yn benderfynnol o weithio eto
"Gallwn fod wedi peidio â gweithio, a byw ar y budd-daliadau roedden ni'n eu derbyn," meddai Beckie.
"Ond fe wnaethon ni benderfynu nad dyna'r cyfeiriad roedden ni eisiau mynd."
Ychwanegodd Kristian: "Mae gen i ferch 15 oed hefyd, ac roedden ni eisiau dangos iddi y gallwch chi weithio, ennill arian a chael bywyd gwell."
Roedd hi'n anodd dechrau busnes. Cafodd y cwpl fenthyciad o £20,000 gan Fanc Busnes Prydain - doedd benthycwyr eraill ddim yn fodlon eu cefnogi.
"Dydyn ni ddim yn edrych yn dda ar bapur, yn ariannol," meddai Beckie. "Does gan yr un ohonom ni ddyledion, ond doedden ni ddim ag unrhyw arian."
Fe wnaeth mentor o'r banc roi cyngor iddyn nhw ar sut i sefydlu'r busnes, ac roedd ei gymorth yn allweddol i'w taith yn ôl i'r byd gwaith ar ôl bod ar fudd-daliadau ers 2017.
Mae'r darlun ehangach yn tanlinellu'r her o helpu pobl i ddychwelyd i'r gwaith, ac mae galwadau am wella'r cymorth i bobl sydd heb waith am gyfnod hir.

Mae cwmni Rhys Lloyd yn darparu gweithdai i helpu pobl ailhyfforddi
Yng Nghymru, mae 25.6% o bobl rhwng 16 a 64 oed yn cael eu hystyried yn economaidd anweithgar – oherwydd rhesymau fel salwch hirdymor, cyfrifoldebau gofalu neu ymddeoliad cynnar.
"Mae'r galw yno, ond does dim digon o gyllid i ateb y galw," meddai Rhys Lloyd.
Mae ei gwmni, Whitehead Ross Education, yn darparu gweithdai i helpu pobl i ailhyfforddi.
Dywedodd fod ei gwmni'n perfformio'n well na'r targedau yn gyson wrth helpu pobl yn ôl i'r gwaith, ond mae'n dadlau bod y cyllid presennol, sydd ond ar gael ar gyfer prosiectau penodol, yn annigonol.
"Os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif ynghylch lleihau'r ganran o oedolion sy'n economaidd anweithgar, mae angen iddi fuddsoddi mewn rhaglen gyflogadwyedd genedlaethol fydd yn gweithio gyda chyflogwyr a darparwyr hyfforddiant i sicrhau bod pobl yn cael y sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i ddod yn weithgar eto."

Roedd cyfle i ennill cymhwyster hylendid bwyd yn y gweithdy yma ym Mon-y-maen, Abertawe
Roedd Mr Lloyd yn siarad mewn sesiwn sgiliau ym Mon-y-maen lle roedd pobl yn ennill cymhwyster hylendid bwyd.
Ymhlith y rhai oedd yn bresennol roedd Sarah Kaighin, 53 o Gellifedw yn Abertawe.
"Dwi ddim yn gweithio ar hyn o bryd – dwi wedi bod yn sâl yn ddiweddar," meddai.
"Ond dwi'n gobeithio dechrau gweithio eto'n fuan.
"Roeddwn i'n arfer gweithio ym myd arlwyo ac yn gobeithio parhau i wneud hynny, felly roeddwn i'n meddwl y byddai'r cwrs yma'n ddefnyddiol i mi yn y dyfodol."

Wedi cyfnod o salwch mae Sarah Kaighin yn awyddus i weithio eto
Dywedodd Mr Lloyd bod modd helpu mwy o bobl fel Sarah Kaighin i ddychwelyd i'r gwaith pe bai mwy o gyllid ar gael.
"Byddai dull cenedlaethol, cyd-gysylltiedig yn sicrhau bod darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr yn cydweithio gyda sefydliadau fel Canolfan Byd Gwaith i ddarparu'r cymwysterau a'r sgiliau cywir sydd eu hangen ar y gweithlu."
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Y llynedd helpodd ein hamrywiaeth o raglenni cyflogadwyedd fwy na 20,000 o bobl ddiwaith.
"Ar hyn o bryd rydym yn adolygu'r rhaglenni hyn i sicrhau bod darpariaeth yn y dyfodol yn esblygu gydag anghenion sy'n newid.
"Mae gwaith eisoes ar y gweill i ddod â'n rhaglenni cyflogadwyedd allweddol at ei gilydd.
"Eleni, fe wnaethom weithio gyda Llywodraeth y DU i ddarparu hyd at £10m i dreialu ffyrdd newydd o gefnogi pobl sy'n economaidd anweithredol i gael gwaith drwy ein cynlluniau peilot Arloesi Anweithgarwch Economaidd."