Jess Fishlock: 'Chwaraewr a pherson arbennig'
- Cyhoeddwyd
Roedd Rhian Wilkinson, rheolwr tîm pêl-droed merched Cymru, wedi ei synnu.
Doedd hi methu credu nad oedd pawb yn ymwybodol o Jess Fishlock a’r hyn y mae hi wedi ei gyflawni yn ystod ei gyrfa.
Wrth gwrs mae hynny, o bosib, yn fwy i'w wneud â statws gêm y merched yng Nghymru dros y blynyddoedd yn hytrach na Fishlock ei hun.
Ond gyda thîm merched Cymru bellach yn derbyn sylw ehangach gan y cyfryngau a’r cyhoedd, mae Fishlock yn derbyn clod haeddiannol o’r diwedd.
Mae hi bellach wedi ennill mwy o gapiau rhyngwladol, ac wedi sgorio mwy o goliau nag unrhyw chwaraewr arall yn hanes y gêm yng Nghymru.
Mae Fishlock wedi ennill Cynghrair y Pencampwyr ac wedi chwarae ar y lefel uchaf yn yr Unol Daleithiau ers dros ddegawd.
Bellach, mae hi wedi sgorio mwy o goliau dros ei gwlad nag unrhyw chwaraewr arall - gwrywaidd neu fenywaidd.
Roedd hi wedi dod yn gyfartal gyda record Helen Ward o 44 o goliau yn y fuddugoliaeth o 3-0 yn erbyn Croatia nos Wener ddiwethaf.
Ni fu’n rhaid iddi aros yn hir i dorri’r record, wrth iddi sgorio gôl gynnar yn y fuddugoliaeth o 2-0 yn erbyn Kosovo yn Llanelli - canlyniad sy'n golygu fod Cymru yn gorffen ar frig eu grŵp rhagbrofol ar gyfer Euro 2025.
“Dyna Jess i chi,” meddai capten Cymru ar y noson, Angharad James.
"Mae hi'n berson a chwaraewr sbesial ac mae hi wedi bod mor bwysig i bêl-droed menywod yng Nghymru.
"Mae hi'n dal i wneud newidiadau nawr... mae hi'n berson arbennig i gael yn y grŵp, ac yn leader bob tro mae hi yn rhoi'r crys coch ymlaen.
"Dwi mor falch ei bod wedi torri'r record heno."
Roedd Kath Morgan yn aelod o dîm sylwebu BBC Radio Cymru ar gyfer y gêm yn erbyn Kosovo.
Roedd hi hefyd yn nhîm Cymru pan ymunodd Fishlock gyda’r garfan ryngwladol am y tro cyntaf yn 2006.
“I mi mae hi mor arbennig o ran y mathau o goliau mae hi’n sgorio,” meddai Morgan.
“Mae’r tîm yn ddibynnol arni hi – mae hi wedi sgorio mewn gemau enfawr ac wedi sgorio goliau o safon eithriadol.
"Dwi'n credu byddai unrhyw glwb yn y byd eisiau Jess Fishlock i chwarae iddyn nhw.
"Mae hi wedi teithio Ewrop a'r byd."
Mae Fishlock wedi bod yn chwarae yn yr Unol Daleithiau i Seattle Reign ers 2013 ac wedi profi cryn lwyddiant nid yn unig gyda'i chlwb ond fel unigolyn.
Mae hi hefyd wedi treulio cyfnodau yn Yr Iseldiroedd, Awstralia, Yr Almaen a Ffrainc yn ystod ei gyrfa.
Ond lle bynnag yn y byd fu Fishlock, mae chwarae i Gymru wastad wedi bod yn flaenoriaeth i'r ferch o Gaerdydd.