Nwyddau gwerth £2,000 'wedi'u dwyn' o Dunelm Caerfyrddin

Dunelm CaerfyrddinFfynhonnell y llun, Google
  • Cyhoeddwyd

Mae’r heddlu yn ymchwilio i achos honedig o ddwyn o siop Dunelm yng Nghaerfyrddin.

Fe gafodd nwyddau gwerth rhyw £2,000 eu dwyn o’r siop ym Mhen-sarn fore Sul, yn ôl Heddlu Dyfed-Powys.

Fe ddigwyddodd hyn rhwng 10:35 a 10:50 y bore, meddai'r llu mewn datganiad.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu wedi rhannu llun camerâu cylch cyfyng o unigolyn a allai helpu â’u hymchwiliad

Mae swyddogion wedi rhannu llun camerâu cylch cyfyng o unigolyn a allai helpu â’u hymchwiliad.

Mae cais i'r cyhoedd gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys os ydyn nhw’n adnabod yr unigolyn.

Pynciau cysylltiedig