1,100 o gyn-chwaraewyr yn rhan o achos yn erbyn awdurdodau rygbi

Ryan JonesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae cyn-gapten Cymru, Ryan Jones yn un o nifer o Gymry sydd wedi ymuno â'r achos

  • Cyhoeddwyd

Mae dros 520 yn rhagor o gyn-chwaraewyr rygbi wedi ymuno ag achos cyfreithiol yn erbyn awdurdodau'r gêm, yn ôl y cwmni cyfreithiol sy'n dwyn yr achos.

Dywedodd cwmni Rylands Garth fod mwy na 1,100 o gyn-chwaraewyr bellach yn rhan o'r achos - 784 o rygbi'r undeb a 319 o rygbi'r gynghrair.

Mae Gavin Henson, Colin Charvis, Lee Byrne a Ryan Jones ymhlith y Cymry sy'n ceisio hawlio iawndal gan World Rugby, Undeb Rygbi Cymru ac Undeb Rygbi Lloegr.

Mae'r chwaraewyr yn honni fod y cyrff llywodraethu wedi methu â chymryd camau rhesymol i'w hamddiffyn rhag y risgiau sy'n cael eu hachosi gan anafiadau i'r pen.

Gain HensonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae cyn-seren Cymru a'r Gweilch, Gavin Henson ymhlith y 1,100 o chwaraewyr sydd wedi ymuno â'r achos

Dywedodd llefarydd ar ran Rylands Garth: "Mae chwaraewyr yn parhau i chwarae bron drwy gydol y flwyddyn, gyda llawer o chwaraewyr rhyngwladol yn paratoi ar gyfer teithiau hynod o gorfforol o amgylch y byd.

"Byddwn yn parhau i frwydro dros gyfiawnder i'r rhai sydd wedi rhoi gymaint i'r gêm."

Mae asesiadau meddygol a gafodd eu cynnal ar ran y cwmni yn awgrymu bod dwy ran o dair o'r hawlwyr yn yr achos wedi dangos symptomau enseffalopathi trawmatig cronig (CTE).

Cafodd cyn-gapten Cymru Ryan Jones ddiagnosis o CTE posib ym mis Rhagfyr 2021, gydag arbenigwyr yn dweud wrtho bod ei achos yn un o'r rhai gwaethaf iddyn nhw weld erioed.

Ddydd Gwener 30 Mai oedd y cyfle olaf i chwaraewyr newydd ymuno â'r achosion cyfreithiol cyn iddyn nhw fynd i'r llys - rhywbeth all ddigwydd y flwyddyn nesaf.