Teyrnged i bennaeth 'eithriadol' ysgol gynradd yng Nghaerdydd

Roedd Dylan Hughes yn bennaeth ar Ysgol Gymraeg Nant Caerau am dros 14 o flynyddoedd
- Cyhoeddwyd
Mae ysgol gynradd yng Nghaerdydd wedi rhoi teyrnged i bennaeth "eithriadol" yn dilyn ei farwolaeth.
Roedd Dylan Hughes yn bennaeth ar Ysgol Gymraeg Nant Caerau am dros 14 o flynyddoedd.
Dywedodd dirprwy bennaeth yr ysgol bod Mr Hughes wedi creu "hafan ddiogel i bob disgybl", ei fod yn "arweinydd eithriadol" ac yn "fentor i lawer ac yn ffrind i bawb".
Bydd yr ysgol ar gau i ddisgyblion ar ddydd Llun, 3 Mawrth, meddai'r ysgol mewn datganiad fore Iau.
'Angerddol dros addysg Gymraeg'
Dywedodd dirprwy bennaeth yr ysgol, Mrs Hughes Jones yn y datganiad: "Bu ei ymrwymiad i sicrhau lles pob aelod o gymuned yr ysgol a'i waith i feithrin y potensial ym mhob disgybl yn gadael olion na ellir eu disodli ar ein hysgol.
"Roedd ei gyfraniad tuag at addysg Gymraeg ar draws Caerdydd yn angerddol a bydd hwn yn parhau i effeithio ar y cyfleoedd i blant am flynyddoedd i ddod.
"Rydym yn estyn ein cydymdeimladau dwysaf i'w deulu a'i anwyliaid yn ystod yr amser anodd hwn. Byddwn yn anrhydeddu ei etifeddiaeth drwy barhau â'i weledigaeth ar gyfer yr ysgol a chefnogi ein gilydd fel cymuned."
Ychwanegodd y bydd cymorth ar gael i ddisgyblion yn yr ysgol pan fyddant yn dychwelyd.
"Bydd manylion pellach yn cael eu hanfon at rieni ar ddydd Llun. Bydd manylion am y trefniadau coffa yn cael eu rhannu maes o law."