Twnnel Conwy yn ailagor yn rhannol ar ôl tân ar yr A55

Cafodd difrod mawr ei wneud i'r craen yn y tân
- Cyhoeddwyd
Mae twnnel Conwy wedi ailagor yn rhannol ar ôl iddo gau oherwydd tân brynhawn Iau.
Mae traffig bellach yn symud drwy'r twnnel tua'r dwyrain ar ôl i'r cerbyd a aeth ar dân gael ei symud yn yr oriau mân. Mae'r twnnel tua'r gorllewin yn parhau ar gau.
Cadarnhaodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru nad oes unrhyw un wedi marw, ond cafodd digwyddiad mawr ei ddatgan.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth, Ken Skates bod eu timau'n gweithio'n "ddi-baid" i ailagor y twnnel cyn gynted â phosib.
Ond ychwanegodd "efallai y bydd angen cau'r twnnel eto neu gynnal mesurau rheoli traffig yn yr wythnosau nesaf".

Roedd lluniau ar gyfryngau cymdeithasol yn dangos craen ar dân yn y twnnel
Fe gafodd y Gwasanaeth Tân ac Achub wybod am y tân am 13:49 ddydd Iau ac fe adawodd y criwiau'r lleoliad am 19:52.
Yn ôl llefarydd ar ran y gwasanaeth fe gafodd 10 injan dân eu galw i'r digwyddiad.
Oherwydd maint y digwyddiad a'r angen am asesiadau diogelwch parhaus mae'r gwasanaeth tân yn dweud y bydd Twnnel Conwy ar gau yn rhannol am gyfnod sylweddol.
Ar gyfartaledd mae tua 40,000 o gerbydau yn gyrru trwy'r twnnel bob dydd.
Mae dargyfeiriadau ar waith ac fe ychwanegodd y Gwasanaeth Tân ac Achub bod ffyrdd yn ardaloedd Bae Colwyn, Conwy, Llanrwst a Betws-y-Coed a'r cyffiniau yn hynod brysur hefyd.
Dywedodd Ken Skates: "Rwy'n annog holl ddefnyddwyr y ffordd i ganiatáu amser ychwanegol ar gyfer eu teithiau ac i baratoi'n briodol - yn enwedig yn y tywydd cynnes."
Roedd Deborah Owen-Smith a'i gŵr Andrew yn teithio o Landudno i ardal Caernarfon tua 13:50 brynhawn Iau.
Fe gafon nhw eu dal yng ngahnol y digwyddiad.
Dywedodd Deborah, a oedd yn sedd y teithiwr: "Wrth i ni fynd i mewn i'r twnnel, roedden ni'n gweld mwg gwyn ac yn meddwl 'dydy hyn ddim yn edrych yn dda'."
"Wrth i ni agosáu, roedden ni'n gweld fflamau o dan yr injan - ar y tarmac - roedd yn wirioneddol frawychus.

Traffig yn defnyddio'r ffordd tua'r dwyrain bore Gwener
"Roedden ni'n gwybod nad oedden ni eisiau rhwystro'r ffordd a bod yn rhaid i ni feddwl am ein diogelwch.
"Diolch byth, o'r hyn roedden ni'n ei weld, fe lwyddodd gyrrwr y craen i gael pawb allan o'r twnnel - fe achubodd lawer o fywydau.
"Ceisiais ffonio'r heddlu a pharhau i symud. Roedd ceir heddlu'n mynd heibio i'r cyfeiriad arall o fewn munud."

Mae lluniau dash-cam sydd wedi eu hanfon at y BBC yn dangos fflamau a mwg yn dod o'r cerbyd yn y twnnel
Roedd Eira D'Arcy yn teithio tua'r gorllewin pan ddaeth y traffig i stop yn y twnnel.
Dywedodd: "Sylwais fod lori wedi stopio tua pedwar car o'n blaenau ni a bod fflamau bach yn dod ohoni.
"Roedden ni'n gallu gweld mwg gwyn, trwchus ac angen gyrru drwyddo, ond roedden ni'n poeni bod rhywbeth am ffrwydro felly roedd angen i ni symud cyn gynted â phosib."
Dywedodd nad oedd cerbyd arall yn rhan o'r digwyddiad, a bod pasio'r tân yn "rhyddhad".

Roedd teithwyr yn cael eu hannog i gadw eu ffenestri ar gau
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.