Dynes wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad gyda seiclwr
- Cyhoeddwyd
Mae dynes a gafodd ei hanafu mewn gwrthdrawiad â seiclwr yng Nghaerdydd fis Rhagfyr wedi marw yn yr ysbyty.
Roedd y ddynes 56 oed yn mynd â chi am dro gyda'i gŵr pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng 17:30 a 18:30 nos Fawrth, 10 Rhagfyr.
Cafodd ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru wedi'r digwyddiad ar Heol Moorland yn ardal Sblot, ond bu farw o'i hanafiadau ddydd Llun, 13 Ionawr.
Mae swyddogion yn galw ar y seiclwr - sy'n cael ei ddisgrifio fel dyn oedd yn gwisgo gorchudd wyneb du, crys gwyn a thei coch - i gysylltu â'r heddlu ar unwaith.
Fe wnaeth y seiclwr stopio wedi'r digwyddiad a mynegi pryder am y fenyw, ond ni adawodd unrhyw fanylion.
Mae ymchwiliad yr heddlu'n parhau ac maen nhw'n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth all fod o ddefnydd i gysylltu â nhw.