Rhieni'n ysu am gyfiawnder wedi marwolaethau limoncello gwenwynig

Mae Paul a Susan Otteson eisiau atebolrwydd yn dilyn marwolaethau Arno a Greta
- Cyhoeddwyd
Mae rhieni o dde Cymru yn dweud eu bod yn ysu am gyfiawnder, wedi i'w merch a'i phartner farw ar ôl yfed limoncello gwenwynig yn Fietnam.
Cafwyd hyd i Greta Otteson, 33, ac Arno Quinton, 36, yn farw ar Ŵyl San Steffan y llynedd yn ninas arfordirol Hoi An.
Roedden nhw wedi marw o ganlyniad i wenwyn methanol.
Ychydig oriau ynghynt, fe anfonodd Greta neges at ei rhieni, Paul a Susan Otteson, sy'n byw yn Rhandirmwyn ger Llanymddyfri, i ddweud bod ganddi "yr hangover gwaethaf erioed" a'i bod yn mynd i orwedd lawr am 'chydig - ond ni ddeffrodd eto.
Cafodd y barman sydd wedi ei gyhuddo o wneud y poteli o limoncello, a oedd wedi'u prynu fel anrheg Nadolig gan Paul a Susan Otteson, ei arestio ym mis Chwefror.
Mae Heddlu Dinas Da Nang wedi cael cais i wneud sylw, ond mae'r BBC yn deall ei fod dal yn y ddalfa.

Paul a Susan gyda Greta yn ei seremoni raddio yn Los Angeles
Yng nghartref Paul a Susan Otteson mae dau fag sgwâr yn eistedd wrth ymyl y grisiau - mae gan un gwningen binc yn eistedd ar ei ben, a'r llall, tedi glas.
Maen nhw'n dal lludw Greta ac Arno.
"Maen nhw'n eistedd yn y lolfa gyda ni," meddai Paul, oedd yn rheolwr prosiect yn Bahrain tan iddo ymddeol a dychwelyd i Gymru.
"Rydyn ni eisiau eu rhoi i orffwys, ond ni'n teimlo na allwn ni wneud hynny nes i'r achos ddod i ben yn gywir."

Tydi Paul a Susan ddim yn teimlo eu bod yn gallu gwneud unrhywbeth gyda'r lludw nes iddyn nhw gael atebion
Roedd Greta wedi bod yn byw yn Hoi An, Fietnam, gyda'i phartner Arno Quinton o Dde Affrica ers dwy flynedd.
Roedd y cwpl yn rhedeg llety gwyliau, yn rhentu ystafelloedd i deithwyr.
Unig blentyn oedd Greta - un "rhyfeddol" ac "ysbryd rhydd" yn ôl Paul, ond hefyd yn "weithiwr caled" a astudiodd yng Nghaerdydd, Paris a Los Angeles.
Ym mis Tachwedd 2024 teithiodd Paul, 71, a Susan, 70, i Fietnam, gan gwrdd ag Arno am y tro cyntaf, ac fe wnaeth y cwpl gyhoeddi eu dyweddïad yn fuan wedyn.
"Roedd yn hyfryd - roedden ni mor hapus," meddai Paul, gan ddisgrifio Arno fel dyn "tawel ond hynod ddeallus" a rhywun y byddai "wedi caru ei gael fel mab yng nghyfraith".
Yn ystod yr ymweliad bu'r teulu'n bwyta sawl gwaith mewn bwyty Eidalaidd adnabyddus, Good Morning Vietnam, gan fwynhau'r bwyd a derbyn diodydd o limoncello cartref am ddim ar y diwedd.
Ychydig wythnosau'n ddiweddarach, pan roedden nhw wedi gadael Fietnam ac yn ceisio meddwl am anrheg Nadolig i Greta ac Arno, cofiodd Paul a Susan y bwyty a'u poteli o limoncello a meddwl "gadewch i ni archebu rhai o'r rheiny iddyn nhw i'w danfon i'r tŷ".

Arno (ar y chwith) gyda Paul, Susan a Greta, yn Fietnam fis Tachwedd 2024
Roedd yn benderfyniad a fyddai'n cael y canlyniadau mwyaf dinistriol.
O fewn oriau o yfed yr alcohol, fe anfonodd Greta neges at ei rhieni ar Ddydd Nadolig i ddweud bod ganddi "hangover" a'i bod yn gweld smotiau duon.
Ond fe wnaeth hi wfftio awgrymiadau ganddyn nhw, a ffrind a ddaeth i ymweld â hi, i gael cymorth meddygol.
Cafwyd hyd i Greta ac Arno yn farw mewn ystafelloedd ar wahân yn eu cartref ar Ŵyl San Steffan.
Dywedodd Paul Otteson fod ceisio delio â marwolaeth mewn gwlad dramor yn hynod o anodd, gan ddweud eu bod yn aml yn teimlo "wedi'n methu".

Arno and Greta deuddydd cyn Nadolig 2024, gyda beic modur newydd oedd yn "goch i Gymru", medd Paul
Doedd hi ddim yn hir cyn i archwiliadau post mortem ddatgelu bod Greta ac Arno wedi marw o wenwyn methanol difrifol.
Ym mis Chwefror fe wnaeth yr heddlu arestio barman a oedd yn gweithio mewn bwyty yn Hoi An am "dorri rheoliadau ar ddiogelwch bwyd".
Dywedwyd ei fod wedi "defnyddio alcohol gradd feddygol 70 gradd, ynghyd â dŵr wedi'i hidlo, croen lemwn a siwgr gwyn i greu dwy botel o limoncello".
Yn ôl Llywodraeth Fietnam, gallai gael ei ddedfrydu i hyd at 15 mlynedd o garchar pe bai'n cael ei ganfod yn euog.
Mae cannoedd o bobl yn cael eu gwenwyno gan fethanol bob blwyddyn yn ne-ddwyrain Asia, yn ôl elusen Médecins Sans Frontières (MSF).
Daeth marwolaethau Greta ac Arno ychydig wythnosau ar ôl i chwech o bobl farw o wenwyn methanol yn Laos - gwlad sy'n ffinio â Fietnam.

Roedd Greta ac Arno wedi dyweddïo ychydig wythnosau cyn iddyn nhw farw
Does dim diweddariad ers hynny, ac er i Paul a Susan gael eu rhybuddio y gall ymchwiliadau gymryd amser yn Fietnam, maen nhw'n dweud bod yr aros am atebion yn annioddefol.
"Rydyn ni eisiau cyfiawnder," meddai. "Allwn ni ddim symud ymlaen.
"Mae Susan yn gofyn i mi bob bore pan fyddwn ni'n deffro, a oes newyddion? Mae'n rhaid i fi ddweud na, dim byd eto."
Mae Heddlu Dinas Da Nang - sy'n cynnal yr ymchwiliad - wedi cael cais am sylw.
Mae'r cwpl hefyd yn "teimlo'n ofidus iawn" bod y bwyty lle gwnaethon nhw archebu'r alcohol yn dal ar agor, ac nid yw wedi ymddiheuro'n gyhoeddus.
"Fe wnaethon nhw gario ymlaen fel pe bai dim wedi digwydd," meddai Paul.
Dyw bwyty Good Morning Vietnam ddim wedi ymateb i sawl cais am sylw gan BBC Cymru.
'Y cyfan yn ddibwynt'
I Paul a Susan, mae'n amlwg fod y poen yn ormod o hyd.
Mae Paul yn mynd yn emosiynol ac yn difaru y bydd ganddyn nhw fyth wyrion neu wyresau, nac y bydd modd i Arno gael y profiad o ddod i Gymru.
"Popeth rydyn ni wedi gweithio amdano ers dros 40 mlynedd, roedd y cyfan i Greta ac Arno yn y pendraw, ond nawr mae'n ddibwynt," meddai.

Mae Paul a Susan yn cadw modrwy ddyweddïo Greta mewn lle amlwg yn eu cartref
Mae Ann Davies - yr aelod seneddol dros Gaerfyrddin - wedi codi'r achos gyda'r Swyddfa Dramor, a dywedodd fod Paul a Susan yn hynod o "ddewr" i chwilio am atebolrwydd tra'n galaru.
Ychwanegdd fod yr achos yn neges glir i osgoi diodydd cryf mewn gwledydd fel Fietnam.
Dywedodd i'r teulu "brynu potel o dŷ bwyta oedd wedi bod mewn bodolaeth am dros 20 mlynedd, lle o'n nhw'n meddwl bydde fe'n hollol saff".
"O'n nhw 'di gweithio dramor, o'n nhw nawr yn rhedeg gwesty yn Fietnam.
"'Di hwn ddim yn rhywbeth y'ch chi'n prynu ar gornel stryd neu ar y traeth."
Mae Ms Davies yn credu y dylai'r rhybuddion o'r Swyddfa Dramor fod yn gliriach "fod chi ddim yn prynu spirits, diod caled o rai gwledydd fel Bali [Indonesia], Fietnam, Thailand."
'Peri pryder mawr'
Dywedodd Gweinidog y Swyddfa Dramor, Seema Malhotra AS, ei bod hi wedi'i "thristau'n fawr" gan yr achos a'i bod hi'n meddwl am y teulu.
"Rydym yn gwybod bod gwenwyno methanol ac alcohol ffug yn peri risg ddifrifol, sy'n peryglu bywyd, i deithwyr Prydeinig mewn rhai rhannau o'r byd," meddai.
"Mae hwn yn fater sy'n peri pryder mawr ac rydym wedi ymrwymo i helpu i gadw pobl yn ddiogel.
"Rydym yn mynd i'r afael â'r mater hwn yn uniongyrchol, gan weithio gydag awdurdodau lleol a dros 150 o bartneriaid yn y diwydiant teithio i godi ymwybyddiaeth o beryglon gwenwyno methanol."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.