Rhybudd am law trwm i'r canolbarth a'r de
![Rhybudd tywydd](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1920/cpsprodpb/ca0d/live/be378250-7b25-11ef-b282-4535eb84fe4b.png)
Mae'r rhybudd melyn yn berthnasol i 16 o siroedd canolbarth a de Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am gawodydd o law trwm ar gyfer canolbarth a de Cymru.
Daeth y rhybudd i rym am 06:00 ddydd Iau, ac mae'n para nes 09:00 fore Gwener.
Gall rhai ardaloedd weld hyd at 60mm o law, ac mae rhybudd y gallai mellt a gwyntoedd cryfion daro mannau hefyd - yn enwedig ar arfordir y de-orllewin.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai'r tywydd effeithio ar deithwyr oherwydd dŵr ar y ffyrdd.
Maen nhw hefyd yn rhybuddio am lifogydd posib mewn tai a busnesau.
Mae rhybudd oren, mwy difrifol, mewn grym ar gyfer rhannau helaeth o ganolbarth a de Lloegr.