O leiaf 74 yn sâl ar ôl sesiynau mwytho anifeiliaid ar fferm

- Cyhoeddwyd
Mae o leiaf 74 o bobl bellach wedi cael haint cryptosporidiwm ar ôl mynychu sesiynau bwydo a rhoi mwythau i anifeiliaid ar fferm yn y de.
Daeth i'r amlwg ddiwedd Ebrill bod degau o bobl wedi cael eu heintio ar ôl mynd i ddigwyddiadau yn Siop Fferm y Bont-faen ar fferm Malborough Grange ym Mro Morgannwg.
Mae cryptosporidiwm yn baraseit sy'n gallu achosi salwch gastroberfeddol, ac mae'n aml yn gysylltiedig ag anifeiliaid - yn enwedig anifeiliaid fferm ifanc.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) wedi bod yn ymchwilio ers i'r achosion ddod i'r amlwg.
Daeth cadarnhad ar 30 Ebrill bod o leiaf 28 o bobl wedi'u heintio, ond erbyn dydd Iau roedd y nifer wedi cynyddu i o leiaf 74 o bobl.
Mae 16 o'r rheiny wedi gorfod aros yn yr ysbyty am o leiaf un noson o ganlyniad i'r haint.
- Cyhoeddwyd30 Ebrill
Dywedodd ICC eu bod yn parhau i gyd-weithio gyda phartneriaid i ymchwilio'r achosion, a bod symptomau'r haint yn ysgafn fel arfer.
Ond mae'n gallu achosi salwch mwy difrifol mewn plant ifanc a phobl sydd â system imiwnedd gwan.
Mae disgwyl y gallai nifer yr achosion barhau i gynyddu yn ystod yr wythnos nesaf, oherwydd y cyfnod y mae'n cymryd i'r haint ddod i'r amlwg.