Steve Cooper yn cael ei benodi yn brif hyfforddwr Brondby

Cafodd Cooper ei ddiswyddo gan Gaerlŷr ym mis Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd
Mae'r Cymro a chyn-reolwr Abertawe, Steve Cooper wedi cael ei benodi yn brif hyfforddwr Brondby.
Mae Cooper, 45, wedi arwyddo cytundeb tair blynedd gyda'r clwb o Ddenmarc sydd ar hyn o bryd yn y pedwerydd safle yn Uwch Gynghrair y wlad.
Er iddo gael ei gysylltu â nifer o swyddi mawr ym Mhrydain dros y misoedd diwethaf, dyma ei swydd gyntaf ers iddo gael ei ddiswyddo gan Gaerlŷr ym mis Tachwedd y llynedd.
Cyn hynny fe dreuliodd gyfnodau fel rheolwr tîm dan-17 Lloegr, Abertawe a Nottingham Forest.
Fe fydd ei gêm gyntaf fel rheolwr yn gêm ddarbi yn erbyn y pencampwyr presennol, FC Copenhagen ddydd Sadwrn.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.