Cerbyd fferm wedi ei ddinistrio'n llwyr mewn tân yn Sir Gâr
- Cyhoeddwyd
Mae cerbyd amaethyddol wedi ei ddinistrio yn llwyr ac adeilad wedi ei ddifrodi yn dilyn tân yn Sir Gaerfyrddin.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad yng Ngelli Aur am 18:37 nos Fercher yn dilyn adroddiadau bod cerbyd ar dân.
Roedd criwiau tân o Rydaman, Y Tymbl a Phontarddulais yn rhan o'r ymateb.
Cafodd y peiriant cynaeafu ei ddinistrio yn llwyr gan y tân, ond nid oed adroddiadau bod unrhyw un wedi eu hanafu.
Er i'r fflamau achosi rhywfaint o ddifrod gwres i adeilad cyfagos, fe lwyddodd swyddogion i'w diffodd cyn iddyn nhw ledu ymhellach.

Cafodd y gwasanaeth tân eu galw i'r digwyddiad am 18:37 nos Fercher
