'Y gwerth mawr mewn gwlân defaid'

- Cyhoeddwyd
O inswleiddio cartrefi i adeiladu llwybrau, mae 'na lu o ffyrdd gwahanol o ddefnyddio gwlân tu hwnt i'w defnyddio i weu siwmper gynnes. Ac mae rhai o'r dulliau yma'n mynd yn ôl i gyfnod y Rhufeiniaid.
Bu Cymru Fyw yn siarad gyda dau berson am sut maen nhw'n defnyddio gwlân a beth sy'n ei wneud yn ddefnydd mor arbennig.
Mae Ifan Parry o'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi bod yn defnyddio gwlân i adeiladu llwybrau ar dir yr Ymddiriedolaeth gan greu llwybr cerdded yn ddiweddar yng Nghwm Llan ar droed Yr Wyddfa.
Dyma ei stori:
Dros y ddwy neu dair blynedd diwethaf ni wedi dechrau defnyddio gwlân mwy ac wedi ei ddefnyddio fo pan ni'n gwneud llwybrau.
'Da ni'n lwcus - oedd y gwlân ar gyfer y llwybrau yng Nghwm Llan yn dod o'r defaid sy' ar y mynydd felly mae'n stori neis bod ni'n gallu defnyddio beth sy'n dod o'r tir yn syth yn ôl i'r tir.

Gwirfoddolwyr yn adeiladu llwybrau yng Nghwm Llan
Defnydd hanesyddol
Mae'n dechneg hen iawn. Roedd y Rhufeiniaid yn defnyddio lot o wlân – oeddan nhw'n adeiladu lonydd ac yn defnyddio gwlân wrth wneud. 'Da ni'n neud dipyn o waith fel oedd y Rhufeiniaid yn gwneud o'r blaen ac yn gwneud dipyn o waith efo cerrig yn y ffordd oeddan nhw'n ei wneud o.
Mae defnyddio cerrig mân fel wyneb newydd ar lwybr - os ti'n rhoi cerrig mân ar y mawn mae'n suddo mewn i'r mawn yn syth.
Da ni'n tyllu'r gwlân 'ma i fewn rhyw ddwy droedfedd ac mae hwnnw'n actio fel barrier rhwng y mawn a'r cerrig mân. Mae'n haws ei wneud efo digger ond os 'da ni'n methu cael digger mewn i dyllu 'da ni'n mynd a gwirfoddolwyr efo ni.
Mae mawn yn anoxic - 'sdim ocsigen yn gallu mynd mewn i mawn. Wrth sealio y gwlân yn y mawn wneith o ddim pydru so gobeithio mae yno am byth ac mae'n gadael y dŵr sy' yn y mawn i deithio trwyddo yn lle bod o'n drainio fo. Felly 'da ni ddim yn amharu ar y mawn.

"Roedd 15 o wirfoddolwyr yn gwneud y gwaith – mae'n ffordd dda o gael dipyn o bobl. Mae'n joban slo' os ti'n neud o rhwng y pedwar o ni fel sy' 'na fel arfer"
Defnydd cynaliadwy
Mae defnyddio gwlân mewn llwybrau wedi codi dipyn o ddiddordeb mewn pobl.
Fyddai rhywun yn gallu neud o efo plastig ond 'da ni ddim isho rhoi plastig ar y mynyddoedd. Mae'n ffordd eco gyfeillgar o wneud y gwaith 'da ni angen.
Mae'r gwlân yn dod o ddefaid mynydd Cymreig ar fferm Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Dwi ddim yn meddwl fod 'na cymaint o lwybrau cerdded i'r cyhoedd ers talwm ac mae'n siŵr oedd 'na mwy o ddefnydd i wlân ers talwm yn gwneud dillad. Rŵan does ddim cymaint ohono'n cael ei ddefnyddio.
Mae'r tirwedd yn reit prin a 'da ni'n trio gadael cyn lleied o hoel yna a phosib.

Gwlân yn 'ychwanegu at gylch bywyd ar y ffarm'
Bu Iona Roberts o Benmachno, ger Betws-y-Coed, yn trafod sut mae hi'n defnyddio gwlân ar ei fferm deuluol ar Beti a'i Phobol ar Radio Cymru:

Iona Roberts
Mae'n adeg pryderus iawn i ffarmio. Mae yna gymaint o newidiadau rŵan yn y maes, a gymaint o elfennau amgylcheddol wedi dod i mewn iddi. Mae'n stori hollol wahanol i sut fuodd hi.
Oedd hi'n ffarm hen ffasiwn i gychwyn hefo, felly ychydig iawn o wrtaith, doedd y tir ddim wedi cael ei droi. Oedd o wir yn hen ffasiwn, gyda dim ond y defaid yma. Y broblem fwyaf efo defaid ydy sut i'w trin nhw, ac yn aml iawn maen nhw angen lot o gemegau, maen nhw angen lot o'r dosus yma yn enwedig ar ôl cyfnodau hir, gwlyb, lle mae ffliwc yn medru bod yn broblem.
Ein blaenoriaeth ni ydy edrych ar ôl y tir, edrych ar ôl y pridd, adeiladu'r pridd a chael fwy o fioamrywiaeth.
Felly, 'da ni ond yn gwneud beth sydd yn siwtio ni a'n ffarm ni. Dwi'n ffeindio gwerth mawr mewn gwlân defaid. Yn hytrach na gyrru'r gwlân i'r bwrdd gwlân, 'da ni'n cadw'r gwlân a'n defnyddio'r gwlân fel mulch o gwmpas coed. Pan 'da ni'n plannu coed, 'da ni'n defnyddio fo ar gyfer hwnnw.
Ac wedyn, mae 'na ffenest i werthu'r gwlân hefyd i bobl sydd yn hoffi garddio. Mae o'n andros o ddeunydd defnyddiol.
'Da ni'n plannu coed mewn ffurf gwrychoedd rhan fwyaf, ond mi fyddwn ni eisio plannu mwy o goed. 'Da ni mor uchel i fyny ac mae cysgod gan y coed yn werthfawr i ni.
A 'da ni'n defnyddio'r gwlân pan 'da ni wedi plannu'r coed am nifer o resymau wir. Yn un peth, mae o'n cadw'r tir yn damp o dan y coed. Os oes yna adegau sych, mae'r coed ifanc yn medru byw yn iawn achos mae digon o ddŵr wedi cael ei ddal yn y tir. Mae'r gwlân yn torri lawr ac yn wrtaith naturiol bendigedig mewn blwyddyn neu ddwy, felly yn bwydo'r goeden fel mae'n tyfu.
Pan mae'r adar bach yn dod i nythu, maen nhw'n medru defnyddio'r gwlân. Ac y peth mwyaf difyr hefyd ydy, o dan y gwlân mae'n bosib gweld tyllau bach ac hoel voles ydy rheiny. Mae o'n rhoi cartref i'r rheiny ac wrth reswm, lle bynnag mae'r rheiny'n dod, dydy'r dylluan ddim yn bell ar eu holau nhw. Ac mae o jest yn ychwanegu at gylch bywyd ar y ffarm.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd4 Mai 2023
- Cyhoeddwyd18 Mai