Yr Iseldiroedd: Pwy yw'r merched mewn oren?

Tîm pêl-droed merched Yr Iseldiroedd yn sefyll mewn dwy res ar gaeFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae Menywod Cymru'n dechrau eu hymgyrch Euro 2025 gyda gêm yn erbyn Yr Iseldiroedd yn ninas Lucerne, yng nghanolbarth Y Swistir.

Mae Cymru mewn grŵp hynod heriol sydd hefyd yn cynnwys Ffrainc a Lloegr.

Ond beth yw hanes carfan Yr Iseldiroedd? A pha mor obeithiol allwn ni fod o gael canlyniad calonogol?

Dyma ambell ffaith am y merched mewn oren.

Llysenwau

Y Koninklijke Nederlandse Voetbalbond yw'r corff pêl-droed yn Yr Iseldiroedd, sef Cymdeithas Bêl-droed Frenhinol Yr Iseldiroedd.

Mae tîm menywod Yr Iseldiroedd yn cael eu galw yn Oranje, fel tîm y dynion. Ond mae'r menywod hefyd â'r llysenw Leeuwinnen, sef Llewod benywaidd, yn debyg i Lionesses Lloegr.

Chwaraewr Yr Iseldiroedd yn dathlu gôl ar gae pêl-droed, gyda thair menyw arall yn y cefndirFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yr Oranje yn dathlu gôl mewn buddugoliaeth 3-1 yn erbyn Awstria ym mis Ebrill 2025

Y gêm gyntaf

Gêm gyntaf answyddogol menywod Yr Iseldiroedd oedd yn erbyn eu gelynion pennaf, (Gorllewin) Yr Almaen yn 1956.

Gorllewin Yr Almaen oedd yn fuddugol y dydd hwnnw yn Essen, 2-1.

Y gêm gyntaf swyddogol oedd yn erbyn Ffrainc ym mis Ebrill 1971, gyda'r Ffrancwyr yn ennill 4-0.

Llwyddiannau'r gorffenol

Tîm Yr Iseldiroedd yn dathlu buddugoliaeth Euro 2017 mewn rhes ar gae, gyda dwy chwaraewr yn dal y tlwsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yr Iseldiroedd yn cipio tlws Euro 2017, gan guro Denmarc yn y rownd derfynol yn ninas Enschede

Mae'r Iseldiroedd wedi cael cryn dipyn o lwyddiant yn y gorffennol, ac wedi ymddangos yn y pedair pencampwriaeth Euros ddiwethaf - 2009, 2013, 2017 a 2022.

Roedd Yr Iseldiroedd yn drydydd yn Euro 2009 yn Y Ffindir, ac fe enillon nhw'r bencampwriaeth yn 2017 - roedd y gystadleuaeth yn Yr Iseldiroedd.

Y rheolwr

Andries Jonker yw rheolwr Yr Iseldiroedd, ac mae o gyda'r garfan ers mis Awst 2022.

Mae'r gŵr 62 mlwydd oed wedi rheoli gyda nifer o glybiau, gan gynnwys tîm dynion MVV Maastricht, Willem II, Bayern Munich a VfL Wolfsburg.

Fodd bynnag, fydd Arjan Veurink, hyfforddwr cynorthwyol presennol tîm menywod Lloegr, yn cymryd lle Jonker fel rheolwr yn dilyn yr Euros. Mae gan Veurink gytundeb nes diwedd ymgyrch Euro 2029.

Andries Jonker mewn crys hyfforddi yn siarad gyda chwaraewr ar gae hyfforddi, gyda dyn a menyw arall yn y cefndirFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Andries Jonker, rheolwr Yr Iseldiroedd

Detholion y byd

Mae'r Iseldiroedd yn safle 11 yn netholion y byd FIFA, ac yn chweched ymysg gwledydd Ewrop. Yr uchaf mae'r Iseldirwyr wedi bod yn netholion FIFA yw trydydd, ag hynny o Orffennaf i Ragfyr 2019, ac Ebrill 2021.

Mae Cymru'n safle 30 yn netholion FIFA ar hyn o bryd, ac yn 20fed yn Ewrop.

Safle uchaf erioed Cymru yn netholion FIFA yw 29, ac roeddent yn y safle hwnnw o Fehefin i Ragfyr 2018, yn Awst 2023 ac Awst 2024.

Cyrraedd Euro 2025

Fe sicrhaodd Yr Iseldiroedd eu lle yn Euro 2025 drwy orffen yn ail yn eu grŵp rhagbrofol.

Gorffennodd Yr Eidal a'r Iseldiroedd yn gyfartal ar naw o bwyntiau - dwy fuddugoliaeth, tair gêm gyfartal ac un golled yr un, ond cipiodd Yr Eidal y man uchaf ar wahaniaeth goliau.

Yr Iseldiroedd v Cymru

Mae Cymru a'r Iseldiroedd wedi wynebu ei gilydd bedair gwaith, gyda'r Iseldiroedd yn fuddugol ar bob achlysur.

Yn y gêm gyntaf rhwng y ddwy wlad yn 2007 fe enillodd Yr Iseldiroedd 2-1, ac yn yr ail gêm yn 2008, 1-0 oedd y sgôr. Yn 2012 enillodd Yr Iseldiroedd 2-0, ac yn 2017 rhoddodd Yr Iseldiroedd grasfa i Gymru, 5-0.

Shanice van de Sanden a Hayley Ladd yn brwydro am y bêl mewn gêm gydag un chwaraewr Cymru ac un chwaraewr Yr Iseldiroedd yn y cefndirFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Shanice van de Sanden a Hayley Ladd yn brwydro am y bêl y tro diwethaf i'r ddwy wlad wynebu ei gilydd. Roedd hi'n gêm i'w anghofio i ferched Cymru, gyda'r Iseldiroedd yn ennill 5-0 yn Rotterdam ar 8 Gorffennaf, 2017

Sêr yr Oranje

Mae gan Yr Iseldiroedd nifer o chwaraewyr sy'n chwarae dros rai o glybiau mwyaf Ewrop - Esmee Brugts gyda Barcelona, Dominique Janssen yn amddiffyn Manchester United a Jackie Groenen gyda Paris Saint-Germain.

Ond bydd llawer yn dweud mai prif chwaraewr yr Oranje yw Vivianne Miedema, sy'n chwarae dros Manchester City.

Mae Miedema wedi sgorio 99 o goliau dros ei gwlad mewn 125 gêm, ac yn cael ei hystyried fel un o brif ymosodwyr gêm y merched - bydd rhaid i garfan Rhian Wilkinson gadw llygaid barcud arni!

Vivianne Miedema yn driblo gyda'r bêl mewn gêm Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Vivianne Miedema, a fydd yn arwain yr ymosod i'r Iseldiroedd yn Euro 2025