Canu 'Ironic' gydag Alanis Morissette o flaen 25,000 o bobl

Dywedodd Diana Davies ei bod "dal mewn sioc" ar ôl y profiad annisgwyl
- Cyhoeddwyd
Roedd dros 25,000 o ffans Alanis Morissette yng nghaeau Blackweir yng Nghaerdydd nos Fercher – ac roedd hi'n noson arbennig iawn i un oedd yno.
Cafodd Diana Davies o Aberteifi ei thynnu o'r gynulleidfa i berfformio gyda'r gantores o Ganada ar un o'i chaneuon mwyaf poblogaidd, Ironic.
Bu'n rhannu ei phrofiad gyda'i chwaer hŷn, y cyflwynydd Dot Davies, ar raglen Dros Frecwast ar Radio Cymru a Breakfast ar Radio Wales.
Dywedodd Dot: "Pan sylweddolais i pwy oedd yn canu o'n i'n meddwl mod i wedi colli hi achos oedd Alanis Morissette wedi tynnu fy chwaer fach o'r dorf!"
Dywedodd Diana am y profiad: "Dwi dal mewn sioc! A dal yn gwisgo'r crys-T. Na'i byth dynnu e i ffwrdd!"

Roedd Diana yn hapus i ganu gydag Alanis Morissette (uchod) er ei bod yn arfer gwrthod canu mewn eisteddfodau pan yn blentyn
Felly sut cafodd hi ei dewis o'r miloedd oedd yno?
Meddai: "Yn hollol ddamweiniol. O'n i'n sefyll yno yn eitha' agos i'r llwyfan tua awr cyn iddi gychwyn yn cael diod gyda fy mhartner. Ac o'n i'n gweld y dyn a'r menyw hyn yn edrych i fy nghyfeiriad. Ac o'n i'n meddwl bod nhw'n edrych ar rhywbeth tu ôl i fi.
"Ond wedyn daethon nhw ata'i a gofyn 'ydy chi'n gallu canu?' A dywedais i 'ddim rili'.
"A'r cwestiwn nesaf oedd 'Do you want to sing Ironic with Alanis?' O'n i'n teimlo fel – 'ydy chi wedi meddwi?'!
"Wedais i 'Ie' – ond heb feddwl fyddai unrhyw beth yn dod ohono.
"Ond dywedodd y fenyw, 'pan mae Alanis yn canu Mary Jane dere i gyfarfod fi ar bwys y drws fan 'na.
"Ac anfonodd hi'r rhestr caneuon ata'i. Felly meddyliais i falle fod hyn yn mynd i ddigwydd! Ond do'n i ddim yn siŵr ac yn meddwl fod hi'n bach o jôc – ond ie, mi ddigwyddodd e.
"Dwi dal ffaelu credu fe."
'Oedran dweud ie i bopeth'
Cafodd Diana sawl cwtsh gan y gantores a dywedodd hi: "Do'n i ddim eisiau gadael i fynd, doedd dim dewis ganddi! Dwi ishe mwynhau bob munud o hyn. Ac roedd ganddi sawr 'glân'!"
A'r person yn y dorf oedd wedi synnu mwyaf ar y perfformiad oedd chwaer Diana, Dot.
Meddai Dot: "Mae mor rhyfedd. Roedd gen ti meicroffon ac o'n i dim ond yn gallu clywed ti. Roedd fy chwaer yn gwrthod canu mewn eisteddfodau yn tyfu i fyny – doedd hi ddim yn mynd ar lwyfan.
"Ond ti wedi canu ar lwyfan o flaen 25,000 o bobl yn Blackweir gydag Alanis Morissette."
Meddai Diana: "Dwi'r oedran yna le dwi'n dweud ie i bopeth!"
Pan yn blant roedd Diana yn arfer dwyn CD Alanis Morissette Dot – ac mae'n debyg ei fod dal ganddi hyd heddiw - defnyddiol iawn ar gyfer ei deuawd annisgwyl.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd1 Mehefin