Cymru'n 'barod' i synnu pawb yn Euro 2025

Rhian Wilkinson yn paratoi ar gyfer gêm gyntaf Cymru yn Euro 2025 yn erbyn Yr IseldiroeddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mi gafodd Rhian Wilkinson ei phenodi'r rheolwr ar Gymru ym mis Chwefror 2024

  • Cyhoeddwyd

Mae rheolwr Cymru Rhian Wilkinson yn hyderus y bydd ei thîm yn achosi sioc neu ddwy yn ystod Euro 2025, ar drothwy eu gêm gyntaf yn erbyn Yr Iseldiroedd ddydd Sadwrn.

Mae'r crysau cochion wedi cyrraedd un o'r prif gystadlaethau rhyngwladol am y tro cyntaf yn eu hanes - ac maen nhw wedi cael grŵp heriol, gyda gemau i ddod hefyd yn erbyn Ffrainc a'r pencampwyr presennol Lloegr.

Mae Lloegr a Ffrainc yn 10 safle uchaf ar restr detholion FIFA, tra bod Yr Iseldiroedd - enillodd yr Euros yn 2017 - yn safle rhif 11

Mae'r Opta - sef cwmni sy'n dadansoddi ystadegau chwaraeon - yn dweud mai dim ond 9% o siawns sydd gan Gymru o orffen yn y ddau safle uchaf yn y grŵp a chyrraedd rownd yr wyth olaf, tra bod eu gobeithion nhw o ennill y twrnament yn 0%.

Er hynny mae Wilkinson yn hyderus yng ngallu ei thîm.

"Dwi methu aros am y gêm, a gweld y chwaraewyr yn cerdded allan ar y cae a chreu ychydig o hanes," meddai Wilkinson.

"Mae'r tîm yma'n barod. Maen nhw'n i gyd yn holliach, ac wedi cyffroi.

"Maen nhw'n deall be maen nhw wedi ei gyflawni yn cyrraedd yma yn foment fawr yn hanes Cymru.

"Pawb yn nerfus - ond mae hynny i'w ddisgwyl - ac mi fydd 'na fwy o nerfau nag arfer cyn y gêm gyntaf.

"Does 'na neb yn disgwyl i ni fynd drwy'r grŵp. Ond o fewn y garfan - mae'r disgwyliadau'n uchel iawn.

"Mae'n gyfle i ni ddangos y byd cystal tîm ydan ni."

Yr Iseldiroedd ar chwal?

Rheolwr Yr Iseldiroedd Andries Jonker cyn y gêm yn erbyn Cymru yn Euro 2025Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Andries Jonker wedi bod yn rheolwr Yr Iseldireodd ers 2022

Tra bod yr hyder yn uchel yng ngharfan Cymru, mae pethau'n dra gwahanol o safbwynt Yr Iseldiroedd.

Mi fydd eu rheolwr Andries Jonker yn gadael ei swydd wedi'r bencampwriaeth - ond mae'n ymddangos nad yw'n hapus gyda'r penderfyniad yna.

Mae Jonker wedi bod yn siarad â bodlediad, gan ddweud ei fod wedi synnu gyda phenderfyniad Cymdeithas Bêl-droed Yr Iseldiroedd i beidio â rhoi cytundeb newydd iddo.

Ac yn ei gynhadledd newyddion cyn y gêm yn erbyn Cymru fe gafodd ei gyhuddo gan un newyddiadurwr o drin ei chwaraewyr fel "pypedau."

Mae'r holl beth wedi achosi tensiwn o fewn y garfan, gyda'r chwaraewr canol cae profiadol Sherida Spitse yn dweud na ddylai Jonker fod wedi ei ddyfodol yn gyhoeddus.

Yn ogystal â hynny mae'r Iseldiroedd wedi cael canlyniadau siomedig yn ddiweddar, gan golli 4-0 yn erbyn Yr Almaen, a chael gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Yr Alban - gyda'r Alban dim ond chwe safle yn uwch na Chymru ar restr detholion FIFA.

Newyddion timau

Sophie Ingle yn ymarfer gyda charfan CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sophie Ingle wedi gwella o anaf i'w phen-glin i allu chwarae yn Euro 2025

Mae pob un o chwaraewyr Cymru yn holliach, gan gynnwys Sophie Ingle sydd heb chwarae gêm ers dros flwyddyn oherwydd anaf i'w phen-glin.

Mae'n annhebygol dros ben y bydd Ingle yn dechrau'r gêm, ond fe allwn ni ei gweld hi'n chwarae ryw fath o ran fel eilydd.

Mi fydd yn rhaid i Rhian Wilkinson benderfynu pwy fydd yn cymryd lle Mayzee Davies yng nghanol yr amddiffyn, gan nad yw hi ar gael ar gyfer y twrnament oherwydd anaf.

Yr opsiynau yw Josie Green, neu symud Hayley Ladd o ganol y cae i chwarae yno.

O ran Yr Iseldiroedd - mae yna amheuaeth am ffitrwydd dwy o'u chwaraewyr ymosodol.

Mae Vivianne Miedema o glwb Manchester City wedi dioddef lot o anafiadau'n ddiweddar, a ddim gant y cant yn ffit, tra bod ymosodwr Wolfsburg Lineth Beerensteyn heb ymarfer ers i'r garfan gyrraedd Y Swistir.

Gobeithion y Wal Goch

Cefnogwyr Cymru yn ardal y cefnogwyr yn LucerneFfynhonnell y llun, BBC Sport
Disgrifiad o’r llun,

Ardal y cefnogwyr yn Lucerne

Rhywbeth arall sy'n siŵr o ysbrydoli chwaraewyr Cymru ydi'r nifer o gefnogwyr Cymru sydd wedi teithio i Lucerne.

Mae yna fwy o gefnogwyr Cymru yn Y Swistir na'r rhan fwyaf o'r gwledydd eraill, er bod nifer fawr wedi cael problemau teithio.

"Dwi'n gobeithio y bydd Cymru yn mynd drwodd i rownd yr 8 olaf," meddai Olivia Elliott, 16 oed, o'r Rhondda.

"Ond os na fydd hynny'n digwydd 'da ni'n gwybod y bydd y merched yn gwneud eu gorau glas.

"Mi oedd hi'n bwysig dod allan yma i'w cefnogi nhw, ac i ddangos ein gwerthfawrogiad am be maen nhw wedi ei gyflawni.

"Dwi'n chwarae pêl-droed fy hun, ac mae gwylio'r tîm yn rhoi syniad i fi be sydd angen i fi wella arno fel chwaraewr."