Y Cymro gafodd sgŵp Oasis cyn iddyn nhw ddod yn enwog

Fe wnaeth dyfalbarhad a lwc arwain at Rob Watkins yn tynnu'r llun yma o Liam Gallagher mewn bar yng Nghasnewydd oedd yn rhannu'r un enw â'i fand
- Cyhoeddwyd
Bydd miloedd o luniau yn cael eu tynnu o Oasis yng Nghaerdydd dros y penwythnos wrth iddyn nhw chwarae am y tro cyntaf ers torri fyny yn 2009.
Ond mae un Cymro yn dal i werthu'r ychydig luniau a gafodd eu tynnu yn eu gig gyntaf yng Nghymru cyn i'r band ddod yn fyd-enwog.
Ac fe gafodd y sgŵp i bapur newydd myfyrwyr Caerdydd.
Y dyddiad oedd 3 Mai, 1994 - cyfnod cyn i ffonau symudol fod ar gael i ddogfennu popeth - a'r lleoliad oedd clwb chwedlonol TJ's yng Nghasnewydd.
Roedd Oasis newydd ryddhau eu sengl gyntaf Supersonic ac roedd dyddiad rhyddhau eu halbwm cyntaf, wnaeth newid popeth, dri mis i ffwrdd.
O fewn blwyddyn roedd Definitely Maybe wedi gwerthu miliynau ac roedd Oasis yn un o'r prif fandiau yn Glastonbury a'r camerâu yn eu dilyn i bobman.
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl

Llun Rob Watkins o Liam Gallagher wrth y meicroffon yn TJ's, gyda Bonehead yn chwarae'r gitâr yn y cefndir - gig cyntaf Oasis yng Nghymru
Astudio am PhD yng Nghaerdydd oedd Rob Watkins ar y pryd ac roedd o wedi bod yn cyfrannu i bapur newydd y myfyrwyr Gair Rhydd ers 1990.
Roedd o hefyd yn DJ oedd yn chwarae yn Undeb Myfyrwyr Caerdydd ac felly'n wybodus am gerddoriaeth, gan gynnwys band newydd o'r enw Oasis.
Roedd o wedi tynnu lluniau ohonyn nhw mewn gig ym Mryste fis Mawrth 1994 ac wedi syfrdanu bod band mor newydd gyda chymaint o ganeuon da.
Felly pan glywodd eu bod nhw'n chwarae yng Nghasnewydd fis Mai fe drefnodd gyda'r cwmni PR i dynnu lluniau'r perfformiad a chael cyfweliad cyn y gig.
Ffrae rhwng y Gallaghers
Aeth draw i TJ's ar gyfer y soundcheck ond yn anffodus, fel daeth yn batrwm dros y blynyddoedd i ddod, aeth hi'n ffrae rhwng y brodyr Gallagher gan fod Liam yn gwrthod canu llinell gyntaf newydd roedd Noel wedi sgwennu ar gyfer Shakermaker.
Ar ôl i Noel adael y lleoliad mewn tymer dywedodd rheolwr y daith na fyddai 'na gyfweliad.
Ond fel newyddiadurwr da, wnaeth Rob ddim rhoi fyny. Fe wnaeth o a'i gyd-newyddiadurwr ddilyn gweddill y band o bellter drwy ganol Casnewydd, lle gawson nhw fwyd parod a mynd ymlaen i'w gwesty.
"Roedden ni am fynd i'r dderbynfa i ofyn i gael gweld Noel, ond pan oedden ni'n ddigon dewr i fynd mewn i'r gwesty roedd Liam yn eistedd wrth y bar yn cael diod o gwrw a wnaeth e gytuno i wneud y cyfweliad yn lle," meddai Rob wrth Cymru Fyw.
"Dim ond fe oedd yno ac roedd e'n charming iawn, iawn - yn siarad yn hyderus iawn am gynlluniau eu gyrfa ac yn siarad yn braf am ei deulu."
Yn ffodus hefyd i Rob, sy'n wreiddiol o Maerdy yn y Rhondda, enw'r bar yng ngwesty'r King's Head oedd Oasis - oedd yn berffaith ar gyfer llun.

Llun Rob Watkins o Liam yn y bar yng ngwesty'r King's Head, Casnewydd
Fe ymunodd gweddill y band ar ôl 20 munud ac fe 'newidiodd ei bersonoliaeth' ychydig, meddai Rob, ac fe gafodd bawb drafodaeth am ganeuon cwpan FA Lloegr.
Mae'n dweud bod y ffrae rhwng y ddau frawd wedi dod â lwc iddyn nhw gan roi'r cyfle i holi Liam ar ei ben ei hun.
Meddai: "Dwi ddim yn meddwl bod e'n cael ei roi 'mlaen i wneud cyfweliadau i newyddiadurwyr heb Noel.
"Y darn gorau oedd dilyn y band drwy'r dref fel private detectives. Dwi'n cofio poeni y bydde ni'n gorfod eistedd tu allan i McDonald's am awr... a'r rhyddhad pan wnaethon nhw gael takeaway."
Sibrydion am The Stone Roses
Gyda'r nos roedd y band ar lwyfan TJ's - lle mae grwpiau fel The Stone Roses, Manic Street Preachers a Primal Scream wedi chwarae, a lle ddaeth Kurt Cobain i weld Courtney Love yn chwarae gyda'i band, Hole.
Dyma oedd gig gyntaf Oasis yng Nghymru ac yn ôl Rob Watkins roedd y lle yn llawn dop - yn rhannol gan fod si ar led bod band arall eiconig o Fanceinion The Stone Roses yn mynd i chwarae set.

Llun o glwb TJ's, Casnewydd, yn 1997. Dywedodd Rob Watkins bod sain mawr Oasis yn bwerus mewn lleoliadau bychan fel TJ's, wnaeth gau lawr yn 2010
Meddai: "Mae'n anodd credu rŵan ond roedd ffans cerddoriaeth indie yn llawer mwy cyffrous bod y grŵp hwnnw ar fin dychwelyd ar ddechrau 1994.
"Roedd y Roses yn recordio Second Coming yn Stiwdio Rockfield (gerllaw) ac roedd 'na sôn bod y band am droi fyny i chwarae gig cyfrinachol."
Ddigwyddodd hynny ddim, ond fe wnaeth y band lleol 60 Ft Dolls chwarae slot anhygoel, meddai Rob.

Y ffotograffydd Rob Watkins, sydd bellach yn byw yn y Ffindir
Roedd hyn yn ddyddiau cyn camerâu digidol, a phrin neb yn cario ffonau symudol. Roedd Rob yno gyda'i gamera SLR a dim ond dau ffilm du a gwyn - digon am tua 70 llun.
"Roedd 'na reol 'dim fflash camera' yn y gig ac roedd y gwesty a TJ's yn dywyll iawn - felly dwi'n rhyfeddu bod rhwng 40-50 llun yn ddigon da i'w defnyddio. Maen nhw wedi gwerthu'n rheolaidd dros y blynyddoedd.
"Nes i yrru nhw i'r NME yr un wythnos ac fe wnaethon nhw eu defnyddio nhw'n aml iawn yn 1994-1995."

O TJ's i Glastonbury... fe ddatblygodd Oasis i fod yn un o fandiau mwya'r byd. Dyma nhw - gyda baner y ddraig goch yn y dorf - yn perfformio ar lwyfan pyramid Glastonbury yn 2004
Mae Rob wedi gweld y band naw gwaith a thynnu lluniau ar bum taith, gan gynnwys pan oedd y Manic Street Preachers yn eu cefnogi nhw yn 1996 ac yn Glastonbury yn 1995 - a'r lluniau yma sy'n gwerthu orau ar hyn o bryd.
Yn ystod y cyfnod yma roedd Rob wedi rhoi'r gorau i'w ymchwil academaidd a dechrau ôl-radd mewn ffotograffiaeth ddogfennol ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae o wedi gweithio yn y maes byth ers hynny.
Felly fydd o'n mynd i weld Oasis ar eu taith diweddara'?
"Dwi ddim eisiau swnio fel snob ond does gen i ddim diddordeb gweld nhw'n gwneud taith karaoke," meddai.
"Ar ôl 1995 ro'n i'n gweld nhw'n eitha' marwaidd yn fyw. Pan gawson nhw gerddorion gwell a dechrau chwarae mewn lleoliadau mwy roedd yr holl egni a'r teimlad peryglus o'u gigs cynnar wedi mynd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd10 Ionawr
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl