Sion Telor - y ci sy'n gwneud gwahaniaeth
Fideo: Sion Telor yn nosbarth Dawns ar Gyfer Parkinson's Pontio
- Cyhoeddwyd
"Mae cyfraniad gofalgar Sion Telor yn amhrisiadwy i aelodau Dawns ar Gyfer Parkinson's Pontio."
Dyna eiriau Helen Wyn Parry sy'n delynores yn y sesiynau dawns.
Border Collie ydi Sion Telor sy'n dod yn wythnosol i'r dosbarthiadau.
Fel rhan o wobrau 'Gwneud Gwahaniaeth' y BBC, mae Helen wedi penderfynnu enwebu Sion ar gyfer y wobr 'Anifail.'
Mared Huws yw perchennog Sion, ac fe esboniodd cymaint o "sioc" gafodd hi wrth iddi ddarllen yr e-bost yn sôn am yr enwebiad.

Helen Wyn Parry wnaeth enwebu Sion ar gyfer y wobr
Er nad yw Sion wedi derbyn unrhyw hyfforddiant ffurfiol, mae ganddo'r ddawn o allu synhwyro pan mae rhywun yn isel ei hysbryd neu angen mymryn o sylw.
Mae cael Sion yn y gwersi yn lleddfu unrhyw bryderon ac yn helpu'r dawnswyr ymlacio yn ystod y sesiwn.
Dywedodd Helen: "Pan fo rhai yn rhwystredig, wedi eu llethu gan y cyflwr, mae'n ymlwybro i gysuro deigryn gan synhwyro anallu i gyfathrebu'n eiriol."
Dyma ei hanes rhyfeddol.
Mae rhestr o'r holl enwebiadau ar gyfer pob categori i'w gweld yma.