Euro 2025: 'Dwi mor falch bod ni heb gymryd sylw o'r dynion mewn siwts'

Mai Griffith - gyda Prestatyn Ladies, Cymru, ac yn fwy diweddar gyda chap arbennig i nodi chwarae dros ei gwlad
- Cyhoeddwyd
Pan fydd tîm merched Cymru yn camu ar y cae yn Euro 2025 fe fydd nifer o fenywod fu'n brwydro am ddegawdau dros y gêm yn gwylio yn llawn balchder.
Un o'r rheiny ydi Mai Griffith, o Fwcle, fydd yn yr eisteddle yn y Swistir gyda rhai o'i chyd-chwaraewyr o'r 1960au a'r 70au.
Pan oedd nifer yn ddilornus o ferched oedd yn chwarae'r gêm ac yn eu gwahardd rhag defnyddio caeau pêl-droed, fe sefydlodd Mai un o dimau mwyaf llwyddiannus y wlad ac ennill cap (a thalu amdano o'i phoced ei hun) yn y gêm ryngwladol gyntaf i ferched Cymru.
"Dwi mor falch bod ni heb gymryd unrhyw sylw o'r dynion mewn siwts," meddai wrth Cymru Fyw wrth iddi baratoi i fynd i'r Swistir.

Fe fydd Mai yn mynd i'r Swistir gyda'i ffrindiau, sy'n cynnwys tair o gyn-chwaraewyr Prestatyn Ladies
Fe ddechreuodd ei chariad at y bêl gron pan oedd hi'n cael ei magu ym mhentref Trefriw, Dyffryn Conwy, yn yr 1950au a'r 60au. Roedd hi a'i chwaer Eleri, oedd flwyddyn a hanner yn hŷn, yn arfer cicio pêl gyda'r bechgyn ac yn mynd i weld eu brawd mawr yn chwarae.
"Roedd Peris yn chwarae efo Trefriw Spa ac wedyn Gwydir Rovers a bob bore Sadwrn fyddwn i'n mynd i'w weld o'n chwarae," meddai. "Roedd o'n 15 mlynedd yn hŷn na fi ac roedd rhaid i fi ll'nau ei sgidiau pêl-droed a polishio nhw.
"Ro'n i'n chwarae yn yr ysgol gynradd ac efo'r hogia lleol pan o'n i tua chwech neu saith oed - roedda ni'n chwarae tan oedd hi 'di tywyllu.
"Mond y ddwy ohonon ni oedd yn chwarae fel genod - roedd pawb yn jest chwarae efo'i gilydd a chael hwyl."
Ond wrth iddyn nhw fynd yn hŷn a cheisio chwarae o ddifrif fe newidiodd agweddau.

Mai Griffith, trydydd o'r chwith, a'i chwaer Eleri, ar y chwith, gyda Prestatyn Ladies - tîm wnaeth y ddwy ei sefydlu a'i ddatblygu i fod yn un o dimau cryfaf Cymru
Ar ôl chwarae i dimau clybiau ieuenctid pan oedden nhw'n ddisgyblion yn Ysgol Uwchradd Dyffryn Conwy, fe ddechreuon nhw ddilyn timau'r dynion wedi i'r teulu symud i Brestatyn.
"Roedd Eleri a finna' yn mynd o gwmpas yn gwylio Prestatyn Town a mynd i wylio Rhyl yn Belle Vue ond doeddan ni methu chwarae achos doedd 'na ddim tîm. Felly dyma ni'n meddwl pam ddim dechrau un fan yma?
"Erbyn 1969 roedda ni wedi dod i 'nabod mwy o bobl yn yr ardal a dechrau holi o gwmpas am chwaraewyr.
"Nathon ni roi advert yn y papur newydd yn gofyn os oedd unrhyw un eisiau chwarae a deud bod ni'n cael training, a wnaeth 'na ddigon ddod.
"Gafon ni'n gêm gynta' - yn Gwaenysgor (ger Prestatyn) yn erbyn Dyserth. 'Naethon ni ennill - ond roedda nhw'n gorfod cael dyn i fynd i gôl i stopio ni sgorio gormod."
- Cyhoeddwyd7 Ebrill 2022
Roedd hwn yn gyfnod pan roedd nifer cynyddol o dimau merched yn cael eu sefydlu wedi i Gwpan y Byd gael ei gynnal yn Lloegr yn 1966. Ond doedd 'na ddim cefnogaeth gan yr awdurdodau pêl-droed i ferched oedd eisiau chwarae'r gêm.
Ers 1922 roedd gweinyddwyr y gamp ym Mhrydain wedi eu gwahardd rhag chwarae ar gaeau unrhyw glwb oedd yn aelodau o'r cymdeithasau pêl-droed.
Erbyn dechrau'r 1970au doedd Cymdeithas Bêl-droed Cymru dal heb godi'r gwaharddiad felly roedd yn rhaid i Prestatyn Ladies chwilio am opsiynau eraill.
Meddai Mai: "Roedda ni'n gorfod chware ar wasteland neu ar gaeau cyhoeddus neu gaeau ysgol achos doedda ni ddim yn cael chwarae ar gaeau timau oedd yn affiliated i'r FAW. Roedd o'n ofnadwy."
Bydd Mai Griffith yn siarad ar raglen Aled Hughes ar 2 Gorffennaf neu gallwch wrando yma.

Erthygl yn y News of the World yn dyfynnu ysgrifennydd CBDC yn siarad yn erbyn gêm y merched - ac ateb Mai Griffith, oedd yn 21 ar y pryd
Mae'r rheswm tu ôl i'r gwaharddiad yn dod i'r amlwg wrth i Mai ddyfynnu o adroddiadau papurau newydd mae hi wedi eu cadw o'r cyfnod: y dynion oedd yn gweinyddu'r gêm yn dweud mai 'gimmick' oedd merched yn chwarae pêl-droed ac nad oedd y gamp yn 'condusive to the female physique'.
"Roedd o'n demeaning a ro'n i'n flin iawn," meddai Mai. "Ond wnaeth hynny 'neud i fi gario 'mlaen a neud i fi bwcio mwy o gemau. Wnaethon ni ddim cymryd sylw ohonyn nhw. Doedd o ddim fyny iddyn nhw be' oedden ni'n 'neud, roedd o fyny i ni."

Mai mewn gêm yn erbyn Gweriniaeth yr Iwerddon yn Limerick, yn ystod tymor 1974/75
Gyda'r pwysau yn cynyddu i newid y drefn fe gafodd y gwaharddiad ei godi ganol 1970 - trobwynt bwysig yn hanes y gêm.
Roedd y tîm a sefydlwyd gan Mai a'i chwaer yn gwneud y penawdau fel un o dimau cryfaf yr ardal. Roedden nhw'n rhy dda i weddill timau'r gogledd felly fe wnaethon nhw ymuno gyda chynghrair mwy cystadleuol ar Lannau Merswy ac ennill y trebl dair gwaith o'r bron.
Ar un achlysur daeth torf o 3,000 i'w gweld nhw'n chwarae yn erbyn Foden, o swydd Gaer.
Ar un cyfnod roedd gan Prestatyn Ladies chwe chwaraewr rhyngwladol gan gynnwys pedair yn gêm gyntaf merched Cymru ym mis Mai 1973.
Colli oedd eu hanes yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon, yn Llanelli, ond mae gan Mai atgofion melys iawn o ennill ei chap cyntaf.
"Roedd o'n anhygoel - sefyll yna a nhw'n chwarae'r anthem genedlaethol - nesh i erioed feddwl baswn i'n gwneud hynny yn chwarae pêl-droed," meddai. "Genod de Cymru oedd yn trefnu. Doedd ganddo ni ddim kit felly be' oedden nhw wedi ei wneud oedd cael kit reserves tîm dynion Abertawe i ni.
"Roedd y crysau mor fawr, ac roedd hi'n bwrw glaw ac roedda ni i gyd yn socian - ond roeddan ni mor hapus."

Mai yn un o'i gemau i Gymru, a gyda'r crys ac un o'i chapiau o 1977 mae hi wedi ei roi i amgueddfa bêl-droed Wrecsam
Fe chwaraeodd dros Gymru saith gwaith mewn 10 mlynedd ond oherwydd diffyg cefnogaeth ariannol CBDC roedd yn rhaid iddi dalu am y capiau ei hun. Roedd nifer o'r sgwad yn gorfod gwneud heb, gan nad oedden nhw'n gallu eu fforddio nhw.
Talu am y fraint o gynrychioli eu gwlad oedd hanes tîm cenedlaethol y menywod yn ystod y cyfnod - gan gynnwys talu am gostau teithio, gwesty a'u cit.
Ac wrth i ferched Cymru baratoi i gystadlu yn yr Euros am y tro cyntaf, mae Mai yn cofio yn ôl i deithio i'r Eidal i gystadlu mewn pencampwriaeth ryngwladol yn 1978.
Fe gafodd y Giochi Internazionali Di Calcio Femminile ei drefnu gan yr Eidalwyr, heb gefnogaeth UEFA na FIFA.
Roedd chwe gwlad o Ewrop yn cystadlu yn y bencampwriaeth yn ninas Prescara.
"'Nathon ni fynd efo bws yr holl ffordd yna - 'nath o gymryd tua dau ddiwrnod ac wedyn roedda ni'n chwarae'r gemau," meddai Mai
"Dwi'n cofio ni'n cerdded o gwmpas y stadiwm efo fflag yn y seremoni agoriadol. Aethon ni yno eto wedyn yn 1979 - yn Rimini oedd hwnna - ond fflio y tro yna."

Rhaglen yr ail bencampwriaeth ryngwladol gafodd ei gynnal yn yr Eidal yn 1979 - a llun o dîm Cymru yn y seremoni agoriadol
Yna yn 1980 fe benderfynodd UEFA drefnu pencampwriaeth Euros i ferched, gyda'r cynta'n cael ei chynnal yn 1984.
Ers hynny, ac yn raddol, mae gêm y merched wedi mynd o nerth i nerth.
Ar ddechrau'r 1990au fe wnaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru gytuno i fod yn gyfrifol am dîm rhyngwladol y merched. Llynedd, fe gafodd Mai a'r holl chwaraewyr eraill fu'n cynrychioli eu gwlad cyn 1993 gap swyddogol gan y gymdeithas mewn seremoni yng Nghaerdydd.

Mai Griffith (ail o'r chwith) gyda chyn-aelodau Prestatyn Ladies fu'n chwarae dros Gymru rhwng 1973-1993 yn cael eu capiau yn ddiweddar gan CBDC
I Mai, sydd â nith sy'n chwarae i Landudno, mae'r newid mewn agweddau dros y blynyddoedd diweddar yn syfrdanol. Ac mae'n dweud bydd yr holl atgofion yn dod yn ôl wrth iddi wylio gêm gyntaf Cymru yn erbyn yr Iseldiroedd yn Lucerne, a hynny gyda rhai o'i chyd-chwaraewyr o'r 1970au.
Meddai: "Bob tro dwi'n gweld y chwaraewyr 'da ni'n cael gymaint hwyl, fel yr hen ddyddiau - dyddiau gorau mywyd i.
"Mae pethau mor wahanol i'r genod heddiw. Maen nhw mor broffesiynol a dwi wrth fy modd yn gweld y genod bach yn yr ysgol yn chwarae ac yn cael hwyl ac yn cadw'n heini.
"Dwi mor falch bod ni heb gymryd unrhyw sylw o'r dynion mewn siwts a fod Eleri a fi a phawb arall wedi cario 'mlaen."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl