Y Cymro a helpodd Alanis Morissette i ddod yn seren

- Cyhoeddwyd
Nos Fercher 2 Gorffennaf, mae'r gantores fyd-enwog o Ganada yn perfformio yng nghaeau Blackweir yng Nghaerdydd.
Yn ei chefnogi, mae dwy Gymraes; yr artist ifanc o Fôn, Megan Wyn, a'r seren o Gaerdydd, Gwenno.
Ond wyddoch chi fod gan Alanis Morissette gysylltiad Cymreig arall – ac oni bai am Gymro o Gaerdydd, efallai na fyddai hi'n enw cyfarwydd i ni o gwbl?
Cafodd sengl gyntaf Alanis Morissette ei gynhyrchu gan Lindsay Thomas Morgan yn Stiwdios Marigold yn Toronto.
O Gaerdydd oedd Lindsay yn wreiddiol. Erbyn iddo fod yn 11 oed, roedd wedi dechrau canu'r gitâr ac ysgrifennu caneuon.
Recordiodd ganeuon gyda'i ffrind John Patterson, cyn sefydlu'r band 'gwerin-roc-gospel', The Proclaimers – oedd hefyd yn cynnwys ei chwaer hŷn, Anthea – a ryddhaodd bedwar EP ganol yr 1960au.

Perfformiodd The Proclaimers ar Hob y Deri Dando, ddydd Nadolig 1964 - mae Lindsay ail o'r dde, yn y cefn
Un arall o'i gyd-aelodau yn y band oedd Jacqueline Clifton. Symudodd y pâr i Ganada gyda'i gilydd yn 1967 gan ymgartrefu yn Ontario.
Bu'r ddau yn cyd-berfformio yn ystod yr 1970au, o dan yr enw Jacqueline & Lindsay. Cofiodd Lindsay flynyddoedd yn ddiweddarach eu bod yn boblogaidd oherwydd fod eu hacenion Cymreig cryf yn eu gwneud mor unigryw.
Aethon nhw 'mlaen i ffurfio'r grŵp Morgan, gan deithio'n helaeth ledled Canada a thu hwnt.

Roedd Lindsay Thomas Morgan yn ddylanwad cerddorol ar yr Alanis Morissette ifanc
Ganol yr '80au, daeth yn fentor a hyfforddwr ysgrifennu caneuon i'r Alanis Morissette ifanc pan oedd hi ond yn naw oed.
Roedd Alanis wedi gweld Lindsay a Jacqui, a oedd yn ffrindiau i'w rhieni, yn perfformio'n fyw, ac wedi sylweddoli mai dyna oedd ei breuddwyd. Helpodd Lindsay hi drwy gynhyrchu ei sengl gyntaf Fate Stay with Me yn 1987.
Yr un flwyddyn, rhyddhaodd Lindsay ei sengl gyntaf fel artist unigol, a aeth i'r 20 uchaf yn y siartiau yng Nghanada. Roedd Alanis yn llais cefndir ar ambell un o draciau ei albwm gyntaf yn 1990, gan gynnwys y gân Pack up your Dreams, dolen allanol, ble mae ei chwerthin i'w glywed yn glir ar ddiwedd y trac.
Ffrwydrodd enwogrwydd Alanis ar ôl rhyddhau'r albwm Jagged Little Pill yn 1995. Roedd Lindsay'n dweud ei bod hi yn "poised for superstardom" erioed.

Yn 1995, cefnogodd Lindsay y seren o Bontypridd, Tom Jones mewn cyngerdd yn feniw enwog Lulu's Roadhouse yn Kitchener, Ontario (oedd â'r record Guinness am fod â'r bar hiraf yn y byd, yn estyn 103.6m!). Er ei fod wedi byw yng Nghanada am y rhan fwyaf o'i fywyd, roedd wastad yn falch o'i wreiddiau Cymreig.
Parhaodd i ysgrifennu, recordio, rhyddhau a chynhyrchu cerddoriaeth iddo'i hun ac artistiaid eraill, gan gynnwys mwy nag un crynoddisg o ganeuon i blant, roedd wedi eu hysgrifennu'n wreiddiol ar gyfer ei feibion, Jesse a Devon.
Bu farw ar 31 Mai 2018.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd1 Mehefin
- Cyhoeddwyd3 Mai
- Cyhoeddwyd28 Mawrth