Diwylliant yfed 'unrhyw esgus i fynd i dafarn' yng Nghadeirlan Bangor

Mae safle Eglwys Gadeiriol bresennol Bangor wedi bod yn cael ei ddefnyddio fel lle i Gristnogion addoli ers y 6ed Ganrif
- Cyhoeddwyd
Bu offeiriaid a chantorion côr mewn eglwys gadeiriol sy'n wynebu cyfnod cythryblus yn cymryd rhan mewn gêm yfed "saith shot olaf Crist" mewn tafarn ar Ddydd Gwener y Groglith ar ôl gwasanaethau yng nghadeirlan Archesgob Cymru.
Mae pobl a ganodd gyda'r côr yng Nghadeirlan Bangor wedi dweud wrth y BBC fod "unrhyw esgus i ddod â'r gwin allan" a "mynd i'r dafarn" oherwydd "diwylliant o yfed gormodol".
Daw'r honiadau ddyddiau ar ôl i Andrew John ymddeol fel Archesgob Cymru ar unwaith, ar ôl i ddau adroddiad beirniadol dynnu sylw at bryderon diogelu a chamymddygiad yn ei esgobaeth ym Mangor.
Dywedodd yr Eglwys yng Nghymru fod "camddefnyddio alcohol bob amser yn amhriodol" a'u bod yn datblygu polisi ynghylch y defnydd o alcohol.
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
Bydd Mr John hefyd yn ymddeol fel Esgob Bangor ar 31 Awst, ond mae'r Eglwys wedi galw am gyfres o adolygiadau ac ymchwiliadau i'w esgobaeth a'i gadeirlan.
Daw hyn ar ôl i adroddiadau dynnu sylw at "ddiwylliant lle'r oedd ffiniau rhywiol yn ymddangos yn aneglur", ble roedd alcohol yn cael ei yfed yn ormodol, a gwendidau o ran llywodraethu a diogelu.
Er nad oes unrhyw awgrym bod yr archesgob ar y pryd - arweinydd yr Eglwys yng Nghymru - wedi ymddwyn yn amhriodol, dywedodd corff cynrychioliadol yr eglwys fod yn rhaid cael "newid mewn arweinyddiaeth, gweithdrefnau a llywodraethu yn Esgobaeth Bangor".

Fe wnaeth Andrew John ymddeol fel Archesgob Cymru fis diwethaf, a bydd yn ymddeol fel Esgob Bangor ar 31 Awst
Dywedodd Jessica - nid ei henw iawn - bod offeiriad, a oedd wedi bod yn yfed mewn digwyddiad yng Nghadeirlan Bangor yn 2022, wedi ymosod arni.
"Roedd wedi yfed gormod o lawer," meddai wrth y BBC.
"Ro'n i eisoes wedi rhybuddio pobl y noson honno ei fod yn yfed llawer mwy na phawb arall.
"Felly cafodd yr arwyddion yma eu hanwybyddu ac fe arweiniodd hynny at yr ymosodiad."
Dywedodd Jessica, sydd bellach yn ei hugeiniau cynnar, fod yr offeiriad wedi cyffwrdd â pherson arall hefyd yn ystod y digwyddiad yn y gadeirlan.
Fe wnaeth hi gwyno amdano ac fe ymddiheurodd, ond dywedodd na wnaeth y diwylliant yfed newid.
"Byddai sawl potel o prosecco yn cael eu hyfed ar fore Sul," ychwanegodd Jessica.
"Unrhyw fath o ddigwyddiad allanol neu ddigwyddiad mewnol mawr, roedd prosecco neu win."
Fe gadarnhaodd yr Eglwys yng Nghymru fod Jessica yn un o ddau berson wnaeth gwyno am ymddygiad y dyn.
Ychwanegon nhw nad oedd hyfforddiant y dyn i fod yn offeiriad wedi mynd ymhellach.

Cafodd casgenni cwrw eu bendithio mewn digwyddiad Oktoberfest yng Nghadeirlan Bangor yn 2022
Ar ôl cyngerdd yn y gadeirlan ar Ddydd Gwener y Groglith yn 2023, aeth aelodau'r côr allan am ddiod.
"Daeth rhai o'r offeiriaid allan gyda'r côr," cofiodd Jessica. "Ystyriwyd ei bod yn briodol gwneud saith shot olaf Crist."
Mae Saith Gair Olaf Crist yn cyfeirio at y saith brawddeg olaf a lefarodd Iesu o'r Groes ar Ddydd Gwener y Groglith, fel sy'n cael eu dyfynnu yn y Beibl.
"Oherwydd bod gan Grist saith gair olaf, fe wnaethon ni ganu saith darn o'r saith gair olaf yn y cyngerdd - ac fe wnaeth hynny rywsut drosi'n saith shot Crist," meddai.
"Dwi'n credu i mi adael ar ôl y shot gyntaf oherwydd fy mod i fel 'dydw i ddim yn meddwl bod hyn yn briodol'.
"Mae gormod o bobl yn llyncu shots mewn coleri cŵn i fi deimlo'n gyfforddus."
'Pam wyt ti ddim yn yfed?'
Dywedodd Jessica iddi fynd ar daith i Rufain gyda'r côr ym mis Mehefin 2023.
"Bob nos byddem yn mynd i far yn gyntaf ac yna i fwyty," cofiodd.
"Ar y pryd, doeddwn i ddim yn yfed o gwbl. Byddwn i'n dweud nad ydw i eisiau gwin, nad ydw i eisiau yfed yn y sefyllfa yma. Dwi ddim eisiau alcohol.
"Ni fyddai'r ateb yn cael ei dderbyn. Byddai'n cael ei gwestiynu'n ddiddiwedd.
"Fel, mae'r alcohol yma am ddim. Pam wyt ti ddim yn ei yfed? Dylet ti ei gael."

Dywedodd Esme Byrd iddi adael ei swydd fel clerc lleyg yng Nghadeirlan Bangor oherwydd bod neb wedi gwrando ar ei phryderon am y diwylliant yn yr esgobaeth
Roedd Esme Byrd yn glerc lleyg yng Nghadeirlan Bangor am chwe mis ac roedd yn canu'n rheolaidd gyda'r côr tan iddi adael ym mis Ionawr 2023.
Dywedodd y fenyw 29 oed fod y diwylliant a'r agwedd at alcohol "ddim yn iach", gyda rhai pobl yn "drychinebus o feddw".
"Roedd diwylliant o oryfed," meddai Esme.
"Nid o reidrwydd drwy'r amser, ond yn sicr roedd llawer o alcohol o amgylch bron pob un o'r gwasanaethau neu'r digwyddiadau amrywiol.
"Roedd yn ymddangos fel bod unrhyw esgus i ddod â'r gwin allan, unrhyw esgus i fynd i'r dafarn."
'Jôcs rhywiol di-chwaeth'
Dywedodd Esme, oedd weithiau'n gweithio'n uniongyrchol gyda'r plant yn y côr, ei bod hi wedi dechrau poeni am les aelodau iau'r côr - yn enwedig yr iaith oedd yn cael ei ddefnyddio o'u cwmpas.
"Roedd yn lefel jôcs rhywiol 18-rated, hiwmor rhywiol di-chwaeth a wnaed o flaen plant mor ifanc â chwech neu saith oed," meddai.
"O ran hyfforddiant diogelu, doedd dim byd o gwbl.
"Doedd dim hyfforddiant, felly o'm rhan i yn sicr, yn dechrau a gwneud fy swydd, doedd dim hyfforddiant am unrhyw beth o gwbl."

Weithiau byddai Esme Byrd yn gweithio'n uniongyrchol gyda'r plant yng nghôr y Gadeirlan
Dywedodd Esme mai dim ond ychydig wythnosau ar ôl iddi ddechrau ei swydd y gofynnwyd iddi lenwi ffurflen wirio DBS, er ei bod wedi cael ei phenodi fisoedd ymlaen llaw.
"Edrychais o gwmpas a meddwl, dydy hyn ddim yn ddiogel," meddai Esme wrth raglen BBC Wales Investigates.
"Dydy hwn ddim yn amgylchedd diogel, meithringar a da i blant fod ynddo."
Ychwanegodd: "Roedd yn teimlo llawer mwy fel clwb ar ôl ysgol a oedd yn cael ei redeg yn wael, yn hytrach na sefydliad proffesiynol."
Dywedodd Esme ei bod wedi sôn am ei phryderon, ond iddi adael yn y pendraw oherwydd ei bod wedi teimlo'n rhwystredig gyda'r diffyg gweithredu.
"Nid teimlad o falais, ond teimlad enfawr o esgeulustod a diofalwch, a pheidio â dilyn arfer da," ychwanegodd.
"Creu gofod lle gallai actor maleisus fod wedi gwneud bron beth bynnag yr oedden nhw eisiau."
'Camddefnyddio alcohol bob amser yn amhriodol'
Dywedodd yr Eglwys yng Nghymru fod "pryderon ynghylch diwylliant yfed" wedi eu hannog i ymchwilio, ac nad oedd alcohol "ar gael yn gyffredinol bellach" ar ôl gwasanaethau.
Ychwanegodd llefarydd nad oedden nhw'n credu bod Cadeirlan Bangor yn anniogel i blant, ond bod angen gwelliannau i bolisi ac arfer.
Dywedodd y llefarydd: "Mae pryderon blaenorol ynghylch diwylliant yfed yn y Gadeirlan wedi cyfrannu at y penderfyniad i gynnal ymweliad Esgob (Bishop's visitation).
"Mae'r Grŵp Gweithredu sy'n mynd i'r afael â'r argymhellion o'r ymweliad yn datblygu polisi ynghylch defnyddio alcohol.
"Nid yw alcohol ar gael yn gyffredinol ar ôl gwasanaethau bellach.
"Roedd y defnydd amhriodol o alcohol o fewn ac yn ystod gweithgareddau sy'n gysylltiedig â'r gadeirlan yn cynnwys anogaeth gan rai tuag at eraill i yfed alcohol.
"Mae'r ymddygiad amhriodol hwn yn cael ei drin yn y camau gweithredu sy'n ofynnol yn dilyn y broses ymweld.
"Mae angen gwiriadau DBS a hyfforddiant diogelu yn unol â deddfwriaeth y DU, a pholisïau'r Eglwys yng Nghymru."
O ran bendithio cwrw, dywedodd y llefarydd fod hyn yn arfer achlysurol mewn eglwysi ond bod "camddefnyddio alcohol bob amser yn amhriodol".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd13 Mai