Pobl wedi gorfod gadael eu tai oherwydd llyncdwll
- Cyhoeddwyd
Mae trigolion mewn pentref ar gyrion Merthyr Tudful wedi gorfod gadael eu cartrefi wedi i lyncdwll agor ar stad dai.
Y gred, yn ôl cynghorydd lleol, yw bod ffos wedi cwympo gan greu twll mawr ar ystâd Nant Morlais, ym mhentref Pant.
Dywed Heddlu De Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu bod wedi cael gwybod am y sefyllfa fore Sul.
Tua 30 o gartrefi sydd yn y stad ac yn ôl y Cynghorydd David Hughes, mae'r holl drigolion wedi gorfod gadael am y tro.
Mae'r stad, sy'n ffordd bengaead (cul-de-sac), wedi ei chau ac mae yna gyngor i bobl osgoi'r ardal.
Mae un o'r trigolion wedi disgrifio clywed sŵn y ffos yn cwympo - a'i ofnau y gallai golli ei gartref.
Roedd hi wedi bwrw yn yr ardal nos Sadwrn, a hynny ddyddiau wedi i Storm Bert achosi nifer o drafferthion ar draws Cymru, gan gynnwys llifogydd mawr ym Mhontypridd a thirlithriad a llyncdwll yng Nghwmtyleri, ym Mlaenau Gwent.
Mae tŷ Stephen Regan, 55, yn agos i'r llyncdwll: "Mae'n ddychrynllyd - rwy' jest moyn mynd yn ôl i'r tŷ ond dydyn ni ddim yn gwybod beth yw'r sefyllfa ar hyn o bryd.
"Fy ofn yw y gallai'r tŷ fynd... dydw i heb weld dim byd tebyg i hyn erioed.
"Mae'n dwll mawr, twll du. Mae tua 50 troedfedd o ddyfnder," ychwanegodd.
"Mae'r ffos wedi cwympo ac mae'r dŵr wedi golchi'r cyfan i ffwrdd.. roeddech chi'n gallu ei glywed yn rymblan ac yn cwympo."
Dywedodd Mr Regan ei fod ond wedi symud i'r tŷ flwyddyn yn ôl, gan ychwanegu mai "cenhedlaeth hŷn sydd yn yr heol yma, felly maen nhw wedi dychryn".
Un arall sy'n byw yn y pentref yw Dyfrig Morgan, oedd yn dweud fod y twll "wedi gwaethygu yn y 24 awr ddiwethaf".
"Y peth pwysig yw bod pawb yn iawn a bod neb wedi cael eu hanafu. Gobeithio bod yr arbenigwyr 'ma nawr yn gallu sortio mas y broblem."
Aeth ymlaen i ddweud ei fod bron a phrynu tŷ ar yr ystâd yn y gorffennol.
"O'n i'n edrych ar y tŷ, o'n i wedi rhoi'r ernes i lawr. Penderfynodd y cwmni wedyn beidio adeiladu'r tŷ a gorfo'n ni symud i fan arall yn y pentref.
"Ond wrth edrych 'nol, fi mor falch mewn ffordd fod yr adeiladwyr wedi newid eu meddwl, neu gallen ni fod yn un o'r rhai sydd wedi eu heffeithio.
"Mae'n dod lan ychydig dros dair wythnos cyn y Nadolig, ac mae’r stad i weld yn wag yma, mae rhywbeth afreal am y sefyllfa.
"Oedd rhai yn deutha’ i neithiwr yn y pentref mai llai nag awr gawson nhw, ac mae rhai ceir yn y rhan uchaf, ac maen nhw wedi ffili symud y ceir."
Dywedodd arweinydd Cyngor Bwrdeistref Merthyr Tudful, Brent Carter, fod swyddogion a'r heddlu wedi bod ar y stad drwy'r bore yn gweithio gydag asiantaethau eraill.
"Does dim angen rhagor o gymorth na chefnogaeth ar hyn o bryd ond diolch i bawb sydd wedi eu cynnig," dywedodd.
"Diogelwch yw ein prif flaenoriaeth. Er mwyn caniatáu i beirianwyr barhau â'u gwaith yn ddiogel, cadwch draw o'r ardal, os gwelwch yn dda."
Mae'r sefyllfa yn "bryderus iawn", medd AS Llafur Merthyr Tudful a Rhymni, a'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden.
Dywedodd ei bod wedi codi'r mater gyda'i chyd-aelodau o Lywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am Newid Hinsawdd, Cyllid a Llywodraeth Leol fel eu bod "yn gallu asesu pa gymorth all fod ar gael".