Yn ôl i Midffîld: Hel atgofion gyda hen wynebau Bryncoch

C'mon MidffîldFfynhonnell y llun, S4C
  • Cyhoeddwyd

Eleni mae hi'n 40 mlynedd ers i ni glywed gyntaf am hynt a helynt Mr Picton, Wali Thomas a thîm pêl-droed Bryncoch, ac ym mis Mawrth bydd C'mon Midffîld yn cael ei dathlu mewn noson arbennig gan Archif Ddarlledu Cymru.

Bydd cyfle i ffans y sioe wylio clipiau o'r gyfres deledu boblogaidd a gwrando ar rai o'u hoff gymeriadau yn hel atgofion, a hynny yn yr Oval, cae pêl-droed Caernarfon, sydd dafliad carreg o lle cafodd gemau Bryncoch eu ffilmio ar Cae Top.

John Pierce Jones, Bryn Fôn, Sian Wheldon a Llion Williams – neu Mr Picton, Tecs, Sandra a George – fydd yn "mwydro a malu awyr, a thrio cofio'n ôl i'r hen ddyddiau..." fel yr eglurodd Bryn Fôn ar Raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru.

"'Dan ni i gyd wedi dewis ein clipiau gorau – y rheiny roedden ni yn eu cofio... Dyna 'di mhroblem fwya' i; fydda i'n gweld rhyw glip weithiau pan maen nhw'n ei ail-ddangos o, a 'sgen i ddim co' weithiau o fod yn y stafell, neu ar y cae arbennig yna! Mae o i gyd fel tasa fo 'di mynd yn un blur mawr!"

Bryn FônFfynhonnell y llun, Ffotonant
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Bryn Fôn yn hel atgofion am ei gyfnod yn portreadu Tecs, ac hefyd yn canu ambell i gân ar y noson arbennig

Asiffeta!

Mae'r gyfres yn ffefryn i nifer ledled Cymru, gyda rhai o'r dyfyniadau yn parhau yn sgwrs llawer o ffans hyd heddiw. Ond mae hi wedi bod yn amser maith ers i Bryn bortreadu Tecs, postman y pentref a golwr tîm Bryncoch United, a dydi'r dyfyniadau enwog ddim ar flaen ei dafod mor hawdd y ddyddiau yma, er siom i rai:

"Fel arfer, maen nhw'n cofio'r golygfeydd yn well na fi, felly mae pobl yn lluchio rhyw linell atat ti ac yn disgwyl i fi ateb fel Tecs, ac wrth gwrs, dwi'm yn cofio! Maen nhw'n gwybod yr olygfa i gyd a dwinna fan'no ddim yn gwybod fy rhan i. Mae pobl yn gallu mynd yn reit flin weithia!"

Disgrifiad,

"Hari, paid â chwara' efo hwnna!"

O'r radio i'r teledu

Criw C'mon Midffîld
Disgrifiad o’r llun,

Criw C'mon Midffîld pan oedd hi'n dal yn gyfres radio - efo Phylip Hughes, nid Bryn Fôn, yn actio Tecs!

Ddiwedd yr 80au a dechrau'r 90au, roedd pum cyfres deledu o C'mon Midffîld, a dwy bennod Nadolig estynedig yn 1992 a 2004. Ond dechrau ar y radio wnaeth y sioe, a hynny yn 1985, rhywbeth a weithiodd o blaid y gyfres deledu, meddai Bryn:

"Roedd y cyfresi teledu wedi eu seilio ar yr hen sgriptiau radio, felly roedden nhw wedi cael eu profi'n barod, felly 'chydig bach o waith oedd 'na wedyn i Mei [Jones] eu haddasu nhw ar gyfer y teledu."

Bu farw Mei Jones yn 2021 ond mae ei gymeriadau hoffus yn parhau yn boblogaidd hyd heddiw.

"Dwi'n credu mai'r dair cyfres gynta yna oedd y rhai gorau, mewn ffordd; Mei ar ei orau o ran y sgwennu ac wrth gwrs, hefyd yn portreadu Wali druan."

Mei Jones fel Wali Tomos, llumanwr Bryncoch United
Disgrifiad o’r llun,

Mei Jones fel Wali Tomos, llumanwr Bryncoch United

Un arall fydd hefyd yn yr Oval er mwyn 'trafod tic-tacs' a rhannu ambell i stori fydd cyfarwyddwr a chynhyrchydd y gyfres deledu, Alun Ffred Jones.

Mae Bryn Fôn yn cofio nad oedd hi bob amser yn hawdd i'r criw cynhyrchu allu rhoi rhaglen at ei gilydd, yn enwedig pan oedd pêl-droed yn y cwestiwn...

"Pan oedd 'na gêm bêl-droed yn mynd ymlaen yn erbyn rhyw dîm lleol, pobl pêl-droed, fel ag y maen nhw, jest isho chwarae pêl-droed, felly neb efo llawer o ddiddordeb yn y ffilmio!

"A Ffred yn mynd yn wallgo yn trio cael rhywfath o drefn yn trio cael rhywbeth penodol i ddigwydd. Roedd y creadur yn diodda dipyn dwi'n meddwl!"

Bydd noson Yn ôl i Midffîld yn cael ei chynnal am 7pm ar 13 Mawrth 2025 yng Nghlwb Cefnogwyr Tim Pêl-droed Caernarfon. Nifer cyfyngedig o docynnau (am ddim) ar gael.

Fel rhan o ddathliadau 90 mlwyddiant Bryn Meirion, stiwdios y BBC ym Mangor, bydd y noson yn cael ei recordio gan BBC Radio Cymru ac ar gael fel podlediad ar BBC Sounds.

Pynciau cysylltiedig