Abertawe yn penodi Vitor Matos yn brif hyfforddwr

Vitor MatosFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Matos wedi arwyddo cytundeb tair blynedd a hanner o hyd gyda'r clwb

  • Cyhoeddwyd

Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi penodi Vitor Matos yn brif hyfforddwr newydd.

Dyw Matos, 37, ond wedi bod yn brif hyfforddwr ers mis Mehefin pan ymunodd â Maritimo yn ail haen Portiwgal.

Cyn hynny roedd yn gweithio i Lerpwl am bum mlynedd fel rhan o dîm hyfforddi Jurgen Klopp a threuliodd gyfnod byr fel is-reolwr i Pep Lijnders yn Red Bull Salzburg hefyd.

Fe gadarnhaodd Abertawe brynhawn Llun fod Matos wedi arwyddo cytundeb hyd at haf 2029.

Mae'r BBC ar ddeall bod yr Elyrch wedi ceisio penodi Kim Hellberg yn rheolwr yn dilyn ymadawiad Alan Sheehan, ond fod Hellberg wedi dewis ymuno â Middlesbrough.

Roedd Matosm, sy'n dod o Bortiwgal, yn bresennol yn Ashton Gate ddydd Sadwrn i wylio colled Abertawe o 3-0 yn erbyn Bryste.

Mae cyn-seren yr Elyrch, Leon Britton wedi ymuno a'r tîm hyfforddi dros dro tra bod Joe Allen hefyd yn helpu gyda'r pontio o un rheolwr i'r llall.

Bydd ei gêm gyntaf fel prif hyfforddwr gartref yn erbyn Derby County nos Fawrth.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.