Robbie Savage wedi'i benodi'n rheolwr Macclesfield
![Robbie Savage](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/2048/cpsprodpb/c4f6/live/9e364230-2d59-11ef-a044-9d4367d5b599.jpg)
Mae Robbie Savage, 49, yn gyfranddaliwr yng nghlwb Macclesfield
- Cyhoeddwyd
Mae Robbie Savage wedi cael ei benodi'n rheolwr ar Glwb Pêl-droed Macclesfield yn seithfed haen cynghreiriau Lloegr.
Mae Savage, a enillodd 39 cap i Gymru, yn gyfranddaliwr yn y clwb, a bydd yn cymryd yr awenau yn dilyn diswyddiad Michael Clegg.
Roedd Savage, 49, wedi bod yn gyfarwyddwr pêl-droed gyda’r clwb ers iddo gael ei sefydlu yn 2020.
Cafodd y clwb newydd ei sefydlu wedi i hen glwb y dref - Macclesfield Town - fynd i'r wal.
Mae cyn-ymosodwr Lerpwl, Emile Heskey hefyd wedi ymuno â Macclesfield, ond does dim awgrym eto ym mha rôl.
Savage ydy seithfed rheolwr y clwb ers 2020.
Mae Macclesfield yn chwarae yn y Northern Premier League - y seithfed haen yn Lloegr.